– Senedd Cymru am 4:26 pm ar 14 Rhagfyr 2022.
Eitem 6 y prynhawn yma yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Jenny Rathbone.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae ymchwil yn dangos bod menywod mudol yn cael eu heffeithio'n anghymesur gan drais ar sail rhywedd. Go brin fod hyn yn syndod, gan eu bod yn wynebu sawl math o gam-drin a heriau ychwanegol wrth geisio cael gafael ar gymorth. Nid ymwneud â sefyllfa ceiswyr lloches yn unig y mae'r ddadl hon; mae nifer fawr iawn o bobl yn byw yn y wlad hon, yn cynnwys yng Nghymru, menywod yn bennaf, sy'n dod i'r wlad hon ar fisas priod neu fisas myfyrwyr, nad yw'r naill na'r llall yn caniatáu hawl i gyllid cyhoeddus, a gallent fod yn agored felly i fwlio, i fasnachu pobl a chaethwasiaeth ddynol. Yn anffodus, mae yna bob amser bobl allan yno sy'n barod i fanteisio ar bobl sy'n agored i niwed ac ar fylchau mewn mecanweithiau cymorth. Felly, mae hwn yn grŵp penodol y dywedodd y rhanddeiliaid wrthym ei fod yn faes polisi roedd angen ei dynhau oherwydd yr anawsterau roedd darparwyr gwasanaethau yn eu cael wrth ddarparu gwasanaeth digonol i gefnogi'r bobl fregus hyn.
Mae hyn yn ymwneud â rhwystrau iaith, mae'n ymwneud â normau diwylliannol. Efallai na fydd pobl sy'n dod i'r wlad hon yn ymwybodol eu bod yn torri'r gyfraith os ydynt yn cyflawni gweithredoedd o drais yn y cartref. A hefyd rydym wedi cael achosion o gam-drin mewnfudwyr, ac maent i gyd yn achosi mwy o anawsterau i'r menywod hyn sydd angen help, ynghyd â diffyg ymddiriedaeth mewn gwasanaethau rheng flaen, ac yn enwedig y ffordd y gallai eu gwybodaeth gael ei rhannu.
Felly, mae ymgysylltu â goroeswyr yn hanfodol er mwyn deall y problemau cymhleth a llunio dull polisi gwybodus a manwl. Rwyf am ddiolch i bawb a gyfrannodd at ein hymchwiliad, ond yn arbennig i'r menywod a rannodd eu straeon gyda ni yn ddewr ac yn onest. Roedd eu cyfraniadau'n hanfodol i'n dealltwriaeth o'r materion dan sylw. Rwyf hefyd am ddiolch i dîm ymgysylltu cymunedol y Senedd a wnaeth sicrhau bod hynny'n bosibl, yn ogystal â'r timau ymchwil a chlercio a gefnogodd waith ein pwyllgor.
Mae iaith yn her allweddol i fenywod mudol—nid datgan yr amlwg yw hyn. Gall fod yn rhwystr i godi ymwybyddiaeth—nid yw negeseuon ar fysiau, mewn toiledau cyhoeddus yn mynd i gael eu darllen gan rywun na all ddarllen Saesneg—ac mae hefyd yn rhoi rhwystr yn ffordd strategaethau atal a mynediad at gymorth. Cyfyngedig iawn yw'r gwasanaethau cyfieithu sydd ar gael, ac mae menywod yn aml yn dibynnu ar aelodau teuluol neu bobl eraill yn eu cymunedau i gyfieithu ar eu rhan. Ac mae gan hyn oblygiadau enfawr i'w hurddas a chywirdeb yr hyn y mae gweithwyr cymorth yn cael ei glywed. Felly, rydym yn falch iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf, i sicrhau bod cyfieithu annibynnol a phroffesiynol yn llawer mwy hygyrch, a byddem yn awyddus iawn i ddarganfod a yw hynny wedi gwneud gwahaniaeth amlwg maes o law.
Nid yw'n syndod mai dealltwriaeth gyfyngedig sydd gan fenywod sy'n fudwyr yn aml o beth yw eu hawliau a'r cymorth sydd ar gael iddynt, a hynny am nad ydynt yn gyfarwydd ag unrhyw ddeddfau y gallem fod wedi'u cyflwyno yma, neu'n wir, yn Senedd y DU. Felly, mae'n bwysig iawn ein bod yn defnyddio'r rhwydweithiau anffurfiol y gallai pobl—rydych yn gobeithio—gael mynediad atynt gan bobl eraill yn eu cymuned, gan aelodau eraill o'u grŵp ethnig penodol, gan eu bod yn fwy tebygol o droi atynt os nad oes ganddynt rwydweithiau eang iawn gyda phobl eraill. Felly, mae angen i strategaethau codi ymwybyddiaeth ac atal ddigwydd ar lawr gwlad, boed hynny ar lafar, WhatsApp, neu ffyrdd eraill, a chymeradwyaf y ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi cytuno i siarad â goroeswyr i lywio effeithiolrwydd y strategaeth honno. Rydym yn croesawu sefydlu’r panel craffu a chynnwys lleisiau goroeswyr yn fawr, ac edrychwn ymlaen at weld pa argymhellion y byddant yn eu gwneud.
Ar fater diffyg hawl i gyllid cyhoeddus, mae’n benbleth enfawr i ddarparwyr gwasanaethau nad ydynt yn cael eu hariannu i wneud y math hwn o beth. Golyga hefyd fod anawsterau i Lywodraeth Cymru, gan fod diffyg hawl i gyllid cyhoeddus yn golygu yn union hynny, ac mae ar y ffin arw rhwng cyfrifoldebau datganoledig a'r rhai a gedwir yn ôl. Yn syml, ni chaniateir iddynt gael mynediad at wasanaethau y telir amdanynt gan bwrs y wlad, felly os ydynt wedi dioddef ymosodiad corfforol, efallai y gallant fynd i'r adran achosion brys a chael triniaeth frys, ond yn sicr, ni fyddant yn gymwys i gael gwasanaeth cwnsela i ymdopi â'u trawma.
