– Senedd Cymru am 6:15 pm ar 30 Tachwedd 2022.
Dadl nesaf y Ceidwadwyr Cymreig yw'r un ar fusnesau bach. Dwi'n galw ar Paul Davies i wneud y cynnig yma.
Cynnig NDM8151 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi y bydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn cael ei gynnal ar 3 Rhagfyr 2022.
2. Yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud o ran cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well.
Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o wneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar. Fel y bydd yr Aelodau'n gwybod, dydd Sadwrn nesaf yw Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, ac mae'n rhoi pleser mawr i mi agor dadl ar bwysigrwydd busnesau bach i gymunedau Cymru a'r economi. Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach wedi bod wrthi ers deng mlynedd yn y DU bellach, ac mae'n dychwelyd gyda chenhadaeth—i gefnogi a dathlu 5.6 miliwn o fusnesau bach y DU, yn enwedig wrth iddynt wynebu heriau economaidd cynyddol y gaeaf hwn. Yn ôl mynegai busnesau bach Ffederasiwn y Busnesau Bach, mae bron i 35,000 o fusnesau bach yng Nghymru yn disgwyl lleihau, cau neu werthu eu busnes dros y misoedd nesaf. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r ymgyrch drwy ymweld â busnes bach neu hyrwyddo busnes bach yn eu hetholaeth neu ranbarth, er mwyn helpu i godi ymwybyddiaeth o fanteision prynu'n lleol.
Mae'r cynnig heddiw yn cydnabod cyfraniad hanfodol busnesau bach yn cynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi. Yng Nghymru, busnesau bach yw 99.4 y cant o fusnesau, ac maent yn cyfrannu 62.4 y cant o gyflogaeth y sector preifat, a 37.9 y cant o'r trosiant. Ond maent yn gymaint mwy na mentrau bach. Maent yn elfennau hanfodol o'n cymunedau ac yn allweddol i'n cymdeithas hefyd. Mae adroddiad Ffederasiwn y Busnesau Bach, 'SMEs as the key to rebuilding Wales's economy and communities', yn ei gwneud yn glir, mewn cyfnod o argyfwng neu angen, fod busnesau bach yno ar flaen y gad yn eu cymunedau, yn sicrhau sgiliau, capasiti a galluoedd ar gyfer ysgwyddo heriau cymdeithasol. Ac mae hynny'n hollol iawn. Mae busnesau bach yn gyfryngau newid cymdeithasol, ac rydym yn gweld hynny ledled Cymru, lle mae busnesau'n gwneud pethau anhygoel i gefnogi prosiectau lleol ac achosion da.
Felly, mae'n hanfodol fod Llywodraethau ar bob lefel yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi ein busnesau bach yn y ffordd orau a darparu'r amodau sydd eu hangen arnynt i'w helpu i ffynnu a thyfu. Rhaid i Lywodraeth Cymru edrych ar sut y gall leihau'r baich ardrethi busnes yma yng Nghymru, drwy fesurau fel adfer y gwyliau rhyddhad ardrethi 100 y cant, er enghraifft. Fe wyddom mai busnesau Cymru sy'n talu'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain, a bod ardrethi busnes yn un o'r prif gostau i fusnesau bach. Dyna pam y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau nad yw ei safbwynt ar ardrethi busnes yn un sy'n anflaengar, ond yn hytrach ei bod yn cefnogi dyhead a thwf busnes. Bydd yr ailbrisiad ardrethi annomestig nesaf yn dod i rym ar 1 Ebrill 2023, yn seiliedig ar werthoedd eiddo ar 1 Ebrill 2021, sy'n golygu y dylai'r gwerthoedd ardrethol adlewyrchu effaith y pandemig COVID, yn ogystal â newidiadau yn y sylfaen drethi ers yr ailbrisiad diwethaf. Ac felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r cyfle hwn i roi ystyriaeth ddifrifol i'r anawsterau y mae'r system ardrethi'n eu creu i fusnesau bach, a manteisio ar y cyfle i wneud newid cadarnhaol.
Wrth gwrs, mae pwysau costau byw'n taro busnesau bach yn galed, ac rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi darparu peth cymorth i helpu busnesau bach a chanolig yng Nghymru i ail-lansio, datblygu, datgarboneiddio a thyfu, er mwyn helpu i sbarduno adferiad economaidd. Mae'r cymorth hwnnw i'w groesawu wrth gwrs, ond mae busnesau'n dweud wrthym eu bod angen mwy o gymorth. Roedd adroddiad diweddar y Pwyllgor Economi, Masnach a Materion Gwledig ar bwysau costau byw yn ei gwneud hi'n glir iawn fod angen i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn ariannol i helpu busnesau i oroesi'r pwysau costau byw presennol er mwyn gwarchod swyddi o ansawdd uchel. Gallai hyn naill ai fod ar ffurf grantiau i'r busnesau yr effeithir arnynt waethaf, neu'n wir fel benthyciadau cost isel i gefnogi prosiectau effeithlonrwydd a chynaliadwyedd. Ac felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gwnaiff y Dirprwy Weinidog ddweud mwy wrthym am y camau sy'n cael eu cymryd i fynd i'r afael â'r argymhellion a nodwyd yn yr adroddiad hwnnw.
