Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Rwy'n siarad ar ran Plaid Cymru fel cyd-gyflwynydd y cynnig. Mae pob un ohonom yn y Siambr hon yn cynrychioli pobl yr effeithiwyd arnynt gan y pandemig ofnadwy hwn: pobl sydd wedi colli anwyliaid, pobl sydd eisiau gwybod, pan fydd hyn yn digwydd eto—nid yn ein hoes ni, gobeithio—y gall Cymru fod yn barod, mor barod â phosibl, ac wedi'i harfogi gystal ag y gallem fod i wneud y penderfyniadau cywir y tro nesaf.
Roedd hi'n amlwg y byddai angen ymchwiliad arnom. Fe wnaethom alw am un. Fe gytunodd Llywodraeth Cymru. Ond mae'n ymddangos ein bod yn siarad am ddau ymchwiliad gwahanol iawn. I ni, o'r cychwyn roedd yn rhaid iddo fod yn ymchwiliad sy'n benodol i Gymru, yn rhedeg ochr yn ochr ag un y DU—pam lai? Yn wir, cafodd penderfyniadau eu gwneud yn Whitehall a effeithiodd ar bob un ohonom, a meysydd o gyfrifoldeb cyffredin hefyd, ond fe gafodd cymaint o benderfyniadau eu gwneud yn gwbl briodol yng Nghymru gan Weinidogion Cymru, a gafodd eu dwyn i gyfrif yma yn y Senedd hon. Cafodd cyllidebau eu gosod yng Nghymru. Cafodd pobl driniaeth gan staff ymroddedig GIG Cymru. Bu farw miloedd ar draws y sectorau iechyd a gofal yng Nghymru. Dim ond ymchwiliad penodol i Gymru sy'n mynd i allu craffu'n briodol ar y camau gweithredu hynny.
Ond dewisodd y Llywodraeth Lafur optio allan o'r lefel fforensig honno o graffu, gan ddewis gadael y cyfan yn lle hynny yn nwylo pa ymchwiliad bynnag y penderfynodd Boris Johnson, ar y pryd, ei sefydlu. Ac rwy'n siŵr fod hynny'n gwneud cam â phobl Cymru, y rhai a gollodd anwyliaid oherwydd COVID, a phob un ohonom sydd am sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu. Ym mis Mawrth eleni—rwy'n dyfynnu o wefan Llywodraeth Cymru—dywedodd y Prif Weinidog fod 'sylwadau ar y cyd' wedi cael eu gwneud
'i Brif Weinidog y DU er mwyn sicrhau y bydd profiadau pobl Cymru'n cael eu hadlewyrchu'n briodol a thrylwyr yn yr ymchwiliad'.
Ym mis Ebrill, dywedodd:
'Rwy'n falch o weld bod arwyddion cryf eisoes y bydd yr ymchwiliad... wedi ymrwymo i sicrhau bod yr ymchwiliad yn cael ei gynnal mewn ffordd sy'n hygyrch i bobl yng Nghymru, ac yn rhoi'r atebion y maen nhw eu heisiau iddyn nhw.'
Ond y cadeirydd, y Farwnes Hallett ei hun, a roddodd y gwirionedd i ni. Pan ofynnwyd iddi ar ddechrau'r ymchwiliad ynglŷn â lefel y craffu y gellid ei roi i faterion yn ymwneud â Chymru, fe ddywedodd yn glir nad yw'n gallu rhoi sylw i bob mater. Ond mae'n rhaid i ni geisio gwneud hynny.
Nawr, er fy mod i'n dal o'r farn fod angen ymchwiliad Cymreig, mae cynnig heddiw yn argymell dewis arall pragmatig. Mae rhai wedi awgrymu y gallai pwyllgor o'r Senedd hon gynnal ymchwiliad Cymreig llawn—mae gennyf rai pryderon ynghylch capasiti ar gyfer hynny—ond mae'r cynnig hwn yn egluro'r hyn y gellid ei wneud. Os na all ymchwiliad y DU gynnwys yr holl faterion, gadewch inni wneud dadansoddiad o'r bwlch, os mynnwch; nodi'r hyn nad yw'n cael y craffu sydd ei angen, a chanolbwyntio wedyn ar chwilio am atebion i'r materion hynny. Pa wrthwynebiad posibl a allai fod gan y Llywodraeth ac Aelodau Llafur i hynny? Maent yn dweud wrthym eu bod yn cytuno â'r angen am atebion, fod angen inni ddysgu gwersi. Wel, dyma ffordd o'i wneud yn drawsbleidiol, gan ddefnyddio'r adnoddau seneddol sydd ar gael i ni fel Senedd.
Fe wyddom beth yw rhai o'r bylchau. Gallwn ddechrau ar y gwaith yn barod. Mae rhai o'r elfennau sy'n ymwneud â Chymru heb eu cynnwys yng nghwmpas ymchwiliad y DU. Ni wnaeth Llywodraeth Cymru herio'r ffaith nad oedd unrhyw elfen Gymreig i'r gwrandawiad rhagarweiniol ar fodiwl 1 ar barodrwydd ar gyfer y pandemig. Wrth edrych ar yr amserlen, mae'n amlwg na fydd amser—