3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 14 Rhagfyr 2022.
2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynnig i sicrhau safonau cyflogaeth mwy trwyadl yng ngwasanaethau tân ac achub Cymru yn sgil yr honiadau yn erbyn Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru? TQ700
Mae’r honiadau hyn yn datgelu ymddygiad echrydus a chwbl annerbyniol nad oes lle iddo yn y gwasanaeth tân ac achub, nac yn unman arall. Mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru eisoes wedi cyhoeddi adolygiad o'i brosesau a'i ddiwylliant ei hun. Mae angen iddo fod yn wirioneddol annibynnol, cadarn a chynhwysfawr.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Dywedodd y stori newyddion ar ITV Cymru nos Lun fod o leiaf ddau unigolyn yng ngwasanaeth tân de Cymru wedi methu cyrraedd y safonau rhagorol sy'n cael eu hyrwyddo gan y gwasanaeth tân ac achub. Rwy'n credu y gall pob un ohonom gytuno na ddylai eu hymddygiad ffiaidd fyth gael ei oddef, a hoffwn ychwanegu fy llais i gydnabod dewrder y dioddefwyr sydd wedi tynnu sylw at hyn, a’r hyn sydd wedi digwydd iddynt.
Roedd y stori newyddion hefyd yn honni bod gan wasanaeth tân de Cymru ddiwylliant o gelu, ac nad oedd yr unigolion hyn wedi cael eu diswyddo'n barhaol pan ddaeth y digwyddiadau i'r amlwg gyntaf. Yn lle hynny, cawsant eu trosglwyddo i rywle arall, gan gynnwys i orsaf Rhuban Gwyn. Credaf ei bod yn wir dweud y bydd bron i bob sefydliad, cwmni neu fudiad, heb os, ar ryw adeg, yn gorfod ymdrin â staff, neu sawl aelod o staff, nad ydynt wedi cadw at y gwerthoedd a'r ymddygiad a ddisgwylir ganddynt. Mae'r unigolion hyn sy'n cyflawni gweithredoedd a'r rheini sy'n eu celu nid yn unig yn gwneud niwed aruthrol i'w dioddefwyr, ond maent hefyd yn achosi canlyniadau hirdymor i'w cwmni a'u cydweithwyr.
Rwy'n ymwybodol, fel y dywedwch, fod y gwasanaeth tân bellach wedi lansio adolygiad annibynnol o'r diwylliant, y broses ddisgyblu, ac unrhyw achosion hanesyddol. Ond rwy'n ymwybodol hefyd na ddarparwyd manylion llawn yr achosion hyn yn y stori newyddion, ac efallai mai achos o fethiant y weithdrefn briodol yw hyn, yn hytrach na methiant diwylliant yn y gwasanaeth. Gyda hyn mewn golwg, ac o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd, Ddirprwy Weinidog, a wnewch chi amlinellu pa drafodaethau a gawsoch gyda’r gwasanaeth tân ar y mater hwn? Onid yw’n bryd i bersonél gweithredol y gwasanaeth ymgymryd â gweithdrefnau fetio rheolaidd a pharhaus, yn debyg i’r rheini a gawsant pan oeddent yn ymgeisio am y rôl, er mwyn sicrhau y gellir cynnal y safonau a ddisgwylir ganddynt drwy gydol eu gyrfaoedd? Diolch.
A gaf fi ddiolch i Joel James am godi hyn heddiw? Mae’n iawn ein bod yn cael cyfle i drafod hyn ar lawr y Senedd hon, a chytunaf yn llwyr ag ef fod yr honiadau a ddaeth i’r amlwg yn adroddiad newyddion ITV yn gwbl wrthun, ond rydych yn llygad eich lle na ddylai gymryd adroddiad newyddion i gamau gweithredu gael eu cymryd ar y materion hyn hefyd. Fe sonioch chi am ddewrder y menywod sydd wedi rhoi gwybod am eu profiadau. Nid yw hynny’n beth hawdd i’w wneud. Mae’n gam mawr i’w gymryd. Ond ni ddylai fod yn gam angenrheidiol i'w gymryd. Ni ddylai’r ymddygiad hwnnw fodoli yn y lle cyntaf, ond dylai’r gefnogaeth fod yno o fewn y sefydliadau hynny i alluogi pobl i deimlo’n ddiogel ac i roi gwybod i rywun heb ofni ôl-effeithiau yn sgil hynny.
A dweud y gwir, cefais gyfarfod brys gyda chadeirydd Awdurdod Tân ac Achub De Cymru bore ddoe, a dywedais yn glir iawn wrtho fod angen ymchwiliad cwbl annibynnol ac eang i’r materion hyn. Dylai fod yn debyg i'r un a sefydlwyd gan Gomisiynydd Tân Llundain i ymchwilio i honiadau o fwlio hiliol, a adroddodd fis diwethaf. Ar y pwyntiau a wnaeth yr Aelod, pwysleisiais yn arbennig wrth y cadeirydd fod angen i’r ymchwiliad hwn gael ei arwain gan unigolyn y gellir ymddiried ynddynt ac sy’n gwbl annibynnol ar y gwasanaethau tân ac achub, megis bargyfreithiwr, a bod yn rhaid i’w gwmpas gynnwys pob math o wahaniaethu, aflonyddu, ymddygiad a diwylliannau annerbyniol. Mae'n rhaid iddo fod yn rhydd i archwilio unrhyw ddogfennau ac i arolygu neu gyfweld â staff, ac mae'n rhaid cyhoeddi ei ganfyddiadau. Ni ellir mynd i'r afael â'r mater fel digwyddiad unigol; mae angen iddo edrych ar y strwythurau sydd wedi caniatáu i hynny ddigwydd a pha gamau sydd angen eu cymryd i sicrhau na chaiff ei ailadrodd yn y dyfodol. Rwyf wedi gofyn i’r cadeirydd am sicrwydd brys ar y materion hyn, ac rwy’n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r lle hwn ar hynny.
I gloi fy ateb i Joel James, rwy'n credu mai’r hyn sy’n amlwg yw bod angen polisi dim goddefgarwch, nid yn unig tuag at y math hwn o ymddygiad, ond tuag at ddiwylliannau a sefydliadau sy’n caniatáu i bobl gadw'n dawel hefyd.
Addewid y Rhuban Gwyn yw peidio byth â chyflawni, esgusodi nac aros yn dawel am drais dynion yn erbyn menywod. Pan ganiataodd y gwasanaeth i ddau gamdriniwr gadw eu swyddi, torrodd yr addewid hwnnw. Lywydd, hoffwn dalu teyrnged i’r menywod dewr sydd wedi siarad, a fy siom enbyd yn y gwasanaeth rwyf wedi gweithio’n agos ag ef ar ymgyrch y Rhuban Gwyn ers blynyddoedd lawer. Cawn weld beth mae'r ymchwiliad yn ei ddarganfod, ond yn amlwg, mae rhywbeth wedi mynd ymhell o'i le yma.
Yn gyntaf, Heddlu Gwent; a nawr, gwasanaeth tân de Cymru. A ydych chi'n cytuno, Ddirprwy Weinidog, fod gan bobl bob hawl i ddisgwyl dim goddefgarwch tuag at drais ar sail rhywedd yn eu holl wasanaethau cyhoeddus? A beth sy'n cael ei wneud o fewn sefydliadau'r sector cyhoeddus i ganfod ac ymdrin â throseddwyr? A wnewch chi gyflwyno dadl ar hyn, os gwelwch yn dda, gyda’ch cyd-Aelod, Jane Hutt, am strategaeth y gweithle sy'n seiliedig ar urddas a pharch, oherwydd yn ôl yr adroddiad, roedd y menywod a gâi eu cyflogi yn y sefydliad hwn wedi cael eu hamddifadu'n llwyr o bob lefel o urddas a pharch?
Gwn fy mod, gyda Jane Hutt, yn lansio adroddiad a fydd yn ymdrin â hyn ym mis Ionawr, gyda Chyngres Undebau Llafur Cymru. Rwy'n credu y byddai’n syniad ardderchog pe bai pob sefydliad yn y sector cyhoeddus yn anfon penaethiaid adran i’r lansiad hwnnw, fel y gallent o leiaf ddysgu rhywbeth a mynd â’r gwersi hynny a ddysgwyd yn ôl i’r gweithle, gobeithio. Mae hyn yn gwbl warthus. Mae wedi siomi pobl, ac os yw hanner neu ran fach o'r hyn a oedd yn yr adroddiad hwnnw i'w gredu, mae tu hwnt i bob dealltwriaeth.
Rwy'n rhannu'n llwyr—wel, mewn gwirionedd, mae'n debyg bod dweud fy mod yn rhannu siom Joyce Watson yn danosodiad. Mae’r Aelod yn codi pwyntiau pwysig am yr hyn y gallaf fi a Jane Hutt a chithau ei wneud wrth symud ymlaen, ac rwy’n fwy na pharod i godi hynny mewn perthynas â'r ddadl a sut y down â phobl ynghyd. Fe sonioch chi am ymgyrch y Rhuban Gwyn a’ch siom eu bod wedi torri’r addewid hwnnw. Yn 2014, roeddem yn hynod falch mai Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru oedd y gwasanaeth tân ac achub cyntaf yn y byd i gael achrediad Rhuban Gwyn, a dim ond y llynedd, fe wnaethant ddatgan bod eu 47 o orsafoedd tân yn y rhanbarth yn hafanau diogel. Nawr, rydym wedi gweld bod yr achrediad hwnnw wedi'i ddileu yn sgil cyhoeddi'r honiadau hyn, ond credaf mai'r hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthym yw nad yw ymrwymiad corfforaethol i hyn yn ddigon; mae angen newid diwylliannol ar raddfa'r sefydliad cyfan ac arferion a phrosesau ar waith sy'n cefnogi ac yn galluogi hynny hefyd. Fe sonioch chi am wasanaethau eraill, ac rwy'n credu mai'r hyn sy'n amlwg i mi a phawb yn y fan hon yw ein bod wedi clywed dro ar ôl tro am afalau drwg—y naratif 'afalau drwg' hwnnw—ac ni wnaiff hynny mo'r tro, ac ni all wneud y tro. Digon yw digon.
Mae camdrin ar sail rhywedd a rhagfarn a chasineb at fenywod o fewn ein gwasanaethau rheng flaen yn gwbl annerbyniol. Dyma'r gwasanaethau sydd fod yn ein gwarchod ni, yn gwasanaethu'r cyhoedd, ac felly yn cynrychioli egwyddorion gorau ein cymdeithas. Felly, ni allwn ganiatáu i wasanaeth sy'n ymwneud â'r cyhoedd ac sydd â rôl mor warchodol feddu ar safbwyntiau ystrydebol, rhagfarnllyd a pheryglus am grwpiau penodol yn ein cymdeithas, yn enwedig pan fo tystiolaeth gynyddol bod pobl sy'n arddel y safbwyntiau rhagfarnllyd hyn yn gweithredu arnyn nhw. Rhaid i'r cyhoedd a'r grwpiau penodol hynny yn enwedig gael ffydd yn y gwasanaethau hyn—fel dinasyddion, fel cydweithwyr, fel cynrychiolwyr o werthoedd ein cymdeithas. Mae'r ffaith nad yw'r gwasanaeth tân bellach wedi ei restru fel sefydliad cefnogwyr y Rhuban Gwyn ar wefan y Rhuban Gwyn yn ysgytwol, pan ydych chi wir yn meddwl am y peth, fod ein gwasanaeth tân—un o'n gwasanaethau tân ni—wedi gorfod dad-gysylltu ei hun o ymgyrch sy'n ceisio rhoi terfyn ar drais yn erbyn menywod gan ddynion.
Gwnaeth Joyce Watson sôn am yr achosion pryderus diweddar yn Heddlu Gwent. Yn sgil hynny, ydy'r Dirprwy Weinidog yn meddwl efallai bod angen nid yn unig ymchwiliad i'r achosion penodol yma a'r llu penodol yma, y gwasanaeth yma, ond efallai bod angen ymchwiliad ehangach i ddiwylliant a gweithdrefnau ein gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen? Gallwch chi hefyd efallai amlinellu sut y bydd y strategaeth trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol ddiweddaraf yn helpu i atal sefyllfaoedd fel hyn rhag digwydd eto yn ein gwasanaethau cyhoeddus? A beth ydych chi'n meddwl sy'n mynd o'i le yn fan hyn?
Dwi'n cytuno efo Sioned Williams.
A chyda'r pwyntiau a godwch o ran—ni chredaf y gallwn fychanu pa mor syfrdanol yw hyn, ond gwaetha'r modd, i lawer ohonom yma, yn anffodus, nid yw'n syndod, gan y gwyddom fod y math hwn o ymddygiad yn endemig, nid yn unig mewn gweithleoedd, ond ar draws cymdeithas. Rydym wedi sôn o'r blaen, wrth drafod rhywiaeth bob dydd, casineb at fenywod, nad yw pob dyn ar fai, ond mae'n debyg y gallwch fod yn sicr fod bron bob menyw wedi dioddef rhyw fath o aflonyddu, wedi dioddef casineb at fenywod, neu wedi'u gwneud i deimlo'n anghyfforddus mewn man lle dylent allu teimlo'n ddiogel. Felly, fel y dywedais eisoes, credaf mai digon yw digon. Rydym wedi cyrraedd pwynt bellach lle na all hyn barhau.
Ac o ran yr hyn a ddywedoch chi am y gwasanaeth tân ac achub, rydym yn aros i weld amodau'r ymchwiliad y mae Awdurdod Tân ac Achub De Cymru wedi addo ei gynnal, ond cyn hynny, fel y dywedasom, fe wyddom fod problemau ehangach o fewn y gwasanaeth tân ac achub. Cyhoeddwyd adolygiad annibynnol o Frigâd Dân Llundain fis diwethaf, a ddatgelodd nifer o achosion gwarthus a ffiaidd o aflonyddu hiliol a rhywiol, felly ni allwn fod yn siŵr eu bod wedi'u cyfyngu i un gwasanaeth yn unig. Cyn darllediad newyddion ITV nos Lun, roeddwn wedi ysgrifennu at y tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru i ofyn am sicrwydd ynghylch y modd roeddent wedi mynd i’r afael â’r materion hyn yn dilyn adroddiad Brigâd Dân Llundain. Byddwn yn mynd drwy’r broses nawr o weithio gydag Awdurdod Tân ac Achub De Cymru ar beth fydd paramedrau’r ymchwiliad hwnnw, gan fynd yn ôl at yr hyn a ddywedais mewn ymateb i’r cwestiwn cyntaf ynglŷn â sicrhau ei fod yn wirioneddol annibynnol ac nad yw’n edrych ar honiadau unigol yn unig, ond yn hytrach, ar ddiwylliant a phroses yn gyffredinol, a’r gefnogaeth sydd ar waith yno. Ond os na cheir hynny, byddwn yn ystyried cynnal adolygiad cyffredinol o'r fath ein hunain.
Diolch i'r Dirprwy Weinidog.