Lywydd, mae busnesau bach eisoes yn nodi cost gynyddol prinder llafur a sgiliau, a rhaid i Lywodraeth Cymru feddwl yn arloesol am y ffordd orau o fynd i'r afael â hyn. Mae'n hanfodol fod cyflogwyr, darparwyr hyfforddiant a llunwyr polisi i gyd yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y system sgiliau yn darparu ar gyfer unigolion, busnesau ac economi Cymru. Rwy'n mawr obeithio bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu sgiliau fel maes sy'n galw am lawer mwy o amser a sylw wrth symud ymlaen. Busnesau bach Cymru yw anadl einioes ein gwlad, wrth iddynt arddangos y pethau gorau yn ein gwlad, ein harloesedd, ein cydlyniant cymunedol a'n pobl, ac felly y Dydd Sadwrn Busnesau Bach hwn, rwy'n gobeithio y bydd yr holl Aelodau yn manteisio ar y cyfle i ddathlu ein busnesau bach a dangos eu cefnogaeth i'r ymgyrch hon.
Mae gwytnwch busnesau bach yn parhau i gael ei brofi, ac mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru'n gwneud beth bynnag y gall ei wneud i leihau'r baich a chefnogi ein busnesau bach a chanolig. Boed hynny'n gael paned mewn caffi lleol, prynu anrheg Nadolig cynnar o siop fach neu ymweld â'ch cigydd lleol, mae yna fusnes bach allan yno sydd angen ein cefnogaeth. Yn fy etholaeth i, mae ansawdd uchel y cynnyrch sy'n cael ei gynnig gan lawer o fusnesau'n parhau i wneud argraff fawr arnaf, ac rwy'n gwybod bod Aelodau sy'n cynrychioli ardaloedd ar draws Cymru'n teimlo yr un fath. Felly, y dydd Sadwrn hwn, gadewch i bawb ohonom ddyblu ein hymdrechion a hyrwyddo ein busnesau bach a chanolig drwy brynu a hyrwyddo busnesau lleol. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Wrth inni nesáu at Sadwrn y Busnesau Bach, mae'n rhaid inni gydnabod ein bod yng nghanol yr argyfwng costau byw gwaethaf ers 40 mlynedd. Bydd yr effaith ar ein busnesau bach yn ddifrifol. Dyma un o'r prif bryderon economaidd sy'n wynebu busnesau bach ar hyn o bryd, gydag 89 y cant o gwmnïau yn nodi costau uwch na blwyddyn yn ôl. Ni fydd gan fusnesau bach y cronfeydd wrth gefn sydd gan fusnesau mwy, ac yn aml byddant yn wynebau costau uwch oherwydd eu maint. Bydd yr effaith yn waeth ar economi Cymru wrth gymharu â mannau eraill, o ganlyniad i nifer cymharol uwch o fusnesau bach. Fodd bynnag, mae gennym gyfle unigryw yma i fynd i'r afael â'r argyfyngau costau byw ac hinsawdd ar yr un pryd a chreu economi i'r dyfodol. Mae busnesau bach yn awyddus i helpu. Maen nhw'n awyddus i helpu cyrraedd y targedau newid hinsawdd, ond roedd 76 y cant yn teimlo bod angen gwell cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru yn y maes hwn. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer mentrau ynni gwyrdd, fel gosod paneli solar, yn ogystal â gwelliannau i strwythur a ffabrig adeiladau, yn enwedig yn y diwydiannau ynni dwys. Byddai hyn nid yn unig yn gostwng costau i fusnesau ac yn eu diogelu'n well rhag newidiadau yn y farchnad ynni, ond byddai'n helpu i gyflawni ein targedau sero net a symud i economi wyrddach.
Lywydd, ni fyddai unrhyw gyfraniad i ddadl ar fusnesau bach yn y cyfnod yn arwain at Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach yn gyflawn heb imi fanteisio ar y cyfle i dynnu sylw at rai o'r busnesau lleol gwych yn fy rhanbarth. Y llynedd, dywedais wrth yr Aelodau ble rwy'n cael torri fy ngwallt; wel, yn wahanol i'r llynedd, rwyf bellach yn cael torri fy ngwallt yn Dappa Chaps ym Mhencoed gan farbwr gwych o'r enw Fletch—dim perthynas o gwbl. Ond achos cryn falchder i Bencoed oedd bod Dappa Chaps, ynghyd â salon ewinedd Mia Bella, ill dau wedi ennill gwobrau yng ngwobrau'r diwydiant harddwch yng Nghymru. Llongyfarchiadau i'r ddau fusnes, wrth gwrs. [Torri ar draws.] Ewch amdani, Jack.
