1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru ar 7 Rhagfyr 2022.
3. Pa gefnogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i'r sector gwirfoddol yng Ngogledd Cymru? OQ58829
Diolch yn fawr, Sam. Rwyf wedi cytuno ar gyllid o £6.98 miliwn y flwyddyn ar gyfer Cefnogi Trydydd Sector Cymru am dair blynedd. Mae ychydig dros £1 miliwn o’r cyllid hwn yn mynd i’r chwe chyngor gwirfoddol sirol yng ngogledd Cymru i helpu mudiadau gwirfoddol lleol gyda chodi arian, llywodraethu da, diogelu a gwirfoddoli.
Diolch am eich ymateb, Weinidog, ac am y cymorth a roddwyd eisoes i’r sector gwirfoddol yn fy rhanbarth i yng ngogledd Cymru.
Fis diwethaf, cefais y pleser o ymweld â chanolfan achub anifeiliaid Freshfields yn Nebo ger Caernarfon. Mae'n rhaid imi ddweud, cyfarfûm â chath fach hyfryd yno o'r enw Benji, a chefais fy nhemtio'n fawr i fynd â Benji adref gyda mi. Maent yn gwneud gwaith gwych yn cefnogi anifeiliaid sy’n cael eu gadael a’u hesgeuluso ar draws y gogledd, sy’n enghraifft wych o’r sector gwirfoddol yn gwneud eu rhan yn ein cymunedau. Sylwais ar dri pheth yn ystod fy ymweliad. Y cyntaf yw'r galw cynyddol am ganolfannau achub anifeiliaid a chymorth i anifeiliaid sy'n cael eu gadael. Yr ail oedd bod nifer o ganolfannau achub anifeiliaid wedi cwympo drwy'r bylchau gyda chyllid COVID dros y blynyddoedd diwethaf, ac nid ydynt wedi gallu cael mynediad at yr un cyllid â sefydliadau eraill o bosibl. Trydydd peth yw rhai o’r heriau ar hyn o bryd gyda recriwtio a chadw gwirfoddolwyr.
Ar y pwynt hwnnw, Weinidog, tybed a oes cyfle i Lywodraeth Cymru weithio'n agosach gyda'r sector gwirfoddol i sicrhau y gellir recriwtio a chadw gwirfoddolwyr mewn ffordd well? Efallai y gellir gwneud hynny drwy dynnu sylw at beth o’r gwaith gwych y mae gwirfoddolwyr yn ei wneud yn ein cymunedau, yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r lleoedd rydym yn byw ynddynt.
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn, cwestiwn pwysig iawn, sy’n tynnu sylw unwaith eto at effaith andwyol yr argyfwng costau byw. Mae'n dda iawn clywed am waith Freshfields, y ganolfan achub anifeiliaid. Gallwn efelychu'r elusennau hynny sy'n gweithio fel hynny ledled Cymru, a cheir pryderon nawr fod llawer iawn o alw am y canolfannau achub hyn. Credaf fod eich pwynt ynglŷn â recriwtio a chadw gwirfoddolwyr yn hollbwysig. Wrth gwrs, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ei drafod pan fyddaf yn cyfarfod â chyngor partneriaeth y trydydd sector, a gadeirir gennyf. Yn y cyfarfod diwethaf ym mis Tachwedd, roedd eitem ar yr uwchgynhadledd costau byw. Clywsom yn uniongyrchol gan y sector. Rydym wedi gwneud yr hyn a allwn i’w cefnogi. Ceir pryder ynglŷn â'r trydydd sector, a byddai hyn yn effeithio hyd yn oed ar y canolfannau achub hyn, a'r ffaith eu bod hwy hefyd yn mynd i wynebu costau ynni uchel. Rwy'n gobeithio y byddwch yn ein cefnogi mewn perthynas â sylwadau i Lywodraeth y DU fod angen cymorth y tu hwnt i fis Ebrill gyda'r costau a wynebir gan y sector gwirfoddol. Ond rydym yn awyddus i gefnogi’r cynghorau gwirfoddol sirol sy’n cydgysylltu ac yn recriwtio gwirfoddolwyr ac yn eu cefnogi, oherwydd yn union fel yn ystod y pandemig, bydd gwirfoddolwyr yn hollbwysig, ac maent yn mynd i chwarae rhan fawr nid yn unig gyda banciau bwyd, ond yn y mannau cynnes sydd bellach yn agor ledled Cymru mewn ymateb i’r argyfwng costau byw.