Capasiti Prosesu Bwyd

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Andrew RT Davies Andrew RT Davies Conservative 3:14, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Un peth sydd bob amser wedi peri penbleth i mi yw gyrru ar hyd yr M4 a gweld tancer ar ôl tancer yn allforio llaeth o ardal laeth gorllewin Cymru. Rwy’n sylweddoli nad penderfyniad y Llywodraeth yw bod hynny’n digwydd—mae wedi bod yn benderfyniad masnachol y mae llaethdai wedi’i wneud ers degawdau lawer—ond drwy unrhyw gapasiti prosesu y mae Llywodraeth Cymru yn edrych arno, dylai fod yn flaenoriaeth i geisio sicrhau mwy o gapasiti prosesu i’r ardal laeth sylweddol honno—mae’n sylweddol—sydd gyda'r mwyaf yng ngorllewin Ewrop, fel y gellir ychwanegu gwerth at y cynnyrch, ac ie, ei allforio allan o Gymru wedyn i gyflawni’r gwerth llawn ar silffoedd y DU a thu hwnt. Felly, gyda'r strategaethau rydych wedi'u rhoi ar waith, pa mor hyderus ydych chi, erbyn diwedd tymor y Senedd hon yn 2026, y byddwn yn gweld cynnydd yn y capasiti prosesu yn ardal laeth gorllewin Cymru i ychwanegu'r gwerth hwnnw a chadw'r arian yma yng Nghymru ac wrth gât y fferm?