Part of the debate – Senedd Cymru am 4:07 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch. Rwy'n croesawu'r cynnig heddiw a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Cyllid am ei waith ac am yr adroddiad ar drefniadau cyllido ôl-UE, ond hefyd i'r holl bartneriaid Cymreig sydd wedi dangos cymaint o ddiddordeb yn yr ymchwiliad yn ogystal a darparu tystiolaeth mor glir. Mae'n sicr yn gyfraniad amserol a phwysig i'r drafodaeth ar fater hollbwysig, gan fod dull Llywodraeth y DU o ymdrin â chyllid ôl-UE nid yn unig yn tresmasu'n fwriadol ac yn annerbyniol ar faes polisi datganoledig, ond mae hefyd yn costio mewn swyddi a thwf i Gymru.
Yn ei datganiad yn yr hydref, roedd yn ymddangos bod Llywodraeth y DU yn torri £400 miliwn o gronfa ffyniant gyffredin y DU yn 2024-25 ac nad yw'n dangos unrhyw wariant yn y flwyddyn ariannol hon. Fe wnaeth hynny er bod cynlluniau buddsoddi Cymru ar gyfer y gronfa wedi'u cyflwyno yn ystod yr haf ar gyfer prosiectau a ddylai fod wedi dechrau gweithredu'n barod. Ond rwyf wedi gweld y llythyr hwnnw heddiw sydd wedi'i anfon at Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid ac fe fyddwn yn edrych ymhellach ar hyn, ond mae'n ymddangos, o'r hyn y mae'r llythyr yn ei awgrymu, fod y cyllid bellach wedi'i gynnwys yng nghyllideb adrannol yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn Llywodraeth y DU, ond rwy'n credu y bydd rhaid inni archwilio a chanfod i ba raddau y mae'n gwbl ychwanegol. Ond rwy'n credu bod hynny'n dangos diffyg tryloywder ar ran Llywodraeth y DU mewn perthynas â gwariant, a pha mor anodd yw hi, weithiau, i gael eglurder a pha mor bwysig yw hi fod Llywodraeth y DU yn gwella'r cyfathrebu gyda Llywodraethau datganoledig, yn enwedig mewn meysydd lle maent yn ceisio dylanwadu ar draws cymwyseddau datganoledig.
Rwy'n credu bod y camau hyn yn dangos methiant gwirioneddol a chlir Llywodraeth y DU i gyflawni ei haddewid maniffesto i roi cyllid newydd yn lle cyllid yr UE yn llawn. Nid yw hynny hyd yn oed yn destun dadl, mae'n ffaith absoliwt, oherwydd, pe baem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd, byddem yn cael £375 miliwn ychwanegol bob mis Ionawr. Ond mae Llywodraeth y DU wedi debydu'r arian dilynol sydd gennym ar gyfer y blynyddoedd i ddod ar ôl Brexit. Felly, ni ellir dadlau nad oes llai o arian newydd yn dod i Gymru o ganlyniad.
Roeddwn yn falch o ddangos ein cyfrifiadau. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig i'r Senedd beth amser yn ôl nawr mewn ymateb i gwestiynau gan gyd-Aelodau yn y Siambr i nodi sut y daethom i'r casgliad hwnnw. Ond rwy'n credu na all yr un Aelod yma heddiw wadu'r ffaith bod methiannau Llywodraeth y DU i wneud yr hyn sydd orau i economi Cymru yn pentyrru fesul un.