Nododd yr adroddiad 'Uncharted Territory' y llynedd fod mater cyllid ar gyfer darparu lloches i fenywod a merched mor flaenllaw yn 2013 ag yr oedd yn 2021, a dengys data gan Cymorth i Fenywod Cymru gynnydd o 29 y cant yn 2020-21 yn nifer y goroeswyr y gwrthodwyd lle mewn lloches iddynt oherwydd diffyg adnoddau o gymharu â’r flwyddyn ariannol flaenorol, ac yn amlwg, mae'r sefyllfa honno’n peri cryn bryder. Gall sefydliadau wneud cais i’r Swyddfa Gartref i atal yr amod dim hawl i gyllid cyhoeddus oherwydd tystiolaeth o drais, ond mae’n annhebygol y bydd penderfyniad yn cael ei wneud yn syth, nac yn wir, y bydd ateb yn cael ei roi y diwrnod wedyn. Mae dim hawl i gyllid cyhoeddus yn bolisi DU gyfan mewn maes cyfrifoldeb a gedwir yn ôl, ond mae pethau y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud o hyd i lenwi’r bwlch. Er enghraifft, yn yr Alban, mae cynllun Ending Destitution Together yn ddull partneriaeth rhwng Llywodraeth yr Alban a llywodraeth leol, ac mae'n rhoi’r cyllid llenwi bwlch hwnnw i ddarparwyr gwasanaethau i’w galluogi i sicrhau ar unwaith fod y fenyw'n ddiogel tra byddant yn negodi gyda’r Swyddfa Gartref. Rwy’n deall yn iawn fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn bron i bob un o’n hargymhellion ac wedi rhoi atebion da iawn a chydlynol lle maent ond yn gallu eu derbyn mewn egwyddor.
Y maes nesaf i ni ei ystyried oedd data. Byddai'n ddefnyddiol iawn pe byddem yn gwybod llawer mwy am faint yn union o bobl rydym yn sôn amdanynt ac o ba grwpiau ethnig y dônt, ac a oes unrhyw batrwm penodol i hyn. Yn aml, nid yw darparwyr gwasanaethau yn gofyn i bobl beth yw eu hethnigrwydd, neu'n wir, eu statws mewnfudo mewn llawer o amgylchiadau gan nad ydynt am ymddangos fel pe baent yn gwahaniaethu yn erbyn rhywun ar sail eu sefyllfa—maent am eu helpu. Felly, mae'r cofnodion yn dameidiog. Nid ydym yn gwybod faint o'r bobl hyn sy'n gweithio, a oes ganddynt blant, felly a ydynt mewn cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus, sy'n llawer mwy tebygol nag os nad ydynt yn gweithio ac os nad oes ganddynt blant i sicrhau eu bod yn eu hebrwng o'r ysgol ac yn y blaen.
Mae argymhelliad 10 yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio data o’r unedau cydraddoldeb, hil ac anabledd i sefydlu llinellau sylfaen er mwyn llywio’r gwaith o fonitro a thargedu gwasanaethau yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn, er ein bod yn nodi y bydd yr ymarferion mapio a’r cytundebau rhannu data y mae angen eu datblygu yn cymryd amser. Mae Sarah Murphy yn aelod o’n pwyllgor, ac yn wyliadwrus iawn ynglŷn â sut y defnyddir ein data, gan bwy, ac at ba ddiben, felly mae ein hadroddiad yn tynnu sylw at ba mor bwysig yw hi fod gan fenywod mudol ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd i’w data, ac efallai y bydd angen y cymorth ychwanegol hwnnw i sicrhau eu bod yn rhoi cydsyniad ar sail gwybodaeth, yn hytrach na nodio'u pennau heb ddeall yr hyn y maent yn cydsynio iddo.
Ni fydd yn syndod i chi fod mudwyr sy'n oroeswyr yn aml yn cael eu hatal rhag rhoi gwybod i'r heddlu eu bod yn cael eu cam-drin rhag ofn i'w data gael ei rannu â gwasanaeth gorfodi mewnfudo. Cawsom sicrwydd nad yw hyn byth yn digwydd, ond ni chredaf y gallwn ddweud 'byth'. Ond o leiaf, safbwynt swyddogol yr heddlu yw na fyddant yn rhannu’r data hwn gyda’r gwasanaethau mewnfudo oni bai fod yr unigolyn hwnnw'n gysylltiedig â mater troseddol difrifol neu derfysgaeth. Fe wnaethom awgrymu bod angen sefydlu mur gwarchod i gyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau ar y rheini sy’n ceisio cymorth mewn perthynas â thrais rhywiol a thrais ar sail rhywedd, fel bod gennym ddarlun llawer mwy cywir. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn mewn egwyddor, oherwydd yn amlwg, nid ydynt yn rheoli’r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud. Ond edrychwn ymlaen at glywed yn y dyfodol pa gynnydd a wneir mewn trafodaethau â phartneriaid datganoledig a heb eu datganoli i ddeall y materion sy’n ymwneud â rhannu data, yr effaith ar fudwyr sy'n ddioddefwyr, ac i ystyried opsiynau ar gyfer mur gwarchod.
