Capasiti Prosesu Bwyd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:15, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Credaf eich bod yn codi pwynt pwysig iawn, a gwelsom yr hyn a ddigwyddodd yng ngogledd-ddwyrain Cymru ar ôl inni golli prosesydd llaeth—yr anawsterau a achoswyd gan hynny. Felly, rwy’n awyddus iawn i weld mwy o brosesu llaeth yma yng Nghymru, ac nad ydym yn gweld y tanceri hynny, fel y dywedwch, yn croesi’r ffin. Mae’n benderfyniad masnachol, ond rôl y Llywodraeth yn fy marn i yw sicrhau bod gennym gynlluniau hygyrch i bobl sy’n awyddus naill ai i ehangu eu hadeiladau neu chwilio am gyllid ar gyfer buddsoddiad cyfalaf pellach. Soniais am y cynllun sbarduno busnesau bwyd—dim ond ar 17 Tachwedd yr agorodd—rydym wedi darparu £40 miliwn ar ei gyfer. Bydd ar agor cyhyd ag y bydd angen er mwyn i’r £40 miliwn hwnnw gael ei ddefnyddio, felly rwy'n gobeithio y caiff ei ddefnyddio’n llawn yn y ffordd rydych yn ei hawgrymu.