Nid wyf yn mynd i siarad am dorri gwallt nawr, ac nid wyf yn cael fy ewinedd wedi'u trin. Ond mae'n cynnwys mwy na salonau ewinedd neu farbwyr neu siopau trin gwallt yn unig, mae yna bethau fel siopau tatŵs, a gallaf ddweud wrthych fy mod wedi cael fy nhatŵ ar gyfer cwpan y byd yn stiwdio tatŵs Purple Moon yng Nghei Connah. A wnewch chi ymuno â mi i longyfarch y mathau hynny o fusnesau hefyd?
Wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i ymuno â chi i'w llongyfarch. Bydd yr Aelodau hefyd yn falch o glywed fy mod yn dal i fynd i'r Sandwich Co, busnes gwych arall ym Mhencoed, ac rwy'n dal i archebu'r Arnie sarnie. Rwy'n greadur sy'n gaeth i arfer wedi'r cyfan. Ond i'r rhai sy'n dymuno profi bwydlen ehangach ac sy'n gyffrous ar gyfer y Nadolig, rhowch gynnig ar y cracer Nadolig—twrci, stwffin, selsig, saws llugaeron, bacwn crensiog, ysgewyll wedi'u malu a'r opsiwn i ychwanegu moch mewn blancedi. #Dimproblem.
Arferiad arall sydd gennyf, wrth imi gerdded i fy swyddfa o'r orsaf drenau, yw aros ym mecws Beat ar waelod Station Hill am un o'r coffis gorau ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n siŵr y byddai'r Torïaid gyferbyn yn falch iawn o wybod eu bod yn gwneud eu cartref yn hen swyddfa Suzy Davies. Ni allaf ddweud beth oedd ansawdd y coffi yn swyddfa Suzy, ond byddwn yn mentro dweud bod y coffi wedi gwella'n sylweddol. Wrth gwrs, nid yw paned o goffi'n gyflawn heb doesen, ac mae Whocult yn dal i fod yn frenin y toesenni i mi. Ers imi sôn wrth yr Aelodau am Whocult ddiwethaf, maent wedi ehangu'n sylweddol ac yn mynd o nerth i nerth.
Yn olaf, Lywydd, wrth i ni anelu at y Nadolig, efallai y byddwch eisiau prynu anrheg i'r Dirprwy Lywydd. A gaf fi awgrymu y dylech edrych yn ei etholaeth a chael rhywbeth iddo o San Portablo, siop ddillad yng nghanolfan siopa Aberafan sy'n falch o fod ym Mhort Talbot? Busnesau bach yw ein cymunedau. Ie, cefnogwch hwy ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach, ond cefnogwch hwy drwy gydol y flwyddyn hefyd.
Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl hon ac i dynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol busnesau bach i'n heconomi a hefyd i'n cymunedau. Mewn byd sy'n symud yn gyflym lle bydd busnesau i gyd yn chwilio am y cyfleoedd gorau, mae gan gwmnïau mawr fantais o allu adleoli i ranbarthau eraill a hyd yn oed gwledydd eraill i fanteisio ar drethi is a chymhellion eraill pe baent yn dymuno gwneud hynny. Ar y llaw arall, mae busnesau bach wedi'u gwreiddio yn y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu, a chlywais gan lawer o fy nghyd-Aelodau yma heddiw eu bod hwy'n gefnogol i hynny hefyd. I mi, maent yn rhan hanfodol o economi Cymru, gan ddarparu swyddi i dros 62 y cant o gyfanswm y gweithlu cyflogaeth menter yma.
Mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ymwneud â phwysleisio pwysigrwydd busnesau bach yn eu cymunedau ac annog mwy o bobl i siopa'n lleol. Ond cyn imi siarad am rai o'r problemau sy'n eu hwynebu, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol dewrder y bobl sy'n cymryd risg ac yn penderfynu sefydlu eu busnes eu hunain yn y lle cyntaf, oherwydd yn sicr nid yw'n hawdd. Amser maith yn ôl, roeddwn i eisiau sefydlu fy musnes colur fy hun, ac roedd maint y buddsoddiad yn syfrdanol, a bu'n rhaid i mi roi'r gorau i'r syniad. Y diffiniad safonol o entrepreneur yw,
'unigolyn sy'n sefydlu busnes neu fusnesau, gan ysgwyddo risgiau ariannol yn y gobaith o wneud elw.'
