Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:05 pm ar 7 Rhagfyr 2022.
Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn ymwneud yn fawr â hyn ac yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU i weld pa fudd a ddaw yn sgil ECO4 o ran ein sefyllfa. Oherwydd yn amlwg, mae effeithlonrwydd ynni, ac effeithlonrwydd ynni ein rhaglen Cartrefi Clyd, yn hanfodol i fynd i'r afael â thlodi tanwydd. Ond rwy'n credu, unwaith eto, mai cyfrifoldeb y Gweinidog Newid Hinsawdd fydd adrodd yn ôl ar y trafodaethau presennol, ond hefyd i gydnabod yr hyn rydym yn ei wneud gyda'r rhaglen Cartrefi Clyd, y cynllun Nyth sy'n seiliedig ar alw, nad yw'n dod i ben tan fis Medi nesaf mewn gwirionedd, ac rydych yn gwybod ei bod bellach wedi cyhoeddi dull newydd yn ei datganiad ar lafar ar 8 Tachwedd, sy'n ddull ffabrig yn gyntaf, gwaethaf yn gyntaf a charbon isel o fynd ati.