1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Llywydd. Mae'n ymddangos ein bod ni wedi colli'r oriel, Prif Weinidog—
[Anghlywadwy.] [Chwerthin.]
Gallai fod yn rhywbeth i'w wneud â hynny, rwy'n meddwl, Mike. Prif Weinidog, heddiw, mae cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dod allan a dweud, fel proffesiwn, y gallen nhw gael eu beirniadu'n aml iawn efallai am weiddi blaidd o ran niferoedd staffio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru, ond, mewn gwirionedd, o fyfyrio ar y mater, a'r sefyllfa bresennol y maen nhw'n cael eu hunain ynddi, mae'r blaidd yn sicr yn y GIG, gan fod prinder staff enfawr yn ein hysbytai a'n lleoliadau gofal sylfaenol. A ydych chi'n cytuno gyda sylwadau cadeirydd y Cymdeithas Feddygol Prydain heddiw ynghylch y sefyllfa argyfyngus ac acíwt iawn y mae ysbytai a'r sector gofal sylfaenol yn ei chanfod o ran cadw a denu staff?
Wel, Llywydd, hoffwn wahaniaethu rhwng dau beth. Ac roeddwn i'n meddwl ei fod yn ddatganiad dewr gan arweinydd newydd Cymdeithas Feddygol Prydain i gydnabod, ar sawl achlysur yn y gorffennol, bod y gair 'argyfwng' wedi cael ei ddefnyddio gan Gymdeithas Feddygol Prydain, a bod hynny wedi dibrisio'r term hwnnw. Y ddau beth yr hoffwn i wahaniaethu rhyngddyn nhw yw'r rhain: rwy'n sicr yn derbyn y frwydr a'r straen sydd yno yn GIG Cymru, bod recriwtio yn anodd mewn rhai mannau ac nad yw bob amser yn syniad deniadol dod i mewn i wasanaeth sydd, ddydd ar ôl dydd, yn cael ei bortreadu yn y cyfryngau ac mewn papurau newydd fel un nad yw'n darparu'r gwasanaeth y byddai'r bobl sy'n gweithio ynddo yn dymuno ei ddarparu. Felly, rwy'n cydnabod hynny'n llwyr. Ond rwy'n meddwl ei bod hi'n werth cyflwyno rhai ffeithiau hefyd, oherwydd, os edrychwch chi ar staff meddygol a deintyddol yn GIG Cymru, mae gennym ni 1,654 yn fwy o feddygon a deintyddion yn gweithio yn y GIG nag oedd gennym ni ddegawd yn ôl. Mae gennym ni 1,256 yn fwy o feddygon ymgynghorol a meddygon yn gweithio nag oedd gennym ni bum mlynedd yn ôl. O'r 966 yn fwy o staff meddygol nag yr oedd gennym ni dair blynedd yn ôl, mae 242 o'r rheini'n feddygon ymgynghorol, a, Llywydd, gallwn barhau. Mae gennym ni filoedd yn rhagor o nyrsys yn gweithio yn y GIG, miloedd yn fwy o staff gwyddonol, therapiwtig yn gweithio yn y GIG. Bu'r twf cyflymaf oll i staff ambiwlans sy'n gweithio yn GIG Cymru. Felly, er fy mod i'n hapus i—wel, dydw i ddim yn hapus, gan fod y sefyllfa mor anodd—ond er fy mod i'n cydnabod y pwyntiau sy'n cael eu gwneud, mae hynny yn erbyn cefndir o gynnydd o un flwyddyn, i'r flwyddyn nesaf ac i'r flwyddyn nesaf. Mae mwy o bobl yn gweithio yn GIG Cymru ym mhob un categori o bobl—[Torri ar draws.]—ac mae hynny'n cynnwys pob bwrdd iechyd hefyd.
