Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:40 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:40, 14 Rhagfyr 2022

Roedd 'gobaith' yn air a gafodd ei ddefnyddio yn fanna. Mae gen i ofn mai'r Gweinidog yn gobeithio am y gorau ydy hynny; dydy'r NHS ddim yn mynd i ddod dros ei broblemau os ydy'r Gweinidog jest yn gobeithio am y gorau. Ac efo mwy o staff ambiwlans, wrth gwrs, methu cael cleifion i mewn i'r ysbytai mae'r ambiwlans; dydy mwy o staff ambiwlans ddim yn mynd i ddatrys pethau.