Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:39 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Wel, mae'n amlwg ein bod ni'n treulio lot o amser yn paratoi ar gyfer y gaeaf—rŷn ni'n gwybod y bydd pwysau dros y gaeaf. Maen nhw eisoes wedi dechrau—rŷn ni wedi gweld faint o bwysau oedd ar y gwasanaethau dros y penwythnos diwethaf. Dyw hi ddim yn helpu pan ŷn ni'n gweld pethau fel scarlet fever yn codi—doeddem ni ddim yn disgwyl gweld hynny. Felly, mae pethau'n codi nag ydym ni'n disgwyl eu gweld. Ond, wrth gwrs, mae arian ychwanegol nawr ar gyfer y flwyddyn nesaf, ar gyfer y gwasanaeth iechyd. Yn amlwg, mae hwnna'n mynd i fod yn anodd, pan fo chwyddiant yn effeithio. Mae yna gwpwl o bethau lle dwi'n meddwl y byddwn ni'n gweld gwahaniaeth dros y gaeaf. Un ohonynt fydd y ffaith ein bod ni'n mynd i weld 100 o weithwyr ambiwlans ychwanegol yn dechrau dros gyfnod y Nadolig. Maen nhw wedi bod mewn hyfforddiant; gobeithio y bydd hynny'n cymryd rhywfaint o bwysau oddi ar y gwasanaeth ambiwlans. A hefyd, bydd yna gyhoeddiad ar ddydd Gwener gan y Dirprwy Weinidog, ar ofal, sydd hefyd, gobeithio—. Rŷn ni wedi bod yn gweithio ar hwnna am fisoedd lawer, gyda'n gilydd, gyda llywodraeth leol, ar roi mwy o help yn ein cymunedau, ond mi wnawn ni gyhoeddiad mwy manwl ar hynny ar ddiwedd yr wythnos.