Yn gyffredinol, rydym yn croesawu ymgysylltiad y Gweinidog â’n hymchwiliad yn fawr, a’r dull cydweithredol y mae Jane Hutt wedi’i fabwysiadu i gryfhau’r strategaeth newydd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol am y pum mlynedd nesaf i gynnwys adran sy’n ymdrin yn benodol ag anghenion menywod a phlant mudol a'r rheini sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus. Yn ymateb y Gweinidog, mae’n nodi bod cefnogi mudwyr sy'n ddioddefwyr trais a cham-drin domestig a thrais rhywiol, gan gynnwys y rheini heb hawl i gyllid cyhoeddus, eisoes yn cael sylw yn y strategaeth fel blaenoriaeth allweddol. Rydym yn awgrymu bod angen adran benodol yn y strategaeth sy'n addas ar gyfer anghenion menywod mudol gan eu bod mor agored i niwed ac oherwydd y posibilrwydd y byddant yn cwympo i'r bylchau rhwng gwasanaethau. Edrychaf ymlaen at sylwadau pawb arall.
Fel aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl hon ar ein hadroddiad ar drais ar sail rhywedd ac anghenion menywod mudol. Cyn imi ystyried rhai o’r negeseuon a’r heriau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad hwn, hoffwn ddiolch i gadeirydd ein pwyllgor, Jenny Rathbone, i'n holl staff sydd wedi cefnogi’r ymchwiliad hwn, ac yn wir, i bawb a roddodd dystiolaeth wrth inni wneud ein gwaith. Ers cyhoeddi’r adroddiad, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion y pwyllgor, naill ai’n llawn neu mewn egwyddor. Rwy'n croesawu'r ymateb cadarnhaol ac yn gobeithio y bydd y pwyllgor yn parhau i adolygu’r gwaith dros y 12 mis nesaf wrth i’r Gweinidog roi’r mesurau a nodwyd gan y pwyllgor ar waith.
Roedd y dystiolaeth yn glir fod menywod sy’n ffoaduriaid, yn fudwyr ac yn geiswyr lloches ac sy’n ffoi rhag trais a chamdriniaeth yn wynebu ystod o heriau sydd, mewn sawl ffordd, yn unigryw o gymharu ag eraill. Mae menywod yn y grwpiau hyn yn dueddol o ddioddef lefel uwch o drais, nid yn unig ar eu taith fudo, ond hefyd oherwydd rhwystrau megis oedran, iaith, ynysigrwydd, statws mewnfudo ansicr a thlodi. Ceir setiau o nodweddion sy’n golygu bod y menywod hyn yn wynebu mwy o risg, ac mae angen inni wneud mwy ar eu cyfer. Yn ystod yr adolygiad, roeddwn yn awyddus i sicrhau y byddai mwy o ffocws yn cael ei roi ar feysydd atal ac ymyrraeth gynnar. Roedd llawer o’r dystiolaeth yn cyfeirio at broblemau sicrhau bod ymyrraeth yn seiliedig ar gael gwybodaeth a chymorth i fenywod mudol cyn i unrhyw gam-drin ddigwydd. Roedd rhai o’r rheini’n glir nad yw’r agenda atal ac ymyrryd lle dylai fod, a bod sefydliadau’n tueddu i fod yn adweithiol ar ôl i’r cam-drin trasig ddigwydd.
Yn eu tystiolaeth, dywedodd BAWSO nad oes gwaith yn cael ei wneud ar atal, a chredaf fod hynny’n rhywbeth y gallai Llywodraeth Cymru ei ariannu. Yn ein hadroddiad, rydym yn nodi sut mae angen clir i leisiau goroeswyr lywio ein dull o gyfathrebu, ac na ddylem danamcangyfrif pwysigrwydd gweithio o fewn y cymunedau i sicrhau bod negeseuon yn cael eu rhannu i helpu i feithrin ymddiriedaeth a hyder, gan fod y ddau beth yn hanfodol i annog dioddefwyr i roi gwybod am eu profiadau. Mae’r pwyllgor wedi croesawu ymrwymiad y Gweinidog i ddatblygu panel craffu a chynnwys lleisiau goroeswyr, ond mae’n rhaid i hyn fod yn fwy na gwrando yn unig, oherwydd heb gamau gweithredu i ymateb i’r heriau a wynebir gan fenywod mudol, bydd y siarad hwnnw’n ddibwrpas. Ein hargymhelliad yw y dylai'r ymgysylltu hwn ddigwydd wrth ddatblygu strategaeth gymunedol ar godi ymwybyddiaeth ac atal, a all ffurfio canllawiau i gyrff statudol. Dyma’r dull cywir, gan fod angen llawer mwy i wella gwaith codi ymwybyddiaeth ac atal, ond gellir cefnogi a dylanwadu ar y cyrff statudol yn yr hyn a wnânt drwy ganllawiau gwell.
Wrth dderbyn hyn, mae angen i’n hail argymhelliad ysgogi’r gwelliant roedd y rheini a roddodd dystiolaeth yn galw amdano. Ynghyd â chynllun manwl i fwrw ymlaen â'r holl argymhellion, rwy'n credu mai gorau po gyntaf y gwnawn ymyrryd i gefnogi menywod mudol sy’n wynebu trais a chamdriniaeth. Diolch yn fawr iawn.
Mae prif bwyslais ein hargymhellion yn ymwneud â gwella cymorth i grŵp penodol o fenywod, sy’n rhy aml yn cael eu hesgeuluso a hyd yn oed yn anweledig i gymdeithas. Rwy'n sicr wedi clywed tystiolaeth a fydd yn aros gyda mi am byth am brofiad goroeswyr o gymunedau mudol. Gwnaethom edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i sicrhau bod y menywod hyn yn cael eu gweld, eu clywed, eu cefnogi, a'u bod yn gallu teimlo'n ddiogel. Rwy'n croesawu ymrwymiad diymwad y Gweinidog i fynd i’r afael â’r lefelau o drais yn erbyn menywod a merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru, a chredaf fod ymateb y Llywodraeth i argymhellion ein hadroddiad yn adlewyrchu hyn.
