4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2023-24

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 13 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Heledd Fychan Heledd Fychan Plaid Cymru 4:24, 13 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Diolch, Weinidog. Hoffwn adleisio llawer o'r sylwadau. Nid yw yn benderfyniad hawdd, ac, mewn sawl ffordd, mae'n gyllideb drist iawn. Rydych chi'n edrych arno ac yn meddwl am y penderfyniadau anodd y mae'n rhaid eu gwneud, ond hefyd o wybod, i lawer o bobl, nad yw'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i'w bywydau.