Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 2:38 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 2:38, 14 Rhagfyr 2022

Diolch yn fawr iawn. A gaf innau, yng nghwestiynau iechyd olaf y flwyddyn, ddefnyddio'r cyfle yma i ddymuno 'Nadolig Llawen' i'r Gweinidog, i'r Senedd, ac i bawb sy'n gweithio ar draws y gwasanaethau iechyd a gofal? Ac mae'n teimlo'n gyfarchiad gwag, braidd, pan ydyn ni'n edrych ar yr heriau y mae'r gwasanaethau hynny'n eu hwynebu. Doeddwn i wir ddim yn gwybod beth i'w ofyn heddiw. Mi allwn i fynd ar ôl heriau'r gaeaf; yr argyfwng recriwtio a chadw staff; amseroedd aros am driniaeth mewn adrannau brys, neu am ambiwlans; dyfodol yr ambiwlans awyr; diffyg gwlâu cymunedol; streics; mi fuaswn i fod wedi gallu cynnwys prinder antibiotigs—mae yna gwestiwn amserol wedi ei dderbyn ar hwnnw. Lle mae rhywun yn dechrau? Ond gadewch i fi ofyn hyn: pa gyflwr y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r NHS fod ynddo fo erbyn fy mod i'n gallu gofyn y cwestiynau nesaf yma yn y Senedd? Mae gen i ofn bod cleifion a staff wedi colli ffydd yng ngallu'r Llywodraeth i reoli'r NHS. Gaf i ofyn i'r Gweinidog roi rhywbeth i ni—unrhyw beth—y byddwn ni'n gallu ei weld yn gwella, cornel yn cael ei throi, i brofi y dylem ni ymddiried yn y Gweinidog?