Welwch chi, dyna'r math o sylw nad yw'n helpu o gwbl, oherwydd yn syml, nid yw'n ffeithiol wir. [Torri ar draws.] Ydw. Credwch chi fi, rwy'n paratoi pan fyddaf yn dod yma, a dyna pam rwy'n gallu dweud wrthych chi beth yr wyf i wedi ei ddweud wrthych chi heddiw. Ydw, mi wyf i'n paratoi, a'r gwir amdani yw, ym mhob rhan o Gymru, mae niferoedd y bobl sy'n gweithio yn y GIG wedi bod yn cynyddu. Ydy hynny'n golygu nad oes angen mwy arnom ni? Wrth gwrs nad yw. Ydy hynny'n golygu nad oes angen rhoi sylw i recriwtio? A yw'n golygu nad oes angen i ni barhau i wneud yn siŵr bod gennym ni fwy o bobl mewn hyfforddiant nag y bu gennym ni erioed o'r blaen? Mae hynny i gyd yn wir, ond mae'n rhoi'r cefndir i chi i'r hyn a ddywedodd arweinydd Cymdeithas Feddygol Prydain am fod yn eglur ynghylch yr hyn sy'n wir a'r hyn nad yw'n wir o ran y sefyllfa bresennol yn y GIG.
Prif Weinidog, y sylw arall a wnaed gan gadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yw nad yw llawer mwy o bobl, yn amlwg, yn llawn amser yn y GIG bellach ac, mewn gwirionedd, yn dewis am wahanol resymau, yn amlwg, i wneud ambell i shifft yma ac acw ac na ellir eu hystyried yn weithwyr cyfwerth ag amser llawn. Yr wythnos diwethaf, fe wnes i eich herio chi ar fater penodol yn ymwneud â ffigyrau llinell sylfaen y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys. Mae'n ffaith ein bod ni, dros y blynyddoedd, wedi eich herio ar y maes staffio penodol hwn, ac nid oes yr un adran damweiniau ac achosion brys yma yng Nghymru yn llwyddo i fodloni'r ffigur llinell sylfaen hwnnw pan ddaw i feddygon ymgynghorol.
Efallai y bydd gan y Llywydd ddiddordeb yn hyn: yn ei hadran damweiniau ac achosion brys ei hun yn Aberystwyth, er enghraifft, o'r wyth o feddygon ymgynghorol y dylai fod ganddyn nhw ar gael fel y ffigur sylfaenol gan y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, mae ganddyn nhw un. Os ewch chi i'r gogledd, yn Ysbyty Glan Clwyd, er enghraifft, dim ond traean o'r rhif sydd yno. Mae angen pymtheg, a dim ond traean o'r nifer honno sydd yn yr adran damweiniau ac achosion brys benodol honno. Felly, ar ôl blynyddoedd lawer o geisio cael gwelliant yn y maes penodol hwn a chael gwybod bod cynllun ar waith, pa hyder allwch chi ei roi i ni bod gan Lywodraeth Cymru gynllun gweithlu o ddifrif ar waith i fynd i'r afael nid yn unig â'r diffyg o ran ffigurau llinell sylfaen meddygaeth frys mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, ond y diffyg ar draws y GIG cyfan yma yng Nghymru, y mae hyn yn oed y proffesiwn bellach, fel y dywedoch chi, wedi dod ymlaen yn ddewr i dynnu sylw ato heddiw?
Llywydd, rwyf i yn deall bod y rhifau pennawd yn cuddio'r ffaith na fydd llawer o'r bobl hynny yn gweithio'n llawn amser a bod patrymau gwaith yn y gwasanaeth iechyd wedi newid. Ond hyd yn oed os edrychwch chi ar y ffigurau cyfwerth ag amser llawn hynny, mae bron i 10,000 yn fwy o staff yn gweithio yn y GIG heddiw nag oedd dim ond tair blynedd yn ôl. Felly, er ei bod hi'n wir bod patrymau gwaith yn newid a bod pobl yn dewis gweithio llai o oriau nag yr oedden nhw ar un adeg, hyd yn oed pan ydych chi'n cymryd hynny i ystyriaeth, mae cynnydd sylweddol iawn i nifer y bobl sy'n gweithio yn GIG Cymru.
