Ffliw Adar

Part of 2. Cwestiynau i’r Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd – Senedd Cymru am 3:12 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 3:12, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch. Byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod hynny, yn amlwg, yn rhywbeth y gallwn ei ystyried. Byddai'n well gennyf aros tan fy mod wedi cael fy nghyfarfod gweinidogol ddydd Llun i weld beth yw'r safbwyntiau eraill ledled y DU ac i weld a oes unrhyw beth y gallwn ei wneud ar y cyd. Credaf eich bod yn iawn; mae'r rhain yn adegau heriol i bawb, ac rwy’n derbyn yn llwyr fod pwysau arall o amrywiol fathau ar ein cynhyrchwyr wyau ar hyn o bryd.

Yn sicr, yr wybodaeth a roddir i mi—unwaith eto, soniais yn gynharach ein bod mewn cysylltiad dyddiol mewn perthynas â'r mater hwn—yw bod y cyflenwad yn dynn ond ei fod yn dal ei dir, a gwn fod rhai archfarchnadoedd wedi cyflwyno lefel isel o gyfyngiadau ar faint o wyau y gall cwsmer eu prynu, er enghraifft. Ond teimlwn mai'r perygl mwyaf i'r cyflenwad yw'r cyfryngau'n annog pobl i brynu mewn panig, felly rydym yn awyddus iawn i osgoi hynny.