Part of the debate – Senedd Cymru am 4:42 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Mae prif bwyslais ein hargymhellion yn ymwneud â gwella cymorth i grŵp penodol o fenywod, sy’n rhy aml yn cael eu hesgeuluso a hyd yn oed yn anweledig i gymdeithas. Rwy'n sicr wedi clywed tystiolaeth a fydd yn aros gyda mi am byth am brofiad goroeswyr o gymunedau mudol. Gwnaethom edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod y menywod hyn yn cael eu gweld, eu clywed, eu cefnogi, a'u bod yn gallu teimlo'n ddiogel. Rwy'n croesawu ymrwymiad diymwad y Gweinidog i fynd i’r afael â’r lefelau o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, a chredaf fod ymateb y Llywodraeth i argymhellion ein hadroddiad yn adlewyrchu hyn.
Mae canoli llais goroeswr yn rhywbeth sy'n cael ei honni’n aml gan strategaethau, ac mae’r Llywodraeth yn cyfeirio yn ei hymateb i’r adroddiad at y cynlluniau gweithredu trawsbynciol niferus sy’n ymwneud â chefnogi menywod mudol sy’n ceisio gwneud hyn. Rwy’n derbyn bod y gwaith yn mynd rhagddo, ond hoffwn bwysleisio inni ddod o hyd i lawer o enghreifftiau o achosion lle nad oedd unrhyw un wedi gwrando ar oroeswyr a'u cymunedau nac wedi ymgynghori digon â hwy. Roedd hyn i'w weld yn arbennig o wir am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn sy'n cyfrif fel cam-drin, a phryd a ble i gael cymorth. Mae'n rhaid inni wneud mwy i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â menywod o bob diwylliant a chenedligrwydd, i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn, eu bod yn ymwybodol o'u hawliau, a’u bod yn gallu ceisio cymorth os oes angen—pethau syml iawn, fel rhai o’r pethau y cyfeiriodd Jenny Rathbone atynt: deall bod menywod yn fwy tebygol o weld hysbyseb ar fws nag ymweld â gwefan, gan fod allgáu digidol yn rhwystr mor enfawr, gan ddeall lle mae menywod mudol, yng ngeiriau un o swyddogion BAWSO, 'yn cael mynd'. Dywedodd menywod mudol y gwnaethom siarad â hwy fod y cyfryngau traddodiadol yn fwy hygyrch iddynt na’r cyfryngau cymdeithasol, ond fel y dywedodd Jenny Rathbone, fe wnaethant bwysleisio bod yn rhaid i’r cynnwys hwn fod ar gael mewn gwahanol ieithoedd.
Credaf mai’r hyn y mae’r adroddiad hwn hefyd yn ei amlygu unwaith eto, a chyfeiriodd Jenny at hyn, yw’r ffin arw rhwng y pwerau a’r cyfrifoldebau datganoledig a’r pwerau a gedwir yn ôl y siaradwn amdanynt mor aml yn y lle hwn, Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â materion cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Roedd cymaint o’r dystiolaeth a glywsom yn ymwneud â’r modd y mae polisi dim hawl i gyllid cyhoeddus Llywodraeth y DU yn rhwystr mor enfawr i’r rheini sy’n dioddef trais rhywiol neu drais ar sail rhywedd ac sy’n ceisio cymorth. Rwyf am ailadrodd rhywfaint o’r dystiolaeth a glywsom am effaith y polisi hwnnw, gan y credaf fod yna berygl nad yw gwleidyddion bob amser yn ei ddeall yn llawn, neu gallant gael eu dadsensiteiddio i’r stori ddynol y tu ôl i’r jargon a’r termau cyfreithiol a glywn neu a ddarllenwn mor aml mewn adroddiadau a dogfennau polisi. Rhoddodd un cyfrannwr i un o’n grwpiau ffocws, sy'n gweithio i gefnogi menywod mudol sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, enghraifft o geisiwr lloches beichiog heb hawl i gyllid cyhoeddus,
'Mae hi’n llefain bob dydd gan ddweud nad yw hi’n gyfforddus lle mae hi. Mae’r llety yn ofnadwy. Mae mwg yn y gegin, mae drysau wedi torri ac nid yw’n teimlo’n ddiogel. Nid yw’n gwybod pwy yw rheolwr y llety oherwydd ei bod newydd gael ei rhoi yno, ac nid oes neb wedi dod i’w gweld. Gan nad oes ganddi hawl i gael arian cyhoeddus, alla i ddim gwneud cais am fudd-daliadau na llety iddi.'
Ac mae'n rhaid inni gofio bod y rhain yn fenywod sydd wedi dioddef trawma. Roedd rhywfaint o'r trawma y clywsom amdano yn annirnadwy i'r rhan fwyaf ohonom—yn wirioneddol annirnadwy. A golyga'r polisi hwn nad oes cymorth ar gael i’r menywod hyn sydd cymaint o angen ein cymorth.
Ond mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion pwerus a allai fod o gymorth gwirioneddol i geisio sicrhau bod y ffin arw'n cael ei llyfnhau i'r menywod hyn mewn rhai achosion. Roedd yn amlwg y byddai cronfa argyfwng y gall darparwyr gwasanaethau gael mynediad ati i gefnogi menywod mudol sy’n oroeswyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd ac sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, yn seiliedig ar ddull Llywodraeth yr Alban, yn ddefnyddiol iawn, ac rwy’n falch iawn o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn a hoffwn eich annog i'w roi ar waith fel mater o frys. Byddai ein nod i fod yn genedl noddfa yn cael ei gefnogi mor dda gan y dull hwn. Ac o ystyried rôl ganolog statws mewnfudo yn y dystiolaeth a glywsom a’r cynlluniau brawychus a’r rhethreg ffiaidd a glywn gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan ynghylch eu dull o weithredu a’u hymagwedd tuag at y rheini sy’n ceisio noddfa, mae mesurau fel hyn yn gwbl hanfodol i wrthsefyll hyn yng Nghymru. Rwy’n eich gwahodd, Weinidog, i ymuno â mi i gofnodi ein condemniad o'r galwadau o fewn y blaid Dorïaidd i geisio tynnu’r DU o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol er mwyn cael gwared ar hawliau rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ar y blaned hon. Mae rhethreg atgas debyg wedi’i hadleisio ar-lein gan Aelodau Ceidwadol yn y lle hwn, sydd hyd yn oed yn fwy cywilyddus wrth inni fynd i mewn i gyfnod y Nadolig, gŵyl sy'n seiliedig ar roi, ar rannu, ar ewyllys da a darparu lloches.
I gloi, yn syml iawn, ni ddylai unrhyw fenyw sy’n byw yng Nghymru fethu cael mynediad at gymorth hanfodol, megis llety â chymorth arbenigol, oherwydd ei statws mewnfudo. Mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel ac i gael byw heb gamdriniaeth ac ofn. Rwy’n obeithiol y bydd argymhellion ein hadroddiad yn helpu i sicrhau hynny.