Mae canoli llais goroeswr yn rhywbeth sy'n cael ei honni’n aml gan strategaethau, ac mae’r Llywodraeth yn cyfeirio yn ei hymateb i’r adroddiad at y cynlluniau gweithredu trawsbynciol niferus sy’n ymwneud â chefnogi menywod mudol sy’n ceisio gwneud hyn. Rwy’n derbyn bod y gwaith yn mynd rhagddo, ond hoffwn bwysleisio inni ddod o hyd i lawer o enghreifftiau o achosion lle nad oedd unrhyw un wedi gwrando ar oroeswyr a'u cymunedau nac wedi ymgynghori digon â hwy. Roedd hyn i'w weld yn arbennig o wir am ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth ynghylch yr hyn sy'n cyfrif fel cam-drin, a phryd a ble i gael cymorth. Mae'n rhaid inni wneud mwy i sicrhau ein bod yn ymgysylltu â menywod o bob diwylliant a chenedligrwydd, i sicrhau eu bod yn cael eu hamddiffyn, eu bod yn ymwybodol o'u hawliau, a’u bod yn gallu ceisio cymorth os oes angen—pethau syml iawn, fel rhai o’r pethau y cyfeiriodd Jenny Rathbone atynt: deall bod menywod yn fwy tebygol o weld hysbyseb ar fws nag ymweld â gwefan, gan fod allgáu digidol yn rhwystr mor enfawr, gan ddeall lle mae menywod mudol, yng ngeiriau un o swyddogion BAWSO, 'yn cael mynd'. Dywedodd menywod mudol y gwnaethom siarad â hwy fod y cyfryngau traddodiadol yn fwy hygyrch iddynt na’r cyfryngau cymdeithasol, ond fel y dywedodd Jenny Rathbone, fe wnaethant bwysleisio bod yn rhaid i’r cynnwys hwn fod ar gael mewn gwahanol ieithoedd.
Credaf mai’r hyn y mae’r adroddiad hwn hefyd yn ei amlygu unwaith eto, a chyfeiriodd Jenny at hyn, yw’r ffin arw rhwng y pwerau a’r cyfrifoldebau datganoledig a’r pwerau a gedwir yn ôl y siaradwn amdanynt mor aml yn y lle hwn, Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â materion cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Roedd cymaint o’r dystiolaeth a glywsom yn ymwneud â’r modd y mae polisi dim hawl i gyllid cyhoeddus Llywodraeth y DU yn rhwystr mor enfawr i’r rheini sy’n dioddef trais rhywiol neu drais ar sail rhywedd ac sy’n ceisio cymorth. Rwyf am ailadrodd rhywfaint o’r dystiolaeth a glywsom am effaith y polisi hwnnw, gan y credaf fod yna berygl nad yw gwleidyddion bob amser yn ei ddeall yn llawn, neu gallant gael eu dadsensiteiddio i’r stori ddynol y tu ôl i’r jargon a’r termau cyfreithiol a glywn neu a ddarllenwn mor aml mewn adroddiadau a dogfennau polisi. Rhoddodd un cyfrannwr i un o’n grwpiau ffocws, sy'n gweithio i gefnogi menywod mudol sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, enghraifft o geisiwr lloches beichiog heb hawl i gyllid cyhoeddus,
'Mae hi’n llefain bob dydd gan ddweud nad yw hi’n gyfforddus lle mae hi. Mae’r llety yn ofnadwy. Mae mwg yn y gegin, mae drysau wedi torri ac nid yw’n teimlo’n ddiogel. Nid yw’n gwybod pwy yw rheolwr y llety oherwydd ei bod newydd gael ei rhoi yno, ac nid oes neb wedi dod i’w gweld. Gan nad oes ganddi hawl i gael arian cyhoeddus, alla i ddim gwneud cais am fudd-daliadau na llety iddi.'
Ac mae'n rhaid inni gofio bod y rhain yn fenywod sydd wedi dioddef trawma. Roedd rhywfaint o'r trawma y clywsom amdano yn annirnadwy i'r rhan fwyaf ohonom—yn wirioneddol annirnadwy. A golyga'r polisi hwn nad oes cymorth ar gael i’r menywod hyn sydd cymaint o angen ein cymorth.
Ond mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion pwerus a allai fod o gymorth gwirioneddol i geisio sicrhau bod y ffin arw'n cael ei llyfnhau i'r menywod hyn mewn rhai achosion. Roedd yn amlwg y byddai cronfa argyfwng y gall darparwyr gwasanaethau gael mynediad ati i gefnogi menywod mudol sy’n oroeswyr trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd ac sydd heb hawl i gyllid cyhoeddus, yn seiliedig ar ddull Llywodraeth yr Alban, yn ddefnyddiol iawn, ac rwy’n falch iawn o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn yr argymhelliad hwn a hoffwn eich annog i'w roi ar waith fel mater o frys. Byddai ein nod i fod yn genedl noddfa yn cael ei gefnogi mor dda gan y dull hwn. Ac o ystyried rôl ganolog statws mewnfudo yn y dystiolaeth a glywsom a’r cynlluniau brawychus a’r rhethreg ffiaidd a glywn gan Lywodraeth Dorïaidd San Steffan ynghylch eu dull o weithredu a’u hymagwedd tuag at y rheini sy’n ceisio noddfa, mae mesurau fel hyn yn gwbl hanfodol i wrthsefyll hyn yng Nghymru. Rwy’n eich gwahodd, Weinidog, i ymuno â mi i gofnodi ein condemniad o'r galwadau o fewn y blaid Dorïaidd i geisio tynnu’r DU o’r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol er mwyn cael gwared ar hawliau rhai o’r bobl fwyaf agored i niwed ar y blaned hon. Mae rhethreg atgas debyg wedi’i hadleisio ar-lein gan Aelodau Ceidwadol yn y lle hwn, sydd hyd yn oed yn fwy cywilyddus wrth inni fynd i mewn i gyfnod y Nadolig, gŵyl sy'n seiliedig ar roi, ar rannu, ar ewyllys da a darparu lloches.
I gloi, yn syml iawn, ni ddylai unrhyw fenyw sy’n byw yng Nghymru fethu cael mynediad at gymorth hanfodol, megis llety â chymorth arbenigol, oherwydd ei statws mewnfudo. Mae gan bawb hawl i fod yn ddiogel ac i gael byw heb gamdriniaeth ac ofn. Rwy’n obeithiol y bydd argymhellion ein hadroddiad yn helpu i sicrhau hynny.
Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am ei hymateb ac i fy nghyd-Aelodau a chlercod y pwyllgor am eu gwaith, a’r holl sefydliadau a phobl a siaradodd â ni ac a gyfrannodd at yr adroddiad hwn. Edrychodd adroddiad 'Trais ar sail rhywedd: Anghenion menywod mudol’ ar sawl agwedd ar drais domestig yn erbyn menywod ac anghenion menywod mudol, ac rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr holl argymhellion yn llawn neu mewn egwyddor.
Mae llawer o’r argymhellion yn canolbwyntio ar fynediad at wasanaethau a all alluogi menywod i roi gwybod am eu profiadau a chael cymorth heb deimlo cywilydd na chael eu barnu, a hoffwn ddefnyddio fy nghyfraniad heddiw i ymhelaethu ar argymhellion 10 i 13, y mae Jenny Rathbone wedi’u crybwyll, sy’n rhoi sylw i'r materion yn ymwneud â’r data a gaiff ei gasglu a’i rannu ar fenywod mudol sydd wedi profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol, yn ogystal ag amlygu gwaith y grŵp trawsbleidiol ar hawliau digidol a democratiaeth yng Nghymru, a gynhaliodd drafodaeth banel arall yn ddiweddar i archwilio hyn.
Mae argymhelliad 12 yn galw ar Lywodraeth Cymru, yr heddlu ac awdurdodau lleol i fynd i’r afael â phryderon ynghylch rhannu data a pharodrwydd goroeswyr i geisio cymorth. Dywedodd sefydliadau fel BAWSO a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol fod yr ofn hwn y bydd data'n cael ei rannu â'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo a’r Swyddfa Gartref yn atal dioddefwyr rhag rhoi gwybod am eu profiadau. Er nad oes dyletswydd gyfreithiol ar yr heddlu i rannu gwybodaeth â'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo, mae’r rheini sy’n gweithio ar lawr gwlad yn dweud wrthym fod hyn yn digwydd, a bod yr ofn hwn yn parhau ymhlith cymunedau ac yn cael ei ddefnyddio gan gyflawnwyr i orfodi dioddefwyr.
Mae Elizabeth o gynghrair Step Up Migrant Women wedi sôn yn ddiweddar am achos menyw a oedd yn dioddef cam-drin domestig risg uchel. Roedd y ddioddefwraig heb ei dogfennu fel rhan o'i chamdriniaeth. Argymhellodd ei gweithiwr achos ei bod yn rhoi gwybod i'r heddlu oherwydd risg uchel y sefyllfa. Wyth diwrnod ar ôl iddynt gyflwyno adroddiad ar-lein i'r heddlu, derbyniodd lythyr gan y gwasanaeth gorfodi mewnfudo. Daeth swyddogion heddlu i'w thŷ, a phan wnaethant sylweddoli nad oedd wedi'i dogfennu, fe wnaethant alw'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo o'i blaen. Felly, mae’n adeiladu ar yr hyn roedd Jenny Rathbone yn ei ddweud yn gynharach, ac mae’n adeiladu ar yr hyn roedd Sioned Williams yn ei ddweud hefyd: rwy’n addo i chi, os gofynnwch i fenywod, y bydd ganddynt lawer mwy o straeon am hyn yn digwydd.
Mae argymhelliad 11 yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut mae’n bwriadu sicrhau, pan fydd yn casglu data gan fenywod mudol, fod ganddynt ddealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd gyda’u data, a sut y bydd eu data'n llywio penderfyniadau a wneir yn y dyfodol. Mae'n hollbwysig ein bod yn grymuso menywod mudol i wybod pwy'n union sy'n defnyddio eu data a pham. Drwy wneud hynny, byddwn yn cael gwared ar yr ofn sy’n gysylltiedig â rhannu data, gan normaleiddio'r arfer o roi cydsyniad mewn perthynas â'n data personol.
O safbwynt gwahanol, canfu’r grŵp trawsbleidiol fod sefydliadau ar lawr gwlad sy’n helpu menywod mudol yn awyddus i allu cwestiynu sut a pham y bydd awdurdodau’n defnyddio data pan ofynnir amdano ganddynt, felly roedd hyn yn cynnwys cyrff fel Iechyd Cyhoeddus Cymru, a gallai’r argymhelliad hwn, a dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru, eu galluogi i wneud hynny. Bydd blaenoriaethu tryloywder data'n grymuso’r unigolyn a sefydliadau i amddiffyn dioddefwyr rhag niwed posibl mewn perthynas â data ac yn meithrin ymddiriedaeth yn y rheini y mae taer angen lle diogel arnynt i droi ato.
Yn olaf, mae argymhelliad 13 yn amlinellu y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu mur gwarchod sy’n cyfyngu ar rannu data rhwng asiantaethau ar y rhai sy’n ceisio cymorth yn sgil trais rhywiol a thrais ar sail rhywedd. Byddai mur gwarchod, yn ei hanfod, yn rhoi bloc ar systemau a ddefnyddir gan awdurdodau'r heddlu i rannu data ar ddioddefwyr cam-drin domestig gyda'r gwasanaeth gorfodi mewnfudo. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn hyn mewn egwyddor, gan nodi bod heddluoedd yn cael eu llywodraethu gan reoliadau GDPR y DU, ac mae hyn yn gosod cyfyngiadau ar bwerau Llywodraeth Cymru i orfodi. Ond yn yr Iseldiroedd, clywodd y pwyllgor am bolisi ‘diogel i mewn, diogel allan’, lle gall ymfudwyr â statws mewnfudo ansicr ddod i orsafoedd yr heddlu a rhoi gwybod am droseddau gyda sicrwydd na fydd eu statws mewnfudo yn cael blaenoriaeth neu'n cael ei rannu gyda swyddogion gorfodi mewnfudo. Mae'n ymwneud â gosod cynsail y bydd dioddefwyr yn cael eu hystyried yn ddioddefwyr ac nid yn droseddwyr oherwydd eu statws mewnfudo. Mae arfer da tebyg yn digwydd rhwng awdurdodau'r heddlu yng ngogledd Cymru a BAWSO, a hoffwn annog Llywodraeth Cymru i ystyried hyn wrth gwmpasu polisi cenedlaethol, yn enwedig wrth i drafodaethau barhau am ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Yn sicr, roeddech yn llygad eich lle, Sioned, am y ffin arw, gan fod hyn yn ymwneud hefyd â fisâu a mewnfudo a’r Swyddfa Gartref hefyd.
Clywodd y pwyllgor gan y dirprwy brif gwnstabl Amanda Blakeman y dylid canolbwyntio ar ddiogelu’r dioddefwr wrth rannu unrhyw ddata, a gallai hyn gynnwys amddiffyniad llys, llety neu fesurau diogelu eraill. Pan rennir data ar ddioddefwyr trais domestig nad yw’n ymwneud â diogelu’r dioddefwr, a phan nad yw'r dioddefwr yn ymwybodol o hynny, mae’n fethiant system.
Hoffwn ein hannog i sicrhau na chaiff unrhyw fenyw ei gadael ar ôl oherwydd hyn, ac y gall pob dioddefwr roi gwybod am eu profiadau a bod yn ddiogel. Mae data, o'i drin yn y modd cywir, yn elfen hanfodol yn y broses o gefnogi dioddefwyr. Fodd bynnag, mewn cenedl noddfa, ni allwn anwybyddu'r ffaith bod menywod mudol sy’n dioddef cam-drin domestig yn parhau i fod yn guddiedig oherwydd y system. Mae'n rhaid inni sicrhau y gallant gael llais yma yng Nghymru, llais heb ofn y systemau hynny a system a fydd bob amser yn ystyried dioddefwyr cam-drin domestig yn ddioddefwyr, ni waeth beth fo’r amgylchiadau.
Ac i gloi, rwy'n sefyll gyda chi, Sioned Williams, i gondemnio'r Torïaid yn San Steffan am unrhyw ffordd y maent yn ceisio tanseilio'r ddeddfwriaeth hawliau dynol. Diolch.
Galwaf ar y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r pwyllgor am gynnal yr ymchwiliad hwn ar drais ar sail rhywedd sy’n cael effaith ar fenywod mudol, a diolch i bawb a roddodd dystiolaeth, ond yn enwedig y rheini a rannodd eu profiadau bywyd, a’r gwasanaethau arbenigol sy’n eu cefnogi. A dim ond drwy gydweithio, gan gynnwys ystyried yr holl ffynonellau tystiolaeth a'n canfyddiadau, y gallwn sicrhau newid gwirioneddol.
Mae adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn tynnu sylw at lawer o feysydd lle byddwn yn parhau fel Llywodraeth Cymru i ganolbwyntio ein hymdrechion er mwyn amddiffyn menywod mudol rhag trais a chamdriniaeth, a chyhoeddwyd ymateb ffurfiol Llywodraeth Cymru i’r adroddiad hwn yr wythnos diwethaf ar 7 Rhagfyr. Gwyddom fod trais a chamdriniaeth yn cael effeithiau sylweddol a pharhaol ar ddioddefwyr a’r bobl o’u cwmpas. Mae adroddiad y pwyllgor, ochr yn ochr â’r adroddiad ymchwil ar drais rhywiol a thrais ar sail rhywedd yn erbyn ffoaduriaid o ddadleoli i gyrraedd—SEREDA—a gafodd ei groesawu gennyf ac a ddaeth i law ym mis Mai eleni, ac adroddiad 'Uncharted Territory’ yn dangos bod hyn yn arbennig o ddifrifol i fenywod sy'n ffoaduriaid, yn fudwyr neu'n geiswyr lloches. Ac mae llawer o’r menywod hyn yn dioddef sawl math o gam-drin, gan gynnwys trais domestig, trais rhywiol, cam-drin ar sail anrhydedd, priodas dan orfod, anffurfio organau cenhedlu benywod a cham-drin mewnfudwyr a masnachu pobl. Ac mae'r grwpiau hyn yn dioddef lefelau uwch o drais, nid yn unig ar eu teithiau mudo, ond hefyd pan fyddant yn cyrraedd pen eu taith. Ac fel y mae Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol wedi’i nodi, mae rhwystrau ychwanegol, megis diffyg rhwydweithiau cymorth, rhwystrau o ran iaith a diffyg hawl i gyllid cyhoeddus, yn aml yn gadael y rheini sy’n cael eu cam-drin heb fawr ddim dewis ond aros i mewn, neu ddychwelyd i sefyllfaoedd peryglus lle maent yn cael eu cam-drin. Mae gan ddioddefwyr a goroeswyr trais yn erbyn menywod, trais rhywiol a cham-drin domestig hefyd y cymhlethdod ychwanegol o ddiffyg hawl i gyllid cyhoeddus, ac maent yn un o'r grwpiau mwyaf agored i niwed ac sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf mewn cymdeithas, fel y mae Aelodau wedi dangos yn glir yn yr adroddiad ac wedi ymhelaethu arno heddiw.
Ni all Cymru, ac ni fydd, yn cadw'n dawel ynghylch camdriniaeth, a dyna pam fod yr adroddiad a’i argymhellion i'w croesawu i'r fath raddau. Rwy'n falch iawn fod yr adroddiad yn cynnwys y gwaith pwysig ac yn gwneud y cysylltiadau â'n hymrwymiad i Gymru fod yn genedl noddfa. Rwyf wedi dweud yn glir ers tro fod ein dull cenedl noddfa yn dangos ein gwerthoedd fel Llywodraeth Cymru. Mae'r cynllun cenedl noddfa yn cynnwys ymrwymiadau clir ar draws y Llywodraeth i leihau’r anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr lloches, ac mae hyn yn cynnwys cefnogi goroeswyr trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Ddydd Gwener, mynychais y sesiwn ar-lein a drefnwyd gan y grŵp trawsbleidiol ar hawliau digidol a democratiaeth yng Nghymru, ac archwiliodd y cyfarfod effaith rhannu data ar fenywod mudol sy’n dioddef trais domestig, ac roedd yn gyfle gwych i drafod yr anghydraddoldebau a wynebir gan fenywod mudol sy’n ffoi rhag cam-drin domestig a thrais rhywiol, gan gydnabod yr ofnau a’r pryderon sydd gan lawer o fudwyr ynghylch pwy a allai gael mynediad at eu gwybodaeth bersonol a sut y gellid defnyddio’r wybodaeth honno mewn gwahanol ffyrdd. Mae’r pryderon hyn yn ddealladwy iawn, yn enwedig pan fyddwn yn ystyried y sefyllfaoedd a’r cyfundrefnau y mae rhai menywod mudol wedi dianc rhagddynt.
Serch hynny, fel y canfu ymchwiliad y pwyllgor, gall ymdrechion i gefnogi menywod mudol gael eu rhwystro oherwydd diffyg data cadarn. Er mwyn galluogi menywod mudol i gael mynediad at y cymorth a'r amddiffyniadau sydd eu hangen arnynt, bydd yna adegau pan fydd angen rhannu data rhwng sefydliadau. Felly, cyflwynodd ein hymateb fel Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol nifer o argymhellion a oedd yn ymwneud â data a rhannu data, ac yn ein hymateb, fe wnaethom nodi mesurau ychwanegol y gellid eu rhoi ar waith i sicrhau canlyniadau gwell i ddioddefwyr trais ar sail rhywedd. Rydym yn deall y pryderon ynghylch rhannu data rhwng sefydliadau, sydd, unwaith eto, wedi’u trafod heddiw, ond rydym hefyd yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau bod angen i ddioddefwyr camdriniaeth gael dealltwriaeth glir o’r hyn sy’n digwydd gyda’u data, a lle bo’n briodol, eu bod yn cydsynio i'w data gael ei rannu.
Yn 2021, sefydlodd Llywodraeth Cymru, ar y cyd â phartneriaid o’r sector arbenigol trais yn erbyn menywod, grŵp llywio i adolygu’r cymorth sydd ar gael i’r rheini sy’n ffoi rhag trais a chamdriniaeth ac sydd heb unrhyw hawl i gyllid cyhoeddus. Mae'r grŵp hwn wedi'i gadeirio gan y cynghorwyr cenedlaethol ar gam-drin ar sail rhywedd, ac mae’n hollbwysig er mwyn dod o hyd i atebion sy’n gweithio i Gymru. Er nad yw mewnfudo yn fater sydd wedi'i ddatganoli, rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid yng Nghymru ac i godi ein pryderon gyda Llywodraeth y DU i ddod o hyd i atebion a all fynd i'r afael â'r anghydraddoldebau hyn.
Rydym yn dal i aros am y gwerthusiad o gynllun cymorth i ddioddefwyr mudol y Swyddfa Gartref, ac er bod y cynllun hwn wedi bod yn achubiaeth i’r dioddefwyr sy’n ffoi rhag camdriniaeth, Llywodraeth y DU sydd wedi creu'r problemau i bobl nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus. Mae gan y cynllun hwn ei gyfyngiadau, ac nid ydym yn bwriadu aros am adroddiad y Swyddfa Gartref. Yn lle hynny, byddwn yn rhoi dioddefwyr a goroeswyr yn gyntaf, ac rydym wedi derbyn argymhelliad y pwyllgor mewn perthynas â chronfa i gefnogi dioddefwyr mudol heb hawl i gyllid cyhoeddus. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion wrthi’n cwmpasu’r dull gweithredu gorau i Gymru, ac rydym wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion y grŵp hwn o ddioddefwyr a goroeswyr.
Fel y dywedwyd heddiw, mae’r trawma annirnadwy y mae menywod mudol yn ei wynebu—dyma ble mae'n rhaid inni ymateb i hyn, ac wrth dderbyn yr argymhelliad hwnnw, gallaf roi sicrwydd i'r Aelodau fod y gwaith eisoes yn mynd rhagddo. Hoffwn roi sicrwydd i'r Aelodau fod gwaith bellach yn mynd rhagddo ar yr holl argymhellion. Maent yn llywio'r ffordd rydym yn bwrw ymlaen â'n strategaeth genedlaethol newydd ar gyfer mynd i'r afael â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol.
Credaf ei bod yn bwysig fy mod yn cyd-gadeirio'r bwrdd partneriaeth cenedlaethol gyda Dafydd Llywelyn, mae hwn yn ddull glasbrint gyda materion datganoledig a heb eu datganoli. Oes, mae ffin arw enfawr yma, onid oes, ac rwy'n cydnabod hynny, ond mae'n rhaid inni symud ymlaen â hynny o ran deall a dwyn i gyfrif swyddogaethau a phwerau awdurdodau a sefydliadau datganoledig a heb eu datganoli. Rydym eisoes wedi gwahodd Cyngor Ffoaduriaid Cymru i fod ar y bwrdd partneriaeth cenedlaethol—mae hynny'n rhan o'r strwythur llywodraethu i fwrw ymlaen â'n strategaeth, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mae BAWSO eisoes ar y bwrdd. Ac a gaf fi dalu teyrnged i BAWSO am y gwaith arbenigol a wnânt? Maent yn rhan o gynllun peilot y Swyddfa Gartref hefyd. Maent yn hollbwysig i Gymru, ac wrth gwrs, maent yn sicrhau bod gan fenywod mudol lais pwysig fel goroeswyr.
Rydym wedi cynnwys ein gwaith ar ddiffyg hawl i gyllid cyhoeddus yn yr adroddiad blynyddol sydd ar y ffordd ar drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; mae'n cael ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr. Mae hynny'n ofyniad statudol o dan y Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, a byddwn yn parhau i adrodd ar ein gwaith i gefnogi dioddefwyr a goroeswyr yn y blynyddoedd i ddod.
Rydym hefyd wedi ymgysylltu â byrddau diogelu ynghylch canfyddiadau’r pwyllgor mewn perthynas ag adolygu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, a bydd hynny’n ein helpu ni a phartneriaid y bwrdd diogelu i ystyried eu cyfrifoldebau.
Felly, yn olaf, Ddirprwy Lywydd, mae hyn yn dyst—yr adroddiad hwn heddiw—i'r brys y mae pob un ohonom, yn unedig yma heddiw rwy'n credu, am ei weld i fynd ati i amddiffyn dioddefwyr. Byddwn yn chwarae ein rhan fel Llywodraeth Cymru. Rwy'n croesawu'r alwad i weithredu yn adroddiad y pwyllgor, ac mae hwn yn uchelgais sydd wedi’i nodi yn ein rhaglen lywodraethu, sy’n datgan yn glir ein bod am i Gymru fod y lle mwyaf diogel yn Ewrop i fod yn fenyw. A gadewch inni fod yn glir, nid rhai menywod yn unig a olygwn, ond pob menyw: menywod sydd wedi gorfod ffoi rhag gwrthdaro, menywod heb hawl i gyllid cyhoeddus, menywod sy'n ceisio lloches, menywod sy'n ffoaduriaid. Ac fel rhan o'n hymrwymiad i fod yn genedl noddfa, rydym yn ceisio cryfhau a hyrwyddo cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru, a dyna yw ein neges i Lywodraeth y DU.
Galwaf ar Jenny Rathbone i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr iawn, a diolch i chi, Weinidog, am sôn ein bod hefyd wedi clywed gan ddau Weinidog arall, y Gweinidog iechyd a'r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, yn arbennig mewn perthynas â phwysigrwydd y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant ac a oedd yn cael ei hystyried yn llawn wrth ystyried rhywun sy'n dioddef o drais ar sail rhywedd, ni waeth beth fo'u statws mewnfudo. Felly, edrychwn ymlaen yn fawr at yr adolygiad hwnnw.
Diolch i fy nghyd-Aelodau ar y pwyllgor am eu sylwadau yn dyfnhau'r materion y buom yn eu trafod, oherwydd mae'n rhaid inni gofio y gallai unrhyw un ohonom ddod ar draws y mater hwn yn ein gwaith etholaeth, oherwydd mae menywod mudol ym mhobman. Ni allwch ddweud eu bod mewn un lle penodol; mae pobl ym mhob cwr o Gymru, ac mae angen inni sicrhau bod gan ein holl wasanaethau adnoddau i ymdrin yn briodol â'r mater pan fyddant yn dod ar draws menywod mudol sy'n dioddef trais ar sail rhywedd.
Ac fe glywsom enghreifftiau—. Yn ogystal â'r straeon dirdynnol y soniodd Sioned amdanynt, fe glywsom lawer o enghreifftiau da o arferion da gan wahanol asiantaethau lle roedd merched mudol wedi datgelu tystiolaeth o fod yn ddioddefwyr trais domestig, lle roedd yr heddlu, ysgolion, cyflogwyr, gwasanaethau iechyd, canolfannau cymunedol a chyrff cynghori gwirfoddol i gyd yn deall bod angen iddynt weithredu a pheidio â chadw'n dawel, ac wedi cyfeirio pobl, yn bennaf at BAWSO neu sefydliad arbenigol arall, oherwydd yn aml, mae'r rhwystr iaith yn sylweddol iawn. Ond wrth gwrs, nid oes gennym syniad faint o fenywod sy'n rhy ofnus i roi gwybod am eu profiadau ac sy'n parhau i fod mewn perthynas dreisgar.
Rwy'n canmol y gwaith rydych yn ei wneud gyda Dafydd Llywelyn, un o'r comisiynwyr heddlu, oherwydd mae'n faes anodd iawn, onid yw? Fel y crybwyllwyd gan Sioned Williams, mae'r tryblith sy'n gysylltiedig â'r polisi hawliau dynol yn creu amgylchedd gelyniaethus i bobl sy'n ffoi rhag gwahaniaethu, newyn a gwrthdaro, ac os ydynt yn rhy ofnus i roi gwybod am eu profiadau oherwydd eu bod yn meddwl y gallent gael eu hanfon yn ôl i'r lle y daethant ohono, gallwch weld ei fod yn ei wneud yn anoddach byth iddynt gael yr help lle mae ei angen. Yng ngoleuni'r pryderon a godwyd yn gynharach am ymddygiad gwael yn yr heddlu a'r gwasanaethau tân, mae'n rhaid inni sicrhau bod yr holl wasanaethau yn deall ein bod yn genedl noddfa, a bod angen inni ymateb yn briodol pan fo goroeswyