Cynllun Gweithredu Gwasanaethau Canser

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol – Senedd Cymru am 3:04 pm ar 14 Rhagfyr 2022.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Altaf Hussain Altaf Hussain Conservative 3:04, 14 Rhagfyr 2022

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn yr ychydig wythnosau diwethaf, rwyf wedi ailadrodd yr angen ichi amlinellu canlyniad yr uwchgynhadledd ar ganser a gynhaliwyd dros fis yn ôl i’r Senedd, ac a ddisgrifiwyd fel un ddigynsail ac arwyddocaol, lle cytunwyd ar nifer o gamau allweddol. Pa gynnydd a wnaethoch ar fwrw ymlaen â’r cytundeb hwn, a pham fod y Llywodraeth hon wedi methu ymateb yn gyflym i’r brys amlwg a nodwyd yn yr uwchgynhadledd honno ar ganser? Diolch.