Tlodi Tanwydd

Part of 1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jenny Rathbone Jenny Rathbone Labour 2:06, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Roeddwn eisiau dilyn cwestiwn Mark Isherwood, oherwydd rwy'n credu ei fod yn ymwneud â grymuso awdurdodau lleol a sicrhau bod ganddynt adnoddau i wneud cais am system ECO4 Flex, oherwydd mae'n debyg i 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Mae angen inni sicrhau bod Cymru'n hawlio'r hyn sy'n ddyledus iddi, i ôl-osod rhai o'n cartrefi niferus sy'n rhy oer o lawer a lle mae pobl yn byw mewn tlodi tanwydd. Felly, tybed a wnewch chi gael sgwrs gyda'ch cyd-Aelod, y Gweinidog llywodraeth leol, ynglŷn â sut y gallwn sicrhau bod gan awdurdodau lleol adnoddau i sicrhau bod ganddynt allu i wneud cais am y cyllid hwn.