Y Cynllun Iechyd Menywod

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:28 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of James Evans James Evans Conservative 2:28, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, fel y gwyddoch yn sicr, fe wnaethom ni fel Ceidwadwyr Cymreig gynnal dadl yn y Siambr hon ar ganser gynaecolegol sy'n effeithio ar fenywod. Roedd gennym alwadau clir yn y ddadl honno y teimlwn y gallent helpu menywod ledled Cymru sy'n dioddef gyda'r clefyd ofnadwy hwn. Yr hyn yr hoffwn ei wybod heddiw gan Lywodraeth Cymru yw beth rydych chi'n ei wneud i fynd i'r afael â chanser gynaecolegol yma yng Nghymru, a pha gamau a gymerwyd gennych, yn dilyn y ddadl honno, i wneud yn siŵr nad oes rhaid i fwy o fenywod yng Nghymru ddioddef gyda'r clefyd erchyll hwn.