Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Fe ŵyr y Gweinidog fod y grŵp trawsbleidiol ar ganser yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd, yn benodol i faterion yn ymwneud ag amddifadedd a chanser. Ymddengys bod cydberthynas uniongyrchol rhyngddynt, o'r holl dystiolaeth rydym wedi'i chlywed mewn dwy sesiwn, felly mae'n amlwg fod awydd mawr i fwrw ymlaen â'r cynllun gweithredu ar ganser. Tybed a oes ganddi unrhyw safbwyntiau rhagarweiniol ei hun ynglŷn â'r gwaith y mae’r grŵp trawsbleidiol ar ganser yn ei wneud ar hyn o bryd, a’r cwestiwn ynghylch nid yn unig cyflwyno’r cynllun gweithredu, ond mater effaith amlwg amddifadedd ar nifer achosion o ganser, o ran diagnosis, triniaeth, gofal a llwyddiant bywyd llwyddiannus ar ôl canser hefyd, a byw gyda chanser.