1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
5. Beth mae'r Gweinidog yn ei wneud i godi'r cyfartaledd cyflog yn Nwyfor Meirionnydd? OQ58883
Rydym yn defnyddio ein sgiliau, ein cymorth busnes a'n hysgogiadau datblygu economaidd i helpu i greu a diogelu cyflogaeth o ansawdd da ac i helpu i wella cyfleoedd i gamu ymlaen. Mae hyn yn cefnogi ein hymdrechion i gynyddu incwm gwario gros y pen fel rhan o'n cenhadaeth economaidd a'n hymagwedd tuag at economi llesiant yma yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hynny, ond dwi'n ofni bod y Llywodraeth yn chwilio am atebion llawer rhy simplistaidd i gwestiynau llawer iawn mwy dyrys, mewn gwirionedd. Mae yna lu o swyddi gwag gennym ni ar hyn o bryd; mae rhai yn talu'n dda iawn, rhai ddim cystal—yn feddygon, yn filfeddygon, yn ddarlithwyr, yn athrawon, yn swyddogion cynllunio, yn ofalwyr, a llawer iawn mwy. Ond, does yna ddim pobl yn gofyn y cwestiwn pam nad ydy pobl yn cymryd y swyddi yma i fyny. Mae'r cyfrifiad diweddaraf yn dangos y boblogaeth yn disgyn efo ni yng Ngwynedd, efo cynnydd sylweddol yn y boblogaeth dros 65 a chwymp pryderus yn y boblogaeth oedran gwaith. Felly, mae yna rywbeth llawer iawn dyfnach yn mynd ymlaen yma. A wnewch chi fel Gweinidog, felly, ymrwymo i wneud ymchwiliad trylwyr, deep dive, i mewn i beth sy'n digwydd yng Nghymru wledig, er mwyn deall y ffenomenon yma o beth sydd yn digwydd, ac yna, o gael y wybodaeth yma, gallwn ni ddechrau adnabod y datrysiadau i ateb y problemau go iawn?
Rwy'n siŵr fod angen archwiliad dwfn, ond yr hyn a wneuthum ar ddechrau'r tymor hwn, mewn gwaith y comisiynais Jonathan Portes i'w wneud ar ran Llywodraeth Cymru, oedd edrych ar ystod o'r ffactorau a'r heriau sy'n ein hwynebu. Mae'n cynnwys y realiti, fel y mae'r Aelod wedi'i ddweud, mewn rhai rhannau o Gymru, ein bod yn gweld poblogaeth yn symud i ffwrdd o'r ardaloedd hynny. Mae honno'n her fawr wrth sicrhau dyfodol i'n cymunedau. Mae'n rhan o'r rheswm pam rydym wedi nodi'r angen, yn y genhadaeth economaidd, i sicrhau ein bod yn helpu pobl iau i allu cynllunio eu dyfodol yng Nghymru, yn ogystal â denu pobl i symud i Gymru i fod yn rhan o'n stori ar gyfer y dyfodol. Gallai'r rheini fod yn Gymry ar wasgar sy'n symud yn ôl atom, gallent fod yn eraill hefyd yn ogystal, oherwydd rydym eisiau gweld bywyd go iawn i gymunedau sy'n llwyddiannus yn economaidd.
Mae'r her hefyd yn ymwneud â'r math o ddyfodol economaidd rydym yn ei gynnig, a dyna pam mae angen inni fuddsoddi mewn sgiliau. Dyna pam mae angen inni gydnabod, mewn ystod o'r meysydd y mae'r Aelod wedi'u crybwyll, fod y pwynt a wneuthum yn gynharach am y berthynas â mudo yn bwysig iawn. Rhan o'r her yn y byd milfeddygol y soniodd yr Aelod amdano—a dylwn nodi fy mod yn noddwr anrhydeddus i Gymdeithas Milfeddygon Prydain, rwy'n credu; roedd fy nhad yn filfeddyg hefyd—yw cydnabod, mewn gwirionedd, mai rhan o'r her fawr rydym yn ei hwynebu yw bod nifer o filfeddygon wedi dod o Ewrop ac ymhellach i ffwrdd, ac mewn gwirionedd mae yna risg fawr yn yr hyn sydd eisoes wedi digwydd gyda nifer o'r bobl hynny wedi gadael y DU. Felly, mae nifer y milfeddygon sydd gennym yn isel. Ar yr un pryd, bydd y galw hyd yn oed yn fwy, yn enwedig oherwydd bod ein trefniadau ar y ffin wedi newid hefyd.
Felly, mae'n ymwneud ag amryw o ffactorau—rwy'n cydnabod hynny—a'n her ni yw sut rydym yn llwyddo i gael ymateb yn y genhadaeth economaidd, ond hefyd ystod o adrannau eraill y Llywodraeth, sy'n ceisio ateb yr her honno i ddenu'r math o bobl rydym eu hangen i ddod i Gymru ac i roi cyfle i bobl sydd wedi'u magu yma i gynllunio dyfodol llwyddiannus yng Nghymru hefyd, boed hynny yn y Gymru drefol neu wledig. Dyna ran o'r rheswm rwy'n edrych ar gyfleoedd datblygu economaidd nad ydynt yn seiliedig ar fodel sydd ond yn dweud, 'Symudwch bobl i ddinasoedd', oherwydd ni fydd y model hwnnw ei hun yn gweithio i Gymru.