Mae pobl sy'n cymryd risg yn y byd busnes yn cymryd risg gyda'u bywoliaeth, eu henw da, a hyd yn oed eu perthynas er mwyn cyflawni eu nod terfynol. O greu ap, i agor siop, i lansio brand newydd, y gwir amdani yw bod pob entrepreneur wedi cymryd risgiau enfawr wrth benderfynu sefydlu eu busnes eu hunain. I ddarpar ddynion a gwragedd busnes, mae'r syniad o fod yn fos arnoch chi eich hun yn y tymor hir yn gorbwyso'r risg bosibl o fethu. Mae entrepreneuriaid yn mentro'n ofalus bob dydd, ond mae'n bosibl nad oes yr un risg yn fwy na'r penderfyniad cychwynnol i ddechrau busnes yn y lle cyntaf. Credaf yn ddiffuant gyda fy holl enaid y dylai Llywodraeth Cymru wneud popeth yn ei gallu i gefnogi'r rheini sy'n cymryd risgiau ac annog busnesau bach i dyfu ac i ffynnu. Mae hynny'n golygu gweithredu ar ardrethi busnes. Ardrethi busnes, rhenti a chyflogau yw'r tri alldaliad mwyaf i unrhyw fusnes bach. Ar adeg pan fo busnesau bach yn wynebu cynnydd digynsail yn eu costau, fel y soniodd fy nghyd-Aelod Paul Davies, gan roi gwleidyddiaeth o'r neilltu, dylai Llywodraeth Cymru ddilyn arweiniad Llywodraeth y DU a darparu mwy o ryddhad ardrethi busnes. Byddai hyn yn rhoi cymorth amserol i ganiatáu i gwmnïau ganolbwyntio ar ehangu eu busnes a chyflogi staff newydd.
Lywydd, eleni yw degfed pen-blwydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Mae'n gyfle gwych i dynnu sylw at y rôl hanfodol y mae busnesau bach yn ei chwarae yn eu cymunedau, ac wrth greu swyddi yn y bôn. Ond dylem hefyd gydnabod a chanmol dewrder a mentergarwch y rhai sy'n penderfynu sefydlu eu busnesau eu hunain, oherwydd hebddynt, byddem i gyd yn llawer tlotach. Diolch.
Mae cyfarfod â busnesau bach bob amser yn gymaint o anrhydedd, onid yw, fel cynrychiolydd. Yn sicr, wrth siarad â nifer y penwythnos diwethaf o gwmpas Pontypridd, mae'r heriau y maent yn eu hwynebu yn enfawr o ran y prisiau hynny, wrth iddynt ddal i adfer wedi COVID. Ond hefyd, oherwydd bod gan bobl lai o arian, mae yna lai o wario yn y siopau hynny, ac mae'n heriol tu hwnt.
Her arall i ardaloedd fel Pontypridd—ac mae hyn yn wir i lawer iawn o gymunedau ledled Cymru—yw'r her os ydynt hefyd yn wynebu ofn yn sgil perygl llifogydd. Bydd nifer ohonoch yn cofio ym mis Chwefror 2020 y lluniau o ganol tref Pontypridd dan ddŵr, a llawer iawn o gymunedau eraill. Wrth gwrs, cafodd cartrefi eu difetha, ond i'r busnesau hynny mae'n hynod o heriol os nad yn amhosibl nawr i allu cael yswiriant. Os ydych mewn ardal sydd wedi cael ei heffeithio gan lifogydd a bod gennych chi dŷ, rydych chi'n gallu cael yswiriant drwy'r cynllun Flood Re, ond nid oes cynllun o'r fath yn bodoli ar gyfer busnesau. Felly, pan fyddwn yn ystyried yng ngoleuni'r argyfwng hinsawdd, ac o wybod bod dyfodol canol trefi fel Pontypridd yn mynd i fod dan fygythiad, hoffwn hefyd ofyn i'r Llywodraeth ystyried yr ysgogiadau i gefnogi busnesau bach yn well, yr hyn a wnawn i gefnogi'r busnesau hynny na all gael yswiriant ac os oes opsiwn i gael yswiriant, y busnesau bach sy'n methu fforddio yswiriant ar hyn o bryd, oherwydd mae hyn wedyn yn effeithio arnynt os aiff unrhyw beth o'i le gyda'u busnes o ran eu gwytnwch. [Torri ar draws.] Sam.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar i chi am ildio. Heriais y Gweinidog newid hinsawdd ar yr union bwynt hwn, oherwydd ar y Cei yn fy etholaeth yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, mae busnesau fel Quayside Orthodontics a Towy Works wedi dioddef llifogydd. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi y dylai busnesau gael eu trin yn gyfartal ag ardaloedd preswyl mewn perthynas â diogelu rhag llifogydd?
Yn sicr. Rwy'n cytuno'n llwyr. Wrth weld y busnesau hynny wedi'u dinistrio—. Dim ond newydd ailagor ei ddrysau mae Clwb y Bont. Gofynnwyd i mi, ar y diwrnod y cafodd ei agor, 'A yw Clwb y Bont yn ddiogel yn y dyfodol nawr?' Wel, na, nid yw'n ddiogel. Os oes llifogydd bach, ydy, oherwydd bod giatiau amddiffyn rhag llifogydd yno, wedi'u darparu drwy gyllid, ond ni fyddai wedi helpu pe baem wedi gweld faint o ddŵr a ddaeth yn ystod y noson dyngedfennol honno.
