Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 7 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Peredur Owen Griffiths Peredur Owen Griffiths Plaid Cymru 2:39, 7 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch yn fawr, Gwnsler Cyffredinol, ac yn sicr, fe wnaf ysgrifennu atoch am hynny.

Ers y rownd olaf o gwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol, cawsom ddyfarniad y Goruchaf Lys nad oes gan Senedd yr Alban bŵer i ddeddfu ar gyfer cynnal refferendwm. A yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Brif Weinidog Cymru yn yr haf, fod achos moesol a gwleidyddol diamwys dros ganiatáu i'r Alban gynnal refferendwm ar annibyniaeth? Ac a ydych chi hefyd yn cytuno bod gan bob cenedl hawl i hunanbenderfyniaeth, os mai dyna yw dymuniad democrataidd y bobl? Yn olaf, beth yw asesiad y Cwnsler Cyffredinol o effaith adrannau 60 a 64 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 ar allu Llywodraeth Cymru i gynnal refferendwm ar annibyniaeth?