2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru ar 30 Tachwedd 2022.
5. Pa gynnydd y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o ran cydweithio â Llywodraeth y DU ar y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)? OQ58791
Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda Llywodraeth y DU ar y Bil lles anifeiliaid, sy’n gwneud darpariaethau i sicrhau diwygiadau pwysig ar gyfer lles anifeiliaid a gedwir. Mae memoranda cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer holl gymalau'r Bil wedi’u gosod yn y Senedd.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Rwy’n siŵr fod y Gweinidog yn disgwyl cwestiwn am filgwn yma, ond nid ar yr achlysur hwn. Hoffwn nodi a mynegi fy mod yn rhannu pryderon RSPCA Cymru, sydd wedi galw ar Lywodraeth y DU i roi blaenoriaeth i gwblhau’r Bil, fel bod yr arferion creulon y mae’n ceisio mynd i’r afael â hwy yn dod i ben. Fodd bynnag, ceir pryderon fod ymrwymiad Llywodraeth y DU i’r Bil ar fin methu.
Nawr, yn ôl ym mis Tachwedd 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei hymateb i grŵp gorchwyl a gorffen arbenigol gan grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru. Roedd yr adolygiad wedi gwneud 55 o argymhellion a oedd yn ymwneud â materion fel gwell hyfforddiant i awdurdodau lleol, ond nid yw Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu’r rhan fwyaf o’r rhain eto. Felly, yn absenoldeb unrhyw gynnydd gweladwy ar ran Llywodraeth y DU, a oes unrhyw fwriad gan Lywodraeth Cymru i wella rheoliadau Cymru, i gryfhau'r ddeddfwriaeth mewn perthynas â bridio didrwydded a ffermio cŵn bach, yn ogystal â mewnforio ac allforio anifeiliaid anwes o Gymru?
Rwyf am gyfeirio at y ddau beth ar wahân. Felly, o safbwynt Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ein blaenoriaeth yw lles anifeiliaid, fel y nodir yng nghynllun lles anifeiliaid Cymru. Ac mae pethau y gallwn eu gwneud ar ein pen ein hunain, ond hefyd, yn y cynllun hwnnw, mae'n cynnwys cydweithredu â Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill lle mae gwneud hynny'n cynnig manteision amlwg.
Mewn perthynas â’r Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir), rhannaf eich pryder ynghylch y diffyg cynnydd a welsom. Nid yw’r aflonyddwch rydym wedi’i weld a’r anhrefn llwyr yn Llywodraeth y DU wedi helpu, ond rydym yn obeithiol. Rwyf am geisio cael gwybodaeth fwy pendant ynglŷn â hyn yn y grŵp rhyngweinidogol, ond yn sicr, mae swyddogion sydd wedi cyfarfod â'u swyddogion cyfatebol yn DEFRA wedi clywed y bydd dyddiad Cyfnod Adrodd yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir, gobeithio, gan ein bod wedi gweld y Bil yn dod i stop dro ar ôl tro. Ond rydym yn cadw llygad barcud arno, ac unwaith eto, rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau pan fydd gennym ragor o wybodaeth, oherwydd yn amlwg, mae'n Fil Llywodraeth y DU, a hwy sy'n nodi'r amserlen seneddol.
Weinidog, mae’r Bil hwn wedi’i gefnogi gan yr RSPCA, y Dogs Trust a Chymdeithas Milfeddygon Prydain, ac mae pob un ohonynt yn cydnabod y bydd y ddeddfwriaeth yn gwella safonau lles, yn anad dim drwy sicrhau mai dyma'r wlad gyntaf yn Ewrop i wahardd allforio anifeiliaid byw i’w lladd a’u pesgi. A yw’r Gweinidog yn derbyn bod y cyflawniad hwn, ynghyd â’r mesurau i fynd i’r afael â mewnforio cŵn bach, yn gam enfawr tuag at gyflawni’r safonau uchel hynny y mae pob un ohonom yn dymuno'u gweld?
Mae'n ddeddfwriaeth bwysig iawn ar sawl lefel. Fe gyfeirioch chi at ddwy ohonynt, ond mae’r rhan o’r ddeddfwriaeth sy'n ymwneud ag ymosodiadau gan gŵn ar dda byw, i mi, yn bwysig iawn. Nid yw’r ddeddfwriaeth bresennol yn addas i’r diben o gwbl. Rwy'n edrych ar fy mhapur briffio i weld pa flwyddyn—cafodd y ddeddfwriaeth rydym yn gweithio iddi ar hyn o bryd ei llunio ym 1953. Wel, mae hynny cyn imi gael fy ngeni, felly amser maith yn ôl, ac yn amlwg, mae angen ei diweddaru i sicrhau ei bod yn addas i'r diben. Rwyf wedi cael rhai sgyrsiau gyda'r cydgysylltydd troseddau cefn gwlad a bywyd gwyllt ynglŷn a'r ffaith bod gwir angen inni sicrhau bod ein deddfwriaeth yn addas i'r diben, ac yn amlwg, Llywodraeth y DU sy'n gyfrifol am lawer o hynny. Felly, rwy’n fwy na pharod i barhau i weithio gyda Llywodraeth y DU. Fe sonioch chi am wahardd allforio gwartheg byw, sydd, unwaith eto, o safbwynt lles anifeiliaid, yn wirioneddol bwysig yn fy marn i.