5. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid — 'Trefniadau ariannu ar ôl gadael yr UE'

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 30 Tachwedd 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peter Fox Peter Fox Conservative 3:34, 30 Tachwedd 2022

(Cyfieithwyd)

A gaf fi groesawu'r cyfle i gymryd rhan yn y ddadl heddiw fel aelod o'r Pwyllgor Cyllid, ac a gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ddisgrifio'r sefyllfa mewn ffordd mor huawdl? Wrth gwrs, roedd gadael yr UE bob amser yn mynd i roi heriau, yn enwedig pan oedd cyllid o'r fath wedi ymwreiddio o fewn cymunedau dros gyfnod o amser, ond credaf hefyd ei fod wedi rhoi cyfle inni lunio cynlluniau ariannu newydd fel y gallem gefnogi pobl, busnesau a chymunedau mor effeithiol ac mor effeithlon â phosibl. 

Mae rhai gwahaniaethau gyda'r cronfeydd newydd a gafodd eu croesawu at ei gilydd gan y rhan fwyaf o randdeiliaid. Er enghraifft, mewn tystiolaeth, croesawodd CLlLC benderfyniad Llywodraeth y DU i ddyrannu'r arian hwn yn uniongyrchol i'r cynghorau fel y cyrff a etholwyd yn ddemocrataidd sydd agosaf at y bobl y maent yn eu gwasanaethu, ond rwy'n deall nad yw Gweinidogion Cymru wedi bod yn teimlo mor gadarnhaol ynglŷn â hyn, gan deimlo'u bod wedi'u gwthio i'r cyrion rywfaint. Mae'r adroddiad gan y pwyllgor yn argymell yn briodol y dylai Llywodraeth y DU ddarparu rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut y bydd y fforymau gweinidogol ledled y DU yn cefnogi'r gwaith o gynllunio a darparu'r cyllid.

O safbwynt personol, ac rwy'n ailadrodd y gair personol, mae lle i gefnogi gweinyddu'r cyllid newydd hwn yn fwy lleol. Fel cyn-arweinydd awdurdod lleol, rwy'n gredwr cryf ac yn eiriolwr dros egwyddorion sybsidiaredd. Fel y clywsom gan randdeiliaid, ac fel y gwn fy hun, cynghorau sydd yn y sefyllfa orau yn aml i reoli cynlluniau ariannu. Maent eisoes yn gweithio o fewn strwythurau lleol a rhanbarthol, maent yn gyfarwydd â phartneriaid a rhanddeiliaid, ac maent yn deall beth sydd ei angen yn eu hardal.

Daw hyn â fi at bwynt mwy sylfaenol. Fel y dywedodd y Cadeirydd, clywodd y pwyllgor mewn tystiolaeth fod diffyg ymgysylltu a chydweithio rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn rhwystro potensial cynlluniau cyllido newydd ôl-UE i gyflawni'r hyn y bwriadwyd iddynt ei gyflawni. Mae hyn hefyd yn ein hatal rhag dysgu'n briodol am yr hyn sy'n mynd yn iawn ar hyn o bryd a'r hyn sydd angen ei newid i sicrhau bod y ffrydiau cyllido'n gweithio gyda'i gilydd mewn ffordd gydlynol.

Mae yna bob amser rai problemau cychwynnol wrth sefydlu cronfeydd, ac mae'r rhain wedi cael eu harchwilio gan y Pwyllgor Cyllid, pethau fel amserlenni heriol ac a yw'r broses mor syml ag y gallai fod. Y gobaith yw bod Llywodraeth y DU yn gwrando ar y rhain ac yn nodi ffyrdd o fowldio'r cynlluniau fel eu bod yn gweithio'n fwy effeithlon. Ond rwy'n teimlo bod y ddwy Lywodraeth wedi cael eu tynnu i mewn i ddadl gynyddol gymhleth ynghylch maint y cyllid o'i gymharu â chyllid blaenorol yr UE, sydd wedi suro cysylltiadau'n ddiangen ac wedi rhwystro cynnydd.

Fel y mae'r adroddiad yn nodi, mae'r pwyllgor o'r farn fod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn amcangyfrif bod lefel flynyddol gyffredinol y cyllid drwy gronfa gymdeithasol Ewrop a chronfa datblygu rhanbarthol Ewrop ar yr un lefel yn fras. Y gwahaniaeth yw'r ffordd y mae hyn yn ymwneud â'r cyllid UE sy'n weddill yn dirwyn i ben a dibyniaeth Llywodraeth Cymru ar gyllid a ragwelid o'r UE, sy'n dod â lefel o ansicrwydd o ran faint yn union y byddem wedi'i gael. 

Fel y mae'r Cadeirydd eisoes wedi nodi, ddoe yn unig y cawsom lythyr gan y Gweinidog ffyniant bro ynghylch honiad Llywodraeth Cymru bod gwerth y gronfa ffyniant gyffredin wedi gostwng £400 miliwn. Mae'r llythyr yn dweud bod y datganiad hwn yn ffeithiol anghywir, ac fe gadarnhaodd y Llywodraeth na fu unrhyw newid i gyfanswm cyllid cronfa ffyniant gyffredin y DU. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn mynd i'r afael â hyn yn eu hymateb, oherwydd mae'r drafodaeth wedi cael ei chymylu gan wleidyddiaeth yn rhy aml, ac mae'n dangos pam fod angen agwedd fwy agored a mwy o eglurder ar y ddwy ochr fel ein bod yn gwybod yn union beth sy'n digwydd a sut y bydd unrhyw faterion yn cael eu hunioni fel y gall Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU symud ymlaen o'r ddadl hon o'r diwedd.