– Senedd Cymru am 5:58 pm ar 6 Rhagfyr 2022.
Eitem 9 nesaf fydd Cyfnod 4 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd yn bwriadau gwneud cynnig heb hysbysiad fod y Bil yn cael ei basio. Cyn i'r Senedd wneud penderfyniad ynghylch a ddylid pasio'r Bil ai peidio, rhaid i mi nodi ar gofnod, yn unol ag adran 111A(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, nad yw darpariaethau'r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yn ymwneud â phwnc gwarchodedig yn fy marn i.
Felly, mi fedraf i symud ymlaen nawr i alw ar y Gweinidog Newid Hinsawdd i wneud y cynnig. Julie James.
Diolch, Llywydd. Rwyf wrth fy modd yn cynnig y cynnig gerbron y Senedd heddiw ar gyfer Cyfnod 4 Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru), a gyflwynais i'r Senedd ar 20 Medi 2022. Ers cyflwyno'r Bil, mae wedi symud ymlaen yn llwyddiannus trwy Gyfnodau ym mhroses ddeddfwriaeth y Senedd ar amserlen gyflym. Rwyf fwyaf diolchgar i'r Pwyllgor Busnes am gytuno ar hyn. Rwyf hefyd yn cymeradwyo pawb yma heddiw am gydnabod pwysigrwydd amgylcheddol a brys y Bil hwn a chefnogi ei hynt gyflym drwy'r Senedd. I ychwanegu at hyn, hoffwn ddiolch o galon i chi, Llywydd, am gytuno i Gyfnod 4 fynd rhagddo yn syth ar ôl Cyfnod 3. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cadeiryddion, aelodau a staff y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, y Pwyllgor Cyllid, a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ystyried a chraffu'n ofalus, a'u hadroddiadau manwl ynghylch y Bil a'r memorandwm esboniadol ac asesiad effaith rheoleiddiol.
Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl randdeiliaid, partneriaid cyflenwi, cymunedau a phobl ifanc sydd wedi gallu cyfrannu at ein polisi a'r broses ddeddfwriaethol hon drwy ddarparu tystiolaeth yn bersonol ac yn ysgrifenedig, yn arbennig i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith yn ystod eu hymgynghoriad. Mae'r trafodaethau cadarnhaol gydag Aelodau, ynghyd â sesiynau tystiolaeth gyhoeddus gan randdeiliaid, wedi sicrhau y craffwyd yn wirioneddol ar y Bil, er iddo gael ei frysio. Bu eich gwybodaeth a'ch profiad yn amhrisiadwy.
Hoffwn, wrth gwrs, ddiolch i'r Aelodau am eu cefnogaeth i welliannau technegol a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru i wella cysondeb ac eglurder y Bil. Bu hefyd yn wirioneddol braf gallu gweithio gydag Aelodau ar feysydd o dir cyffredin i gyflwyno gwelliannau sy'n wirioneddol wella'r Bil. Bu hyn yn enghraifft wirioneddol o gydweithio a chyd-dynnu.
Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r swyddogion sydd wedi gweithio'n galed iawn ac yn ddygn iawn ar y Bil hwn i'w gyflwyno'n llwyddiannus. Bydd yr ysbryd hwn o gydweithio yn parhau wrth i ni weithio gyda rhanddeiliaid i gynhyrchu arweiniad cynhwysfawr ynghylch y Bil. Rwy'n credu y dylem ni i gyd fod yn hynod falch o'r Bil nodedig hwn, sy'n mynd y tu hwnt i wahardd cyfres gychwynnol o gynhyrchion plastig untro. Rydym ni wedi cyflawni sylfaen gadarn i wahardd cynhyrchion plastig untro problemus pellach yn y dyfodol, gan sicrhau gwaddol parhaol y Bil. Dyma Fil sy'n gwarchod ein tirwedd Gymreig unigryw o hardd rhag gwastraff plastig untro hyll a gwenwynig. Mae'r Bil hwn yn diogelu ein mannau gwyrdd, ein dyfroedd pefriog a'n hecoleg amrywiol a chyfoethog. Mae'r gweithredu'n dechrau nawr, nid yn unig i ni, ond i genedlaethau Cymru'r dyfodol.
Yn hyn o beth, hoffwn dalu teyrnged i bobl ifanc Cymru sydd wedi siarad mor angerddol â mi am warchod yr amgylchedd a phroblem plastig untro. Trwy ein cysylltiad ag Eco-Sgolion ac Ysgolion Di-blastig, byddwn yn tynnu sylw holl ysgolion Cymru at effaith llygredd plastig a sut mae hynny'n berthnasol i'r cwricwlwm newydd i ysgolion Cymru sy'n cefnogi ein plant a'n pobl ifanc i fod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus yng Nghymru a'r byd. Ac yn olaf, hoffwn gydnabod ein busnesau gwych o Gymru a arweiniodd y ffordd wrth arloesi gyda dewisiadau amgen i blastig untro sy'n gadarn yn amgylcheddol, gan fanteisio ar botensial technolegau newydd, cyfrannu at economi gylchol a chreu Cymru wirioneddol gynaliadwy. Mae gweithio ar y cyd â'r holl randdeiliaid, gan geisio barn a dealltwriaeth, wedi chwalu rhwystrau rhwng sectorau, a fydd yn arwain at newid cydlynol mewn ymddygiad a pharodrwydd i gydweithio i fodloni'r agenda gynhwysfawr i frwydro yn erbyn newid hinsawdd yn y ffordd fwyaf effeithiol ac effeithlon bosibl.
Yn ystod dadl egwyddorion cyffredinol y Bil ar 11 Hydref, roedd yr holl Aelodau a oedd yn bresennol ar y pryd yn cefnogi ac yn cytuno ar yr angen am y Bil hwn. Rwy'n gobeithio, ar draws y Siambr, y byddwn yn parhau i ddarparu'r un gefnogaeth unfrydol ac angerddol honno i weithredu'r Bil yn llawn. Diolch, Llywydd.
A dweud y gwir, rwy'n ategu ac yn cymeradwyo popeth y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud o ran diolch i bawb. Bu timau cyfreithiol—. Rwy'n credu, ddim yn aml—. Dydy pobl ddim yn sylweddoli maint y gwaith sy'n mynd rhagddo yn y cefndir gan bobl sydd ddim yma yn y Siambr heddiw, ac i sôn yn gyflym hefyd am Beth Taylor, ymchwilydd yr wyf wedi gweithio gyda hi, a dyma'r darn cyntaf o ddeddfwriaeth y mae hi erioed wedi gweithio arno ac mae hi wedi gwneud gwaith da iawn. A hoffwn ddiolch i chi, Gweinidog, am dderbyn y gwelliannau. Yn amlwg, pan ddown ni yma gyda'r niferoedd fel y gwnawn ni, rydym ni eisiau ennill, ond fe fu yna gydweithio, fe fu yna gytundeb trawsbleidiol ynghylch hyn, a dyna sut ddylid llunio deddfau yma yng Nghymru.
I mi, mae hon yn adeg nodedig yn hanes deddfu yng Nghymru. A dweud y gwir, rwyf newydd fod yn ailadrodd popeth rydych chi wedi'i ddweud am sut rydym ni am roi diwedd ar wastraff plastig untro. Rwy'n gwneud llawer o lanhau traethau, a byddaf i'n monitro'r Bil hwn yn y dyfodol. Byddai'n wych pan fyddwn yn glanhau traeth yn sicr i beidio â gorfod codi'r tunelli o blastig gwastraff a wnawn, a thrwy hynny ddiogelu ein hamgylchedd naturiol, ein cefn gwlad a'n bywyd adar a'n bywyd môr gwych. Felly, diolch, bawb. Rwy'n hapus iawn â sut aeth hi heddiw. Diolch.
Mae hwn yn gam pwysig tuag at ein hamcan fel Senedd i warchod natur, bioamrywiaeth a lleihau ein dibyniaeth ar adnoddau anadnewyddadwy. Tair blynedd yn ôl, fe wnes i alw mewn araith am ddeddfwriaeth i wahardd plastig defnydd untro, a dyma ni heddiw yn troi’r dyhead—nid dim ond gennyf i, ond dyhead cymaint ohonom—yn realiti. Mae’n dangos beth sy’n bosibl pan fydd y Senedd hon yn cydweithio er mwyn ceisio creu dyfodol gwell.
Mae’n dangos hefyd fod gan y Senedd y gallu i ddeddfu’n gymharol gyflym pan fo'n rhaid. Nawr, rwy'n gwybod bod yna gymhlethdodau wedi bod, ond rwyf i'n meddwl hefyd fod yna wersi i'w cael fanna yn dangos mai ewyllys gwleidyddol sy'n cael y maen i'r wal yn y pen draw.
Wrth gwrs, mae yna rai pethau buaswn i wedi hoffi eu gweld yn cryfhau'r Bil ymhellach, ond mae hwn yn gam mor bwysig ymlaen. Hoffwn i ddiolch i'r sefydliadau wnaeth roi tystiolaeth i ni fel pwyllgor, i Gadeirydd y pwyllgor, i'r tîm clercio ac i'r Gweinidog am fod mor barod i gydweithio pan oedd cyfle i wneud. Mae Senedd Cymru yn cydnabod ei dyletswydd i genedlaethau’r dyfodol a’r byd o’n cwmpas trwy'r ddeddfwriaeth yma. Sylweddoliad dyletswydd yw gweithredu. Bydd pasio'r mesur hwn fel Deddf yn clirio cydwybod ein cenedl rywfaint, ond mae gennym lawer o waith i'w wneud eto. Boed inni beidio gorffwys ar ein rhwyfau wedi hyn. Boed inni ddefnyddio'r Ddeddf hon fel astell ddeifio, fel springboard, er mwyn gwneud popeth rŷn ni'n gallu i warchod ein dyfodol ni a chenedlaethau i ddod. Diolch.
Mae'r Bil yma, fel rŷn ni newydd glywed, wrth gwrs, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol yn ystod ei daith drwy'r Senedd, ond mae e hefyd wedi bod ychydig yn ddadleuol oherwydd bod Llywodraeth Cymru wedi mynnu defnyddio proses graffu gyflym ar ei gyfer. Nawr, dwi ddim yn awgrymu bod gweithdrefnau'r Senedd wedi cael eu camddefnyddio, ond mae'r hyn rŷn ni wedi'i weld ymhell o fod yn arfer da.
Roedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Seilwaith yn pryderu bod gwaith craffu Cyfnod 1 ar y Bil wedi cael ei osgoi. Er bod y pwyllgor wedi gallu cynnal rhywfaint o waith craffu ar Fil drafft, doedd hyn ddim yn ddigonol o ran disodli gwaith craffu yng Nghyfnod 1, a phe na baem wedi gwneud y gwaith hwnnw, yna fydden ni ddim wedi cael ymgynghoriad cyhoeddus ar ddarpariaethau manwl y Bil, na chyfle, wrth gwrs, i'r rhai sy'n cael eu heffeithio arnyn nhw gan y cynigion yn y Bil i ddweud eu dweud.
Ond nid y pwyllgor newid hinsawdd oedd yr unig bwyllgor, wrth gwrs, i fynegi pryderon. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi mynegi siom am y ffaith nad yw'r Gweinidog wedi gallu darparu'r wybodaeth ariannol y gofynnodd amdani. Awgrymodd y Gweinidog y gallai gymryd o leiaf chwe mis i swyddogion gwblhau'r gwaith hwn. Fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi nodi yn ei lythyr at y Prif Weinidog, bydd y Bil wedi cwblhau ei daith ddeddfwriaethol drwy'r Senedd cyn bod y wybodaeth ariannol bwysig hon ar gael, a dwi'n cytuno â'r Cadeirydd am y ffaith nad yw hyn yn ddigon da.
Fe wnaeth y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad godi nifer o bryderon hefyd am y broses gyflym y mae'r Bil hwn wedi'i dilyn. Mae'r Gweinidog wedi dweud mai'r bwriad yw y bydd yr holl ddarpariaethau yn y Bil yn cael eu cychwyn erbyn Ebrill 2026. Mae Cadeirydd y pwyllgor wedi cwestiynu, a hynny'n briodol, a oes angen proses gyflym ar y sail honno. Mae'r broses gyflym hon yn rhan bwysig o'n gweithdrefnau ni, wrth gwrs, a bydd adegau pan fydd angen ei defnyddio. Serch hynny, dim ond pan fydd hi'n angenrheidiol y dylai'r broses hon gael ei defnyddio, nid oherwydd ei bod hi'n gyfleus. Dylai gwaith craffu ar ddeddfwriaeth gael ei weld gan y Llywodraeth fel rhan sylfaenol o'r broses ddeddfu, nid fel rhywbeth y mae angen ei oddef neu, yn achos y Bil yma, ei osgoi.
Wedi dweud hynny, dwi, fel bron iawn bawb arall, dwi'n siŵr, yn gobeithio bydd y Bil hwn yn cael ei basio, ond dwi yn credu y dylai'r Gweinidog a'r Prif Weinidog fyfyrio ar ddigonolrwydd y broses a arweiniodd at ddod â ni i'r man yna. Diolch.
Y Gweinidog Newid Hinsawdd i ymateb i'r ddadl—Weinidog.
Diolch, Llywydd. Dim ond i ddiolch eto i bawb sydd wedi gweithio'n galed iawn ar y Bil, pob un o'r pwyllgorau, yr holl Aelodau, ond, yn fwyaf arbennig, i bobl, busnesau a phobl ifanc Cymru sydd wedi gweithio'n ddiflino ac yn galed, ac wedi pwyso'n galed iawn i mi gael y Bil hwn ar y llyfr statud, ac rwy'n falch iawn fy mod i wedi gallu gwneud hynny drostyn nhw ac ar gyfer ein cenedlaethau i'r dyfodol. Diolch.
Ddim yn hollol eto.
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.50C, mae'n rhaid cynnal pleidlais wedi'i chofnodi ar gynigion Cyfnod 4. Felly, fe wnawn ni symud i'r bleidlais yna nawr, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig i gymeradwyo Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru). Dwi'n agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 53, neb yn ymatal, un yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.
Diolch yn fawr i bawb. Fe ddaw hynny â'n gwaith am y dydd heddiw i ben.