I lawer iawn o fusnesau, rwy'n credu eu bod yn dal i ddioddef trawma nawr o fod wedi profi llifogydd ac mewn rhai achosion, ar ôl dioddef llifogydd ar fwy nag un achlysur. Rwy'n meddwl bod Sioned Williams wedi sôn yn ddiweddar am ei rhanbarth, am yr enghraifft honno. Felly, rwy'n credu bod angen inni edrych, o ran gwytnwch; mae'n ymwneud â mwy na'r sefyllfa economaidd. Ond yn sgil yr argyfwng hinsawdd, mae angen inni wneud popeth posibl oherwydd busnesau bach a chanol ein trefi yw'r hyn sy'n creu cymunedau. Dyma lle daw pobl at ei gilydd, dyma lle gallwn gyfarfod, mwynhau a bod â rhan allweddol i'w chwarae mewn perthynas â'n hymateb i argyfwng hinsawdd. Felly, rwy'n hapus iawn i allu cefnogi hyn heddiw, ond hefyd i apelio arnoch hefyd i ystyried y busnesau sy'n wynebu perygl llifogydd yn gyson. Maent hwy angen ein cefnogaeth hefyd.
Mae busnesau i fyny ac i lawr yn fy etholaeth, ac maent yn chwarae rhan enfawr yn fy nghymuned. Hoffwn eu rhestru i gyd, fel y gwnaeth Luke Fletcher, ond ar ôl fy nghyfraniad y llynedd, cefais e-byst gan bobl a oedd yn eithaf gofidus na wneuthum sôn amdanynt hwy, felly rwy'n credu ei bod hi'n well imi beidio â gwneud hynny mae'n debyg. Ond hoffwn ddweud bod nifer o fusnesau, yn y gogledd a'r de, y dwyrain a'r gorllewin yn fy etholaeth, ac maent yn darparu gwasanaethau, maent yn creu swyddi, maent yn creu cyfoeth ac mewn sawl achos, hwy yw canolfannau cymdeithasol cymunedau. Mae nifer o fusnesau bach yn yr ardal sy'n gwneud hynny, a bûm yn ddigon ffodus i fynd i wobrau busnes Powys ym marics Aberhonddu yr wythnos o'r blaen, ac roedd yn wych gweld cynifer o fusnesau ar draws Powys sy'n gwneud gwaith hollol wych yn hyrwyddo Cymru ac yn hyrwyddo ein hardal. Ac mae'r rhain yn cael eu rhedeg gan bobl sy'n gweithio'n galed ac yn arllwys eu bywyd a'u henaid i'r busnesau hyn. Nid corfforaethau hynod gyfoethog ydynt ac nid oes ganddynt lawer iawn o arian y tu ôl iddynt, ond maent yn bobl sy'n gweithio'n galed ac sy'n darparu swyddi a gwasanaethau pwysig, a'r swyddi hynny i'r bobl leol hynny sy'n cefnogi ein teuluoedd lleol. Dyna pam ei bod hi'n hanfodol ac yn bwysig fod ein busnesau bach yn cael eu cefnogi, nid yn unig gan Lywodraeth Cymru, ond Llywodraeth y DU hefyd, a phob Llywodraeth ar draws y wlad mewn byd mwyfwy ansicr oherwydd costau ynni cynyddol a chostau nwyddau.
Ond mae yna bethau pendant y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud ynghylch ardrethi busnes, a hoffwn weld ardrethi busnes yn cael eu gostwng yma yng Nghymru i wneud ein busnesau'n fwy cystadleuol, oherwydd mae llawer o fusnesau rwy'n siarad â hwy yn fy etholaeth yn dweud eu bod o dan anfantais uniongyrchol o gymharu â rhannau eraill o'r DU ac mae'n gyrru pobl o'r stryd fawr am na allant fforddio'r ardrethi sy'n rhaid iddynt eu talu. A hoffwn i Weinidogion Llywodraeth Cymru gydnabod y cyfoeth a gynhyrchir a'r swyddi sy'n cael eu creu gan y busnesau bach hyn, oherwydd hwy yw anadl einioes llawer o'n cymunedau. Heb y busnesau bach hyn ar ein stryd fawr, byddant yn darfod, ac rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth nad yw'r Dirprwy Weinidog eisiau ei weld, mae hynny'n rhywbeth nad wyf fi eisiau ei weld, ac rwy'n siŵr nad oes neb ar draws y Siambr eisiau gweld ein strydoedd mawr yn dod yn ardaloedd lle nad oes neb yn mynd iddynt a'u bod yn mynd yn ddiffaith ac yn wag.
Ond rwyf am weld mwy o fusnesau; rwyf am weld mwy ohonynt yn cael eu sefydlu, mwy o gyfleoedd, mwy o grantiau, mwy o argaeledd, mwy o siopau'n dod ar-lein i bobl gael mynediad at y busnesau hyn. Oherwydd pan fydd busnes yn ffynnu, mae ein gwasanaethau cyhoeddus yn ffynnu, oherwydd heb eu cymorth i gyfrannu at yr economi, ni allwn gael y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol sydd eu hangen ar bawb. Felly, rwyf am annog pob Aelod yn y Siambr i fynd allan i gefnogi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach a gwneud eich siopa yno—rhowch y gorau i Amazon ac ymunwch â'r stryd fawr.
Dwi'n galw nawr ar Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i gyfrannu, Dawn Bowden.
Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr i nodi pwysigrwydd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac i gydnabod y cyfraniad hanfodol y mae busnesau bach yn ei wneud drwy gynnal economïau lleol, datblygu cymunedau a chreu swyddi. Ac fel y mae eraill wedi dweud eisoes, busnesau bach a chanolig yw anadl einioes economi Cymru a dyna yw dros 99 y cant o fusnesau Cymru, gan gyfrannu bron i 63 y cant o'r holl gyflogaeth.
Ac fe allem i gyd ddangos ein cefnogaeth i fusnesau lleol drwy brynu ganddynt, ac mae digwyddiadau fel Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn ein hatgoffa'n bwysig y gallwn gefnogi ein busnesau bach a chanolig yn uniongyrchol drwy siopa'n lleol a sicrhau bod cyfran o'n harian yn cael ei fuddsoddi'n syth yn ôl i mewn i'n heconomïau lleol. Mae hynny'n rhywbeth y bûm yn ei wneud yn fy etholaeth, fel y gwn fod Aelodau eraill wedi bod yn ei wneud, a byddaf yn tynnu sylw at hynny ac yn ei hyrwyddo y penwythnos hwn. Fel James, nid wyf am fentro rhestru'r holl fusnesau gwych yn fy etholaeth, heblaw am y siop trin gwallt o'r enw Hairport sydd wedi bod yn troi fy ngwallt yn borffor dros y misoedd diwethaf. Ond mae hyn hefyd yn cynnwys cefnogi ein busnesau cymdeithasol yng Nghymru sy'n ffurfio sector deinamig, amrywiol, ac sydd wedi dangos twf sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Ar hyn o bryd, mae 2,309 o fusnesau cymdeithasol wedi'u nodi yng Nghymru, sy'n cyflogi tua 59,000 o bobl, ac mae'n bwysig ein bod yn dysgu o werthoedd ac egwyddorion mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol sydd wedi ein helpu drwy'r pandemig i adeiladu yfory tecach, gwyrddach a mwy llewyrchus, ac roedd hynny'n rhywbeth a nodwyd gan Cefin Campbell yn ei ddadl fer yr wythnos diwethaf.
Nawr, rwy'n falch o'n hanes o ddatblygu diwylliant entrepreneuraidd cryf, ac mae entrepreneuriaeth ac arloesedd yn allweddol i dyfu'r economi yng Nghymru. Rydym wedi ymrwymo i feithrin ysbryd entrepreneuraidd yn ein perchnogion busnesau bach a chenedlaethau'r dyfodol, gan gefnogi cyflwyno technolegau arloesol, cynhyrchion a gwasanaethau newydd i helpu busnesau i barhau'n gystadleuol, creu swyddi, a manteisio ar gyfleoedd sy'n codi i dyfu eu busnesau. Drwy Busnes Cymru, mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n weithredol ar ymgysylltu a chefnogi ein microfusnesau a'n busnesau bach a chanolig, yn enwedig y rhai sydd wedi'u gwreiddio yn eu cymunedau lleol ac sydd wedi buddsoddi yng Nghymru yn hirdymor. Dyna pam ein bod yn buddsoddi £20.9 miliwn rhwng 2023 a 2025 yn ein gwasanaeth Busnes Cymru, i barhau i sicrhau bod gan fusnesau fynediad at yr wybodaeth, y canllawiau a'r cymorth busnes sydd eu hangen arnynt i ddechrau, i dyfu ac i ffynnu. Bydd hyn yn adeiladu ar y llwyddiant a welsom hyd yma gyda gwasanaeth Busnes Cymru.
A wnewch chi dderbyn ymyriad, Weinidog?
Yn sicr.
Rwy'n ddiolchgar i chi am gymryd yr ymyriad. Mae'n cael ei dderbyn o bob rhan o'r Siambr ein bod i gyd yn dathlu busnesau bach y dydd Sadwrn yma, ond yn anffodus, heddiw yn y newyddion—rwyf newydd ei ddarllen nawr—mae HSBC wedi cadarnhau eu bod yn cau 114 o fanciau. Os meddyliaf am fy nhref leol fy hun, sef y Bont-faen, mae un o'r canghennau yno. Ni fydd un gangen stryd fawr ar y stryd fawr nawr. A oes gennych chi farn ar y cyhoeddiad hwnnw, ac yn fwyaf arbennig, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i geisio annog cyfleoedd bancio i gynifer o fusnesau bach allu cael mynediad atynt i wneud iawn am golli gwasanaeth?
Mae'n broblem real iawn, Andrew, ac rwy'n ei weld yn fy etholaeth fy hun. Nid oes unrhyw gangen stryd fawr yng nghwm Rhymni uchaf nawr, ac rydym bellach wedi gorfod dibynnu ar ganghennau symudol. Felly, mae Banc Lloyd's yn dod â changen symudol i Rhymni. Rwy'n credu mai'r ateb o bosibl yw edrych ar fodel mwy tebyg i hyb ar gyfer canghennau sy'n gallu symud o gwmpas, ond mae hynny'n rhywbeth y mae gwir angen inni ei drafod gyda changhennau, oherwydd mae cymaint o bobl heb fynediad at gyfleusterau bancio; nid yw pawb ohonynt yn defnyddio bancio ar y rhyngrwyd, felly mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffordd o wneud hynny. Felly, mae'n ddrwg iawn gennyf glywed y cyhoeddiad hwnnw, ac mae angen inni geisio dod o hyd i atebion ar gyfer hynny.
Fodd bynnag, o'r £20.9 miliwn rydym yn ei fuddsoddi, mae hwnnw'n adeiladu ar lwyddiant Busnes Cymru a welsom hyd yma. Ers 2016, mae Busnes Cymru wedi cynghori dros 45,000 o entrepreneuriaid a busnesau unigol, gan helpu i sefydlu bron i 800 o fentrau newydd a chefnogi busnesau i greu 32,500 o swyddi newydd. O ran gwerth am arian, rydym yn gwybod y gall pob £1 a fuddsoddwyd ym Musnes Cymru gael ei chysylltu ag isafswm o £10 a hyd at £18 o gynnydd gwerth ychwanegol gros net y flwyddyn. Ac mae gan y busnesau sydd wedi cael cefnogaeth gyfradd oroesi o 77 y cant dros bedair blynedd, o'i gymharu â'r cyfartaledd o 33 y cant i rai nad ydynt yn cael cymorth.
Nawr, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cefnogi busnesau bach gyda'i chynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach. Ac er ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu i gefnogi busnesau bach, mae'n hanfodol fod Llywodraeth y DU yn cadw ei hymrwymiad ac yn gweithio i ychwanegu gwerth i ymyriadau Llywodraeth Cymru ac i ddefnyddio'r ysgogiadau sydd ganddi i gefnogi busnesau bach yn well yng Nghymru. Drwy'r genhadaeth economaidd, rydym yn cymryd camau beiddgar i gefnogi economïau lleol cryfach a'r gwaith allweddol o drechu tlodi. Ac rwy'n clywed yr hyn y mae Heledd Fychan wedi'i ddweud am lifogydd ac anallu busnesau lleol i gael yswiriant ar gyfer hynny, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth y byddaf yn siarad â fy nghyd-Weinidogion, y Gweinidog Newid Hinsawdd a Gweinidog yr Economi yn ei gylch, er na allaf roi unrhyw sicrwydd ynghylch hynny heddiw wrth gwrs.
Ond rydym hefyd yn defnyddio ein hysgogiadau caffael i alluogi busnesau bach i elwa ar gyfleoedd caffael y sector cyhoeddus. Caiff gwerth biliynau o bunnoedd o gontractau eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru a thrwy gydweithredu â phrynwyr y sector cyhoeddus. Mae Busnes Cymru yn annog ein busnesau bach i ddatblygu eu galluoedd tendro er mwyn ennill mwy o fusnes. Drwy ymrwymiad ehangach i wella cadwyni cyflenwi, rydym yn cynorthwyo busnesau i gefnogi codau ymarfer ar gyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, ac rydym wedi ymrwymo i fanteision ysgogiadau caffael ac yn rhoi partneriaeth gymdeithasol ar sail statudol drwy Fil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Felly, mae Dydd Sadwrn y Busnesau Bach yn fenter wych i daflu goleuni ar bwysigrwydd cefnogi'r sectorau manwerthu a lletygarwch, sydd, wrth gwrs, yn rhannau allweddol o'r economi sylfaenol. Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig sydd wedi'i wneud, a byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i gefnogi microfusnesau, a busnesau bach a chanolig yma yng Nghymru, a hoffwn annog pawb ledled Cymru i siopa'n lleol a chefnogi ein busnesau bach annibynnol, nid yn unig ar Ddydd Sadwrn y Busnesau Bach ond drwy gydol y flwyddyn fel y gallwn gadw a thyfu cyfoeth lleol mewn cymunedau ledled Cymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n galw nawr ar Sam Rowlands i ymateb i'r ddadl. Sam Rowlands.
Diolch, Lywydd, ac a gaf fi ddweud cymaint o bleser yw cau dadl heddiw ar fusnesau bach, cyn Dydd Sadwrn y Busnesau Bach, wrth gwrs, sy'n digwydd y penwythnos hwn, fel y clywsom? Fel yr amlinellodd Paul Davies wrth agor y ddadl heddiw, hon fydd y ddegfed flwyddyn lle byddwn yn nodi Dydd Sadwrn y Busnesau Bach ac yn dathlu gyda'n cymheiriaid ar draws y Deyrnas Unedig y 5.6 miliwn o fusnesau bach, gyda'r gorau o'r rheini yma yng Nghymru wrth gwrs. Hoffwn ddiolch yn gyntaf i'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr a'r rhaniad gwleidyddol am eu cyfraniadau heddiw, ynghyd â'r gefnogaeth drawsbleidiol i'r cynnig yma heddiw hefyd.
Wrth gloi'r ddadl heddiw, hoffwn ganolbwyntio ar dair thema allweddol a gafodd sylw gan Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr. Y pwynt cyntaf sydd wedi bod yn amlwg iawn yw pwysigrwydd busnesau bach i economi Cymru ac i'n cymunedau lleol, fel yr amlygwyd ym mhwynt 2 o'r cynnig heddiw. Ac fel y nododd Paul Davies yn ei gyfraniad wrth agor y ddadl heddiw, a'r Dirprwy Weinidog wrth gau yn gynharach hefyd, busnesau bach yw 99.4 y cant o'r holl fusnesau yng Nghymru, ac maent yn cyfrannu 62.4 y cant o gyflogaeth y sector preifat a 37.9 y cant o drosiant—rhan wirioneddol arwyddocaol o'n heconomi. Ac mae wedi bod yn glir drwy'r ddadl heddiw, nid yn unig eu bod yn chwarae'r rhan honno yn ein heconomi ond maent hefyd yn chwarae rhan bwysig yn ein cymunedau lleol. Ac mae'r Aelodau wedi tynnu sylw at y ffaith bod busnesau bach, mewn cyfnod o argyfwng neu mewn angen, yn aml ar flaen y gad yn ein cymunedau lleol ac yn mynd i'r afael â llawer o'r heriau cymdeithasol a welwn o'n cwmpas. Ac mae busnesau bach yn gwneud cymaint i ddangos y gorau yn ein cymunedau lleol. Rwyf wedi mwynhau'r hysbysebu digywilydd gan rai o'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr, wrth iddynt ddisgrifio rhai o'u hoff fusnesau bach yn eu hardaloedd.
Yr ail bwynt a nodwyd gan yr Aelodau—a thynnodd Heledd Fychan sylw ato yn benodol—yw nifer yr heriau sy'n wynebu busnesau bach ar hyd a lled Cymru. A gwaetha'r modd, fel y gwyddom ac fel y nododd Natasha Asghar a James Evans, mae busnesau yng Nghymru yn talu rhai o'r ardrethi busnes uchaf ym Mhrydain. Yn ogystal â hyn, tynnodd Luke Fletcher sylw at yr her costau byw ar hyn o bryd sy'n taro ein busnesau bach yn galed, a chanolbwyntiodd Heledd Fychan yn benodol, unwaith eto, ar yr heriau y mae rhai o'r bobl sy'n ceisio cael yswiriant yn eu hwynebu nawr gan lesteirio eu busnesau ar hyn o bryd o bosibl. Dyna pam fod angen inni weld cefnogaeth bellach yn cael ei darparu i fusnesau bach.
Ac fel pwynt olaf yn fy nghyfraniad y prynhawn yma, nododd James Evans, eto, pa mor hanfodol bwysig yw hi ein bod ni'n cofio nad busnesau yw'r gelyn. Mae angen inni wneud ein gorau glas i'w cefnogi. Dyna pam rwy'n edrych ymlaen at weld llawer o'r Aelodau o bob rhan o'r Siambr yn hyrwyddo neu'n ymweld â'r busnesau bach yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau dros y penwythnos hwn. Mae pwynt 3 ein cynnig yn nodi bod angen i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ei holl ysgogiadau i gefnogi busnesau bach yng Nghymru yn well, ac fe gafodd ei nodi gan Paul Davies, unwaith eto, fod disgwyl i tua 35,000 o fusnesau bach yng Nghymru leihau neu gau hyd yn oed yn ystod y misoedd nesaf. A Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn falch o glywed am rai o'r cynlluniau a'r mentrau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu rhoi ar waith ac wedi eu rhoi ar waith dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n amlwg i mi, yn fwy nag erioed, mai un o'r pethau mwyaf arwyddocaol y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yw edrych ar leihau'r baich ardrethi busnes, a fyddai'n rhoi arian yn ôl i'r busnesau ar ein stryd fawr.
Felly, wrth gloi, Lywydd, fel y mae Aelodau o bob rhan o'r Siambr wedi nodi, mae busnesau bach yn hanfodol i economi Cymru, yn hanfodol i'n cymunedau lleol. Nawr yw'r amser i wneud popeth yn ein gallu i'w cefnogi a darparu amgylchedd iddynt allu ffynnu ynddo. Diolch i'r Aelodau am eu holl gyfraniadau heddiw, ac edrychaf ymlaen at eu cefnogaeth barhaus. Diolch yn fawr iawn.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Does dim gwrthwynebiad. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio, ac oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, dwi'n symud at y bleidlais.