O ran y dyfodol, yr unig ffordd y gallwch chi gynnig ateb cynaliadwy i staffio GIG Cymru yw trwy fuddsoddi yn hyfforddiant pobl ar gyfer y dyfodol. Ym mhobman yn y GIG yng Nghymru, rydym ni'n hyfforddi mwy o bobl heddiw nag erioed o'r blaen. Cawsom ni gynnydd o 55 y cant i nifer y nyrsys dan hyfforddiant rhwng 2016 a 2022; cynnydd o 95 y cant yn yr un cyfnod i nifer y bobl sy'n hyfforddi i fod yn nyrsys ardal; cynnydd o 97 y cant i nifer y bobl sy'n astudio i fod yn fydwragedd; cynnydd o dros 300 y cant i nifer y myfyrwyr a fydd yn dod o brifysgolion Cymru fel fferyllwyr i weithio yn GIG Cymru. Mae hynny'n wir am feddygon yn ogystal â nyrsys a'r proffesiynau hynny sy'n gysylltiedig â meddygaeth.
Rydym ni'n cynyddu'r nifer o leoedd yn ysgol feddygol Caerdydd ac yn ysgol feddygol Abertawe, ac, wrth gwrs, rydym ni'n creu ysgol glinigol newydd yn y gogledd, a bydd niferoedd pellach yno. Os edrychwch chi dros y cyfnod sydd o'n blaenau y mae gennym ni gynlluniau ar ei gyfer, ym mis Awst 2019 roedd gennym ni 339 o'r hyn a elwir yn swyddi F1 ac F2 yng Nghymru; bydd hynny'n 450 erbyn mis Awst 2024. Mae'r rheini i gyd yn feddygon ychwanegol sy'n dod i mewn i'r system, wedi'u hyfforddi yma yng Nghymru. Rydym ni'n gwybod eu bod nhw'n fwy tebygol o weithio yng Nghymru o ganlyniad, a dyna pam y gallwn ni gynnig rhywfaint o gysur i'r bobl hynny sydd, yn briodol, yn cael eu cadw'n brysur gan y straen a'r pwysau sy'n wynebu'r system ar hyn o bryd.
Gofynnais i chi'n benodol am ffigur llinell sylfaen y Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys, ac rwyf i wedi gofyn hyn i chi ar sawl achlysur yn olynol. O'r rhifau yr wyf i wedi eu rhoi o'ch blaen chi heddiw, Prif Weinidog, gallwn weld yn eglur mai ychydig neu ddim gwelliant a gafwyd o ran bodloni'r ffigurau llinell sylfaen hynny. Felly, a ydym ni'n mynd i weld gwelliant, o ystyried y ffigyrau rydych chi newydd eu cyflwyno, fel y byddwn ni'n gweld, ymhen chwech neu 12 mis, pan fyddwn ni'n ailystyried hyn, y gwelliant hwnnw o ran meddygon ymgynghorol mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yma yng Nghymru?
Ac yn bwysig iawn, mae'r datganiad a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth y bore yma ar gynlluniau byrdymor yn cael eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â'r pryderon y mae Cymdeithas Feddygol Prydain wedi tynnu sylw atyn nhw heddiw, a allwch chi nodi beth yn union yw'r cynlluniau byrdymor hynny i'n cael ni drwy'r sefyllfa gyfyng benodol hon? Rwy'n sylweddoli eich bod chi wedi tynnu sylw at raglenni hyfforddi a chynlluniau hyfforddi, a gallwch chi a minnau drafod a dadlau am rifau, ond mae'n ffaith bod cadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain wedi dod allan heddiw ac wedi tynnu sylw at y mannau cyfyng, felly os gallech chi fynd i'r afael â'r cynllun byrdymor penodol, fel y gallwn ni fod yn hyderus bod gan y Llywodraeth olwg ar hyn, yna gobeithio y gall meddygon, nyrsys a gweithwyr clinigol proffesiynol eraill fod yn hyderus y bydd y pwysau y maen nhw'n ei deimlo bob dydd pan fyddan nhw'n mynd i'r gwaith yn cael ei leddfu yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor.
Llywydd, gadewch i mi roi dwy enghraifft yn unig i'r Aelod o'r camau y gallwn ni eu cymryd yn ystod y tymor canolig. Un—a bydd datganiad ar hyn yr wythnos nesaf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—fydd cynyddu capasiti gwelyau'r GIG dros y gaeaf hwn, ac mae hynny'n golygu lleoedd mewn gwelyau mewn ysbytai, ond hefyd gwasanaethau cymunedol , fel y gall pobl sydd yn yr ysbyty heddiw fod yn ôl gartref neu'n derbyn gofal yn y gymuned, a byddwn yn rhoi manylion yr wythnos nesaf am nifer y gwelyau a'r lleoedd sy'n cyfateb i welyau yr ydym ni eisoes wedi gallu eu creu ar gyfer y gaeaf hwn, a'r mwy yr ydym ni'n disgwyl i ddod. Bydd hynny'n lleddfu rhywfaint o'r pwysau, yn enwedig y pwysau hynny mewn adrannau brys y cyfeiriodd arweinydd yr wrthblaid atyn nhw.
O ran staffio, gadewch i mi ddweud fy mod i'n croesawu'r arwyddion gan Lywodraeth y DU eu bod nhw ar fin adolygu'r trefniadau pensiwn, sydd wedi atal cynifer o feddygon rhag parhau i weithio yn y GIG, nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig. Bydd yn gwybod, os ydych chi'n feddyg teulu, er enghraifft, eich bod chi'n cyrraedd pwynt lle mae eich pot pensiwn yr ydych chi wedi ei adeiladu yn cael ei drethu mor drwm fel eich bod yn talu i fod mewn gwaith i bob pwrpas, ac yn ddealladwy iawn rydym ni wedi gweld llu o bobl yn ymddeol yn gynnar o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru gan fod yr amgylchiadau ariannol sy'n cael eu creu gan y rheolau pensiwn yn golygu nad yw'n ymarferol iddyn nhw barhau. Nawr, rwyf i wedi gweld adroddiadau yr wythnos hon bod Llywodraeth y DU yn ailystyried hyn yn weithredol, a'u bod nhw ar fin cynnig newidiadau i'r trefniadau pensiwn hynny a fyddai'n caniatáu i bobl ddod yn ôl i'r gweithle nad oeddwn nhw eisiau ei adael. Efallai nad ydyn nhw eisiau dod yn ôl yn llawn amser, rydym ni'n deall hynny i gyd, ond maen nhw eisiau gwneud eu cyfraniad. Ac os bydd y trefniadau pensiwn hynny yn newid, gallwn fod yn sicr y bydd pobl yng Nghymru nad ydyn nhw yn y gweithle ar hyn o bryd ac a allai, yn rhan o'r mesurau byrdymor hynny, ddod yn ôl i mewn i'r gweithlu i atgyfnerthu'r bobl sy'n gweithio mor galed, ac o dan amgylchiadau anodd iawn, a gyda thair blynedd o gyfnodau gwirioneddol heriol y tu ôl iddyn nhw, i helpu i'w cynnal yn y swyddi y maen nhw'n eu gwneud.
Cwestiynau arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Mi fyddwch chi wedi gweld ffigurau'r cyfrifiad sydd yn dangos cwymp pellach yn nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, a'r cwymp sylweddol sydd wedi bod yng ngharfanau'r bobl ifanc rhwng tair a 15 oed sy'n medru'r iaith. Mae hyn yn dangos, onid yw hi, fod elfen ganolog o bolisi Llywodraeth Cymru, sef datblygu addysg Gymraeg ar draws Cymru, yn methu. Deng mlynedd yn ôl, fe symbylwyd yr uchelgais o filiwn o siaradwyr fel rhan o'r ymateb i'r dirywiad yn ffigurau'r cyfrifiad bryd hynny. Onid oes angen cydnabod nawr nad yw'r gweithredu yn ddigonol i gyrraedd y nod erbyn 2050? Fel gyda newid hinsawdd, dyw ewyllysio'r nod ddim yn gyfystyr â ewyllysio'r modd o'i gyflawni. Felly, onid yr ateb mwyaf cadarnhaol i'r newyddion heddiw fyddai sicrhau y bydd y Bil addysg Gymraeg arfaethedig yn darparu addysg cyfrwng Cymraeg i bob plentyn yng Nghymru o fewn amserlen glir a digonol?
Wel, dwi ddim yn cytuno â'r pwynt olaf y mae arweinydd Plaid Cymru yn ei godi. Dwi ddim yn meddwl y bydd pobl yng Nghymru yn fodlon i gefnogi'r pwynt y mae e'n ei wneud, a'r peth pwysicaf am yr iaith Gymraeg yw i gadw cefnogaeth pobl yng Nghymru i bopeth rŷm ni'n trio ei wneud. Rŷm ni wedi llwyddo i wneud hynny. Mae'r teimlad am yr iaith Gymraeg yn gryf dros ben ym mhob cwr o Gymru, ac rŷm ni eisiau defnyddio'r ewyllys da sydd yna i gario ymlaen i gael mwy o bobl i ddysgu Cymraeg, i ddefnyddio Cymraeg, ac yn y blaen.
Mae pethau tu ôl i beth rŷm ni wedi gweld yn y cyfrifiad heddiw. Mae'n gymhleth, a dwi'n meddwl ei bod hi'n werth ffeindio amser i feddwl am beth sydd tu ôl i beth rŷm ni'n ei weld. Rŷm ni'n gweld twf yn yr iaith Gymraeg yma yng Nghaerdydd, yn Rhondda Cynon Taf, ym Mro Morgannwg ac ym Merthyr Tudful hefyd. Rŷm ni'n gweld twf mewn defnyddio'r iaith Gymraeg gydag oedolion ifanc hefyd. Ble mae'r cwymp wedi bod yw ymysg pobl tair i 15 oed. Pam mae hynny? Wel, mae llai o bobl ifanc yng Nghymru gyfan yn yr oedran yna. So, dyna un peth i feddwl amdano.
Yr ail beth yw rŷm ni'n gwybod bod y cyfrifiad yn cael ei wneud yn ystod amser y pandemig. Dwi'n cofio dro ar ôl tro fan hyn pobl yn siarad am yr effaith roedd y pandemig wedi ei gael ar bobl ifanc mewn ysgolion trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg pan doedden nhw ddim yn yr ysgol, a pan doedden nhw ddim yn clywed gair o Gymraeg pan doedd yr ysgolion ddim yn rhedeg. So, mae nifer o bethau tu ôl i'r ffigurau, ac mae'n werth i ni gymryd amser i ystyried beth sydd tu ôl iddyn nhw.
Mae hwnna'n enwedig o bwysig, Llywydd, pan fo rhai ffynonellau data eraill yn dangos rhywbeth arall i ni. Pam fod ffigurau yn y cyfrifiad yn mynd i lawr pan fo ffigurau arolwg blynyddol o boblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn mynd lan bob blwyddyn? Dwi ddim yn deall hwnna eto. Mae lot o waith i'w wneud. Fe ges i'r cyfle, Llywydd, i siarad gyda Syr Ian Diamond, sy'n cadeirio'r ONS, am hwn cyn bod ffigurau'r cyfrifiad yn dod mas. Mae pethau'n fwy cymhleth, dwi'n meddwl, nag oedd arweinydd Plaid Cymru wedi awgrymu y prynhawn yma. Well i ni ffeindio'r amser i wneud y gwaith a dod nôl i weld beth yw'r ymatebion gorau i gario ymlaen i wneud beth rŷm ni eisiau ei wneud—i ffeindio'r ffordd i gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Dwi yn siomedig, mae'n rhaid i mi ddweud, gyda'r ymateb cychwynnol rydyn ni wedi'i gael gan y Prif Weinidog y prynhawn yma, oherwydd rwy'n credu mi oedd yna gydnabyddiaeth wrth i'r ffigurau gael eu cyhoeddi 10 mlynedd yn ôl ein bod ni mewn sefyllfa o argyfwng, a bod rhaid gweithredu. Hwnna oedd wedi arwain wedyn at y drafodaeth drawsbleidiol tu ôl i'r nod o filiwn o siaradwyr. Felly, mi oedd yna gydnabyddiaeth bod ffigurau'r cyfrifiad yn bwysig. Mae pob cynllunydd iaith dwi wedi siarad gyda nhw erioed yn dweud mai'r cyfrifiad ydy'r ffynhonnell bwysicaf i gyd. Sampl ydy'r arolwg rydych chi newydd gyfeirio ato fe, ond mae'r cyfrifiad yn cynnwys pawb. Mae dweud bod y nifer o blant yng Nghymru yn mynd lawr—. Wel ie, o ran nifer, ond y canran o siaradwyr Cymraeg rhwng tair a 15 mlwydd oed sy'n mynd lawr, beth bynnag yw'r nifer. Mae hynny, mae arnaf ofn, yn profi, onid yw e, bod eich polisi chi o ran tyfu addysg Gymraeg ar draws Cymru ddim yn llwyddo.
Llywydd, rwy'n fwy o optimist nag arweinydd Plaid Cymru, ond rwyf i bob amser yn fwy o optimist am Gymru nag y mae Plaid Cymru ar bron bob pwynt. [Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. Maen nhw'n casáu pan fyddwch chi'n tynnu sylw at y ffaith, bob tro y maen nhw'n codi i'w traed, mae bob amser i roi'r safbwynt mwyaf pesimistaidd posibl i ni o'r hyn y gall Cymru ei gyflawni. Llywydd, rwy'n ddigon ymwybodol o'r gwahaniaeth rhwng rhif a chanran, felly diolch i'r Aelod am fy atgoffa i o hynny. Gadewch i mi ddweud hyn wrtho. Mae wedi cynnig un ateb y prynhawn yma. Mae'n ateb na fydd fy mhlaid yn ei fabwysiadu; gadewch i mi fod mor eglur ag y gallaf i gydag ef am hynny. Nid addysg orfodol i bawb trwy gyfrwng y Gymraeg yw'r ateb i'r Gymraeg yng Nghymru. Bydd yn dieithrio pobl sy'n cydymdeimlo â'r Gymraeg; bydd yn gosod yr iaith yn ôl nid ymlaen. Mae gennych chi hawl perffaith i bennu hynny fel eich polisi, os mynnwch chi, ond rwy'n eglur gyda chi, mor eglur ag y gallaf i fod: nid dyna fydd polisi Llywodraeth Cymru.
A gaf i droi at—[Torri ar draws.] Ie, rwy'n gwybod. A gaf i droi at faterion cyfansoddiadol? Roedd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 yn cynnwys ymrwymiad i ddatganoli plismona i Gymru. Fe wnaeth comisiwn Silk, a sefydlwyd gan weinyddiaeth dan arweiniad y Ceidwadwyr, ei argymell yn 2014. Fe wnaeth comisiwn Thomas eich Llywodraeth eich hun argymell datganoli plismona a chyfiawnder yn eu cyfanrwydd, a dywedodd maniffesto'r Blaid Lafur yn 2017 y byddai'r Llywodraeth Lafur yn gweithio gyda chi i ddefnyddio'r adroddiad hwnnw i drwsio system gyfiawnder sy'n methu yng Nghymru. Mae argymhelliad Comisiwn Brown i ddatganoli cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig yn mynd â ni'n ôl 10 mlynedd yn y ddadl ddatganoli yng Nghymru. Ond anghofiwch am y wleidyddiaeth, beth am y canlyniadau yn y byd go iawn? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru newydd ddweud bod canlyniadau cyfiawnder troseddol yng Nghymru gyda'r gwaethaf yn Ewrop. Pa gyfiawnhad moesol posibl sydd dros adael y pwerau hynny yn San Steffan funud yn hwy nag sydd rhaid, a hwythau'n achosi'r fath ddioddefaint ym mywydau cynifer o bobl?
Rwy'n croesawu adroddiad Gordon Brown yn rymus, ac rwy'n croesawu'n rymus ei ymrwymiad penodol iawn y bydd datganoli cyfiawnder troseddol yn dechrau gyda'r Llywodraeth Lafur nesaf. A gadewch i ni fod yn eglur, Llywydd: dim ond Llywodraeth Lafur fydd byth yn gallu cychwyn ar y daith honno a'i chwblhau. Ni wnaiff y Torïaid ei wneud, ni all Plaid Cymru ei wneud, dim ond Llafur. Dim ond Llafur sy'n gallu cyflawni hynny, ac mae adroddiad Brown yn ymrwymo'r blaid i ddechrau'r daith honno. Rwy'n credu y bydd yn beth gwych os bydd cyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf, yn y tymor nesaf hwnnw, yn cael eu trosglwyddo i'r Senedd hon. Dyna fydd dechrau'r broses honno. Wrth gwrs, rydym ni eisiau i'r broses honno fynd ymhellach. Polisi Llywodraeth Cymru yw y dylai'r system gyfiawnder troseddol gyfan ddod yn gyfrifoldeb i'r Senedd hon. Ond mae pob taith yn dechrau gyda'r cam cyntaf, ac mae'r camau hynny wedi'u cymeradwyo'n eglur iawn yn adroddiad Gordon Brown.
Pe baech chi o ddifrif am ddatganoli, Llywydd, pe baech chi o ddifrif am bwerau'r lle hwn, byddech chi'n croesawu'r cam cyntaf hwnnw. Mae'n ddigon hawdd ysgwyd eich pen yn y ffordd, 'O, annwyl, onid ydyn nhw'n ofnadwy?' yna. Mewn gwirionedd, bydd yr unig gynnydd fydd yna fyth gyda Llywodraeth Lafur sy'n benderfynol o wneud yr holl bethau y mae Gordon Brown yn eu nodi ar gyfer y Senedd hon. Ac nid ym maes cyfiawnder troseddol yn unig, Llywydd, ond y pethau eraill y mae'r adroddiad hwnnw'n eu nodi ar gyfer y Senedd hon hefyd—y statudau hynny a ddiogelir yn gyfansoddiadol, sy'n golygu y bydd confensiwn Sewel yn cael ei rwymo mewn cyfraith ac na fydd modd i Lywodraethau yn San Steffan ei osgoi. Pa amddiffyniadau fyddai wedi bod i'r Senedd hon ers 2019 pe bai hwnnw wedi bod ar waith. Rwy'n credu y byddai croeso i'r adroddiad ar eich rhan chi i'w groesawu'n fawr, oherwydd mae'n rhoi datganoli yn y sefyllfa yr hoffem iddo fod, mae'n gwreiddio parhad datganoli, mae'n gwella statws y Senedd hon, ac mae'n ehangu grym datganoli yng Nghymru. Beth sydd yna i beidio â'i groesawu yn hynny?