Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Diolch yn fawr. Rwy'n falch o ddweud fy mod wedi bod ar drywydd y ddadl honno, ac un o'r pethau rwyf wedi'i wneud yw cynnal uwchgynhadledd canser, lle buom yn edrych, yn amlwg, ar ddadansoddiad o lle mae angen inni wneud cynnydd pellach mewn perthynas â chanser gynaecolegol yn arbennig. Rydym yn rhoi pwysau ar fyrddau iechyd i sicrhau eu bod yn deall beth yw'r llwybrau gorau posibl i wneud yn siŵr y gallant ddysgu oddi wrth ei gilydd. Un o brif ddibenion yr uwchgynadleddau canser hyn yw sicrhau eu bod yn deall beth yw'r llwybr gorau posibl, gan ddilyn y cyngor clinigol gorau. Felly, rwy'n falch o ddweud bod cynnydd wedi'i wneud. Rwy'n credu bod gennym ffordd bell i fynd, a bod yn onest. Mae rhywfaint o hynny'n ymwneud â gweithlu, ond yn amlwg, byddwn yn gwneud cyhoeddiadau'n fuan am yr hyn y bwriadwn ei wneud mewn perthynas â'r gweithlu.