Part of the debate – Senedd Cymru am 4:10 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Mae rhaglenni ariannu presennol a newydd yr UE yn gorgyffwrdd dros ddwy flynedd, ac roedd Llywodraeth Cymru'n barod i ddechrau rhaglen fuddsoddi ôl-UE bron i ddwy flynedd yn ôl, ym mis Ionawr 2021, ac erbyn hynny, roeddem eisoes wedi gwneud gwaith dwys iawn gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a chyda'n partneriaid Cymreig ar greu'r model cryfaf posibl ar gyfer Cymru. Ac mae'n dal i fod yn gwbl annerbyniol fod Llywodraeth y DU wedi diystyru'r gwaith manwl iawn hwnnw, a'r ymgynghoriad cyhoeddus a'i cefnogai yn wir, o blaid eu dull eu hunain, a gafodd ei daflu at ei gilydd ar y funud olaf, a bod yn onest, yn gynharach eleni. Ac mae canlyniadau dull ariannu ôl-UE Llywodraeth y DU yn amlwg iawn. Felly, mae fformiwla dosbarthu y gronfa ffyniant gyffredin yn ailgyfeirio cronfeydd datblygu economaidd oddi wrth yr ardaloedd yng Nghymru lle mae'r tlodi mwyaf dwys, ac rydym wedi gweld camau o'r fath yn cael eu dathlu gan ein Prif Weinidog presennol o ran symud cyllid o'r ardaloedd lle mae ei angen fwyaf i'r ardaloedd mwy cyfoethog.
Mae awdurdodau lleol yn cael eu rhoi dan bwysau enfawr oherwydd amserlenni na ellir eu cyflawni nawr ar gyfer datblygu cynlluniau a phrosiectau a rhoi'r trefniadau gweinyddol a'r trefniadau llywodraethu ar waith sy'n gorfod sefyll ochr yn ochr â'u cynigion. A hefyd, yn bwysig iawn, mae prifysgolion, colegau, y trydydd sector a busnesau wedi cael eu cau allan yn llwyr o allu cael mynediad uniongyrchol at y cyllid, ac mae'n gadael llawer o'r sectorau hynny bellach yn adrodd am ddiswyddiadau ac yn cau gwasanaethau hanfodol—effeithiau hollol niweidiol yn y byd go iawn yng Nghymru o ganlyniad i'r sefyllfa bresennol.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cael defnyddio'r gronfa ffyniant gyffredin i gefnogi rhaglenni a ariannwyd drwy Gymru gan yr UE yn flaenorol sy'n hanfodol ar gyfer cynhyrchiant a thwf—er enghraifft, Busnes Cymru, prentisiaethau, y banc datblygu a'n cynlluniau arloesi. Ac oherwydd y lefelau ariannu isel, yr amserlenni byr, yr anhyblygrwydd, mae awdurdodau lleol yn cael eu gorfodi, fel y clywsom, i ddewis prosiectau llai na delfrydol, gyda'r perygl na fyddant yn cael effaith go iawn.
Mae ein cymunedau gwledig, wrth gwrs, £243 miliwn yn waeth eu byd na phe baem wedi aros yn yr UE, oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi didynnu derbyniadau o'r UE a oedd yn ddyledus i Gymru am waith a oedd yn rhan o raglen datblygu gwledig 2014 i 2020. Ac wrth gwrs, mae oedi gwleidyddol wrth ffurfioli cysylltiad y DU â Horizon Ewrop yn golygu bod prifysgolion a busnesau yng Nghymru yn colli mynediad at gyllid ymchwil ac arloesedd hanfodol.
Mae anwybyddu Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn creu perygl o ddyblygu ac atebolrwydd aneglur, ac mae hyn eisoes yn cael ei ddangos drwy'r ffordd y mae Llywodraeth y DU'n cyflawni'r cynllun Lluosi a'i fethiant i ymateb yn ystyrlon yn fy marn i i argymhellion penodol y Pwyllgor Cyllid ar hyn. Mae angen i'r camau hyn gael eu gweld yng nghyd-destun setliad ein cyllideb yng Nghymru, sydd, wrth gwrs, fel y clywsom yn gynharach heddiw, yn werth £1 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf, ac mae'r dull gweithredu hefyd yn tanseilio datganoli ac nid yw'n rhoi fawr o ystyriaeth, mewn gwirionedd, i ddymuniadau partneriaid Cymreig.
Felly, gan droi at argymhellion adroddiad y pwyllgor, rydym yn derbyn pob un sy'n cael eu cyfeirio tuag at Lywodraeth Cymru, a byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i liniaru cymaint o'r tarfu hwn a'r canlyniadau ag y gallwn. Mae hyn yn cynnwys brocera cydweithrediad rhwng sectorau a chynorthwyo llywodraeth leol gyda'u cynlluniau. Rydym hefyd yn parhau i gynnal ein cyfarfodydd rheolaidd o'r fforwm strategol ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru, dan gadeiryddiaeth Huw Irranca-Davies, er mwyn rhannu gwybodaeth a gwersi a ddysgwyd ymhlith partneriaid Cymreig.
Ar argymhellion yr adroddiad ar gyfer Llywodraeth y DU, rydym yn ddiolchgar i'r pwyllgor am godi'r pwyntiau pwysig hyn. Yn anffodus, rwy'n credu bod ymateb Llywodraeth y DU i'r adroddiad yn ddiystyriol, ac mae'n methu mynd i'r afael yn ystyrlon â nifer o'r argymhellion ac unwaith eto, wrth gwrs, mae'n gwrthod derbyn cymaint o gyllid a gollwyd, fel sy'n cael ei deimlo gan gymunedau ledled Cymru bellach.
Byddai Llywodraeth gyfrifol yn y DU yn rhoi anghenion economi Cymru yn gyntaf ac yn gwrando arnom ni, ein partneriaid ac amrywiaeth o arbenigwyr annibynnol a grwpiau trawsbleidiol, sydd wedi annog Gweinidogion y DU i weithredu'n wahanol—i weithredu mewn modd sy'n cynnwys gwneud penderfyniadau ar y cyd ac a fyddai'n cynnig llawer mwy o werth am arian ac effaith economaidd. Mae trafodaeth sylweddol ar gyllid ôl-UE wedi'i threfnu yn y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar Gyllid nesaf, sydd i fod i ddigwydd yn gynnar fis nesaf, rwy'n credu, ac fe fyddaf yn ei fynychu.
Fel y clywsom, fe allasom weithio'n fwy adeiladol gyda'n gilydd, ac yn fwy llwyddiannus, ar fater porthladdoedd rhydd. Mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn efelychu'r dull mwy cynhyrchiol hwnnw wrth gyflwyno cronfeydd ôl-UE a chronfeydd eraill y DU gan ddefnyddio'r Ddeddf marchnad fewnol. Bydd hynny'n golygu, felly, y gallwn fynd i'r afael yn well â heriau strwythurol hirdymor Cymru a manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i gefnogi ein cenhadaeth i greu Cymru gryfach, tecach a gwyrddach.