Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:26 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr iawn. Mae'n ddrwg iawn gyda fi i glywed am hanes Emily; mae hi'n un o'r nifer o fenywod sydd yn dioddef o endometriosis. Rydyn ni wedi cydnabod bod angen inni wneud lot mwy yn y maes yma, a dyna pam nawr mae gyda ni nyrsys endometriosis ym mhob bwrdd iechyd ar draws Cymru. Felly, mae pethau'n gwella, ond rŷn ni'n cydnabod hefyd bod angen mwy o feddygon sydd yn gallu gwneud yr ymyrraeth sydd angen ar gyfer nifer o fenywod.
O ran y cyhoeddiad, beth rŷn ni wedi ei wneud nawr—. Cyhoeddiad yr NHS fydd hi, yn hytrach na chyhoeddiad y Llywodraeth, ond dwi wedi ei weld. Dwi wedi dweud fy mod i'n hapus gyda'r ffordd mae'r trywydd yna'n mynd a dwi'n gobeithio y bydd hwnna'n cael ei gyhoeddi yn ystod yr wythnos nesaf. Felly, mi fydd e'n dod. Beth sydd yn hwnnw yw—. Rŷn ni wedi gwneud ymgynghoriad, wrth gwrs, gyda menywod ar draws Cymru i ofyn iddyn nhw, 'Beth ŷch chi'n meddwl sydd angen mewn cynllun?' A beth fyddwn ni'n ei gael yw'r ymateb yma, beth mae'r 4,000 o bobl sydd wedi ymateb yn meddwl ddylai fod yn y cynllun, ac wedyn bydd hwnna'n mynd ymlaen, a gobeithio cawn ni rywbeth arall wedyn, cam ymhellach ymlaen, yn yr haf. Achos cynllun 10 mlynedd fydd hi, a dwi'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni ddim jest yn edrych ar faterion sydd yn ymwneud â gynaecoleg a'r agweddau hynny o fenywod, ond dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n edrych ar bethau fel asthma, yr anxiety a'r migraines sy'n effeithio ar fenywod mewn ffordd wahanol. Felly, mae lot o waith eto i'w wneud, ond beth oedd yn bwysig oedd gwneud yn siŵr mai menywod oedd yn teimlo fel mai nhw oedd yn cael dylanwad ar siâp y rhaglen fydd i ddod.