5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:28 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 3:28, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Mike. Rydym yn argymell y dylai corff annibynnol asesu honiadau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch lefelau cyllid yn y dyfodol a sut mae hyn yn cymharu â chyllid blaenorol yr UE. Rydym yn falch fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i’r argymhelliad hwn, ond yn anffodus, ni chawsom yr un ymrwymiad gan Lywodraeth y DU. Rydym yn annog y Gweinidog, felly, i fynd ar drywydd y mater yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid pan fydd yn cyfarfod nesaf.

Gadewch inni symud ymlaen at Lywodraeth y DU yn gweithredu mewn meysydd datganoledig. Un pryder mawr i ni yw Llywodraeth y DU yn defnyddio’r cronfeydd hyn fel ffordd o weithredu mewn meysydd datganoledig, yn benodol drwy’r pwerau cymorth ariannol yn Neddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2021 a rhaglen Lluosi. Rydym hefyd yn cydymdeimlo â Llywodraeth Cymru am ei bod yn cael ei hanwybyddu yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae Pwyllgor Cyllid y pumed Senedd eisoes wedi archwilio materion sy’n ymwneud â Llywodraeth y DU yn ariannu meysydd datganoledig drwy Ddeddf y farchnad fewnol, felly nid wyf am ailadrodd y dadleuon hynny heddiw. Fodd bynnag, mae rhaglen Lluosi yn tresmasu ymhellach ar faes, fel y dywedodd Gweinidog yr Economi, ‘a ddatganolwyd yn bendant’. Rydym yn siomedig â’r dull o ddyrannu cyllid drwy raglen Lluosi, ac o gofio bod addysg yn faes sydd wedi’i ddatganoli, argymhellwyd gennym y dylai Llywodraeth y DU roi hyblygrwydd i wario arian o’r rhaglen mewn meysydd eraill. Rydym hefyd yn cydnabod safbwynt Llywodraeth Cymru fod ffocws y rhaglen yn rhy gul ac wedi arwain at ddyblygu darpariaeth. Dywed Llywodraeth y DU mai

'Bwriad Lluosi yw ategu darpariaeth bresennol Llywodraeth Cymru' a bod

'Hyblygrwydd o hyd i leoedd addasu darpariaeth Lluosi mewn ymateb i'w hanghenion lleol.'

Fodd bynnag, rydym yn teimlo y dylai hyn fod wedi mynd ymhellach, er mwyn rhoi mwy o hyblygrwydd i Lywodraeth Cymru wario’r cyllid hwn mewn meysydd eraill. Mae’n destun pryder i ni hefyd fod y Senedd hon mewn perygl o gael ei hanwybyddu, a bod angen ystyriaeth bellach, er mwyn sicrhau craffu seneddol effeithiol ar y cronfeydd hyn a chronfeydd newydd yn y dyfodol yng Nghymru.

Er bod y pwyllgor yn gwerthfawrogi presenoldeb Ysgrifennydd Gwladol ac Is-ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd, gwrthododd Gweinidog y DU a oedd yn gyfrifol am yr arian fynychu. Fel pwyllgor, rydym hefyd wedi wynebu problemau tebyg yn y gorffennol wrth geisio ymgysylltu â Thrysorlys EM a hwythau'n gwrthod mynychu’r pwyllgor i drafod materion cyllidol sydd â’r potensial i gael effaith sylweddol ar Gymru. Os yw Llywodraeth y DU yn mynnu gweithredu mewn meysydd datganoledig, ni ddylai'r craffu ddigwydd yn San Steffan yn unig. Mae’r rhain yn drefniadau ariannu newydd, arwyddocaol sy’n galw am strwythurau cydnerth, tryloyw ac atebol ac sy’n adlewyrchu realiti cyfansoddiadol y DU, ac mae angen i’r Senedd hon ystyried ei rôl yn craffu ar y cronfeydd hyn.

Symudaf ymlaen at y tair cronfa benodol y soniais amdanynt ar y dechrau—y gronfa adfywio cymunedol, y gronfa ffyniant bro, a'r gronfa ffyniant gyffredin. Rydym yn bryderus iawn ynghylch y diffyg ymgysylltiad mewn perthynas â phob un o’r tair cronfa rhwng y ddwy Lywodraeth. Mae’r rhain yn ffrydiau ariannu newydd a hanfodol i Gymru, ac mae diffyg deialog yn golygu y bydd amcanion yn cael eu cam-alinio rhwng llywodraeth leol a Llywodraethau Cymru a’r DU. Er mwyn sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni prosiectau, credwn ein bod yn gweithio orau i bobl Cymru pan fydd pob haen o lywodraeth yn cydweithio. Mewn perthynas â’r gronfa adfywio cymunedol a'r gronfa ffyniant bro, clywsom gan lywodraeth leol fod yr amserlenni ar gyfer cyflwyno ceisiadau wedi bod yn heriol, ac efallai fod y pwysau gweinyddol wedi bod yn ffactor allweddol yn y mathau o geisiadau a gyflwynwyd. Mae Llywodraeth y DU wedi cydnabod y safbwynt hwn. Ymhellach, disgrifiwyd y broses fel un gynhenid wastraffus. Rydym yn falch felly fod y gronfa ffyniant gyffredin wedi symud oddi wrth broses gystadleuol y cronfeydd hynny, ac rydym wedi gwneud nifer o argymhellion yn y maes hwn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad yn gadarnhaol am waith ar y cyd â Llywodraeth y DU ar raglen y porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Yn yr un modd, dywedodd Llywodraeth y DU ei bod yn awyddus i gryfhau ei pherthynas waith â Llywodraeth Cymru drwy adeiladu ar ei chydweithrediad effeithiol ar y rhaglen. Yn ogystal, mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn dal yn agored i sgyrsiau gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â'u rôl mewn unrhyw fforwm gweinidogol DU gyfan, ac yn fwy cyffredinol, ynglŷn a'r cyfleoedd iddynt ymgysylltu â'r gronfa ffyniant gyffredin a chyfleoedd codi'r gwastad eraill. Gobeithiwn y bydd Llywodraeth Cymru yn manteisio ar y cynnig hwn i ymgysylltu, a gobeithiwn y gellir ailadrodd y dull a ddefnyddiwyd mewn perthynas â phorthladdoedd rhydd wrth ddarparu arian y gronfa ffyniant gyffredin ac arian yn y dyfodol, er mwyn sicrhau’r buddsoddiad mwyaf posibl yng Nghymru.

Yn olaf, hoffwn edrych ymlaen at gynlluniau ar gyfer cyllid yn y dyfodol. Cyflwynwyd rhaglenni ariannu’r UE dros gyfnod o 10 mlynedd, gyda’r hyblygrwydd a’r proffiliau gwariant hirach yn cael eu disgrifio’n hynod bwysig. Cylch ariannu tair blynedd yn unig sydd gan y gronfa ffyniant gyffredin, ac mae ganddi gyfyngiadau ar symud arian rhwng prosiectau a blynyddoedd ariannol. Ymhellach, gallai dychwelyd tanwariant o'r gronfa ffyniant gyffredin arwain at brosiectau'n cael eu cynnig er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei wario, yn hytrach na sicrhau yr eir i'r afael â blaenoriaethau. Am y rhesymau hyn, rydym yn argymell bod Llywodraeth y DU yn cynyddu hyblygrwydd i symud cyllid y gronfa ffyniant gyffredin rhwng blynyddoedd ariannol a rhwng prosiectau, yn ogystal â chynyddu hyblygrwydd o ran sut y caiff tanwariant ei drin. Rydym yn nodi ymateb Llywodraeth y DU, a dyfynnaf:

'Mae cronfa ffyniant gyffredin y DU yn rhoi cyfle i arweinwyr lleol wario arian fel y gwelant yn dda, ac i alluogi lleoedd ledled Cymru i wireddu eu potensial unigryw.'

Fodd bynnag, mae’r ymateb hwn yn ategu ein barn fod Llywodraeth Cymru yn cael ei hanwybyddu yn y broses o wneud penderfyniadau. Gwnaethom ofyn hefyd am eglurder ynghylch cynlluniau hirdymor Llywodraeth y DU ar gyfer cyllid yn lle cyllid yr UE a statws y gronfa ffyniant gyffredin y tu hwnt i 2025. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd parhad unrhyw gronfeydd presennol neu gronfeydd olynol yn cael ei lywio gan gyfuniad o ymgysylltu â phartneriaid perthnasol a gwerthuso tystiolaeth, ac y byddai’n amhriodol ceisio achub y blaen ar strwythur a ffocws cyllid yn y dyfodol. Yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni, nid yw hyn yn rhoi llawer o sicrwydd, ac mae’r pwyllgor yn credu bod angen gwneud mwy hyd nes y gwelwn drefniadau ariannu sy’n diwallu anghenion Cymru. Diolch yn fawr.