Part of the debate – Senedd Cymru am 6:15 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, dydd Sadwrn nesaf yw Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae'n rhoi pleser mawr i mi agor dadl ar bwysigrwydd busnesau bach i gymunedau Cymru a'r economi. Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach wedi bod wrthi ers deng mlynedd yn y DU bellach, ac mae'n dychwelyd gyda chenhadaeth—i gefnogi a dathlu 5.6 miliwn o fusnesau bach y DU, yn enwedig wrth iddynt wynebu heriau economaidd cynyddol y gaeaf hwn. Yn ôl mynegai busnesau bach Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae bron i 35,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn disgwyl lleihau, cau neu werthu eu busnes dros y misoedd nesaf. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ymgyrch drwy ymweld â busnes bach neu hyrwyddo busnes bach yn eu hetholaeth neu ranbarth, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o fanteision prynu'n lleol.
Mae'r cynnig heddiw yn cydnabod cyfraniad hanfodol busnesau bach yn cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi. Yng Nghymru, busnesau bach yw 99.4 y cant o fusnesau, ac maent yn cyfrannu 62.4 y cant o gyflogaeth y sector preifat, a 37.9 y cant o'r trosiant. Ond maent yn gymaint mwy na mentrau bach. Maent yn elfennau hanfodol o'n cymunedau ac yn allweddol i'n cymdeithas hefyd. Mae adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach, 'SMEs as the key to rebuilding Wales's economy and communities', yn ei gwneud yn glir, mewn cyfnod o argyfwng neu angen, fod busnesau bach yno ar flaen y gad yn eu cymunedau, yn sicrhau sgiliau, capasiti a galluoedd ar gyfer ysgwyddo heriau cymdeithasol. Ac mae hynny'n hollol iawn. Mae busnesau bach yn gyfryngau newid cymdeithasol, ac rydym yn gweld hynny ledled Cymru, lle mae busnesau'n gwneud pethau anhygoel i gefnogi prosiectau lleol ac achosion da.
Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ein busnesau bach yn y ffordd orau a darparu'r amodau sydd eu hangen arnynt i'w helpu i ffynnu a thyfu. Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar sut y gall leihau'r baich ardrethi busnes yma yng Nghymru, drwy fesurau fel adfer y gwyliau rhyddhad ardrethi 100 y cant, er enghraifft. Fe wyddom mai busnesau Cymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, a bod ardrethi busnes yn un o'r prif gostau i fusnesau bach. Dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ei safbwynt ar ardrethi busnes yn un sy'n anflaengar, ond yn hytrach ei bod yn cefnogi dyhead a thwf busnes. Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021, sy'n golygu y dylai'r gwerthoedd ardrethol adlewyrchu effaith y pandemig COVID, yn ogystal â newidiadau yn y sylfaen drethi ers yr ailbrisiad diwethaf. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfle hwn i roi ystyriaeth ddifrifol i'r anawsterau y mae'r system ardrethi'n eu creu i fusnesau bach, a manteisio ar y cyfle i wneud newid cadarnhaol.
Wrth gwrs, mae pwysau costau byw'n taro busnesau bach yn galed, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu peth cymorth i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu, er mwyn helpu i sbarduno adferiad economaidd. Mae'r cymorth hwnnw i'w groesawu wrth gwrs, ond mae busnesau'n dweud wrthym eu bod angen mwy o gymorth. Roedd adroddiad diweddar y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ar bwysau costau byw yn ei gwneud hi'n glir iawn fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn ariannol i helpu busnesau i oroesi'r pwysau costau byw presennol er mwyn gwarchod swyddi o ansawdd uchel. Gallai hyn naill ai fod ar ffurf grantiau i'r busnesau yr effeithir arnynt waethaf, neu'n wir fel benthyciadau cost isel i gefnogi prosiectau effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. Ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud mwy wrthym am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw.
Lywydd, mae busnesau bach eisoes yn nodi cost gynyddol prinder llafur a sgiliau, a rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl yn arloesol am y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn. Mae'n hanfodol fod cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y system sgiliau yn darparu ar gyfer unigolion, busnesau ac economi Cymru. Rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu sgiliau fel maes sy'n galw am lawer mwy o amser a sylw wrth symud ymlaen. Busnesau bach Cymru yw anadl einioes ein gwlad, wrth iddynt arddangos y pethau gorau yn ein gwlad, ein harloesedd, ein cydlyniant cymunedol a'n pobl, ac felly y Dydd Sadwrn Busnesau Bach hwn, rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn manteisio ar y cyfle i ddathlu ein busnesau bach a dangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch hon.
Mae gwytnwch busnesau bach yn parhau i gael ei brofi, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n gwneud beth bynnag y gall ei wneud i leihau'r baich a chefnogi ein busnesau bach a chanolig. Boed hynny'n gael paned mewn caffi lleol, prynu anrheg Nadolig cynnar o siop fach neu ymweld â'ch cigydd lleol, mae yna fusnes bach allan yno sydd angen ein cefnogaeth. Yn fy etholaeth i, mae ansawdd uchel y cynnyrch sy'n cael ei gynnig gan lawer o fusnesau'n parhau i wneud argraff fawr arnaf, ac rwy'n gwybod bod Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd ar draws Cymru'n teimlo yr un fath. Felly, y dydd Sadwrn hwn, gadewch i bawb ohonom ddyblu ein hymdrechion a hyrwyddo ein busnesau bach a chanolig drwy brynu a hyrwyddo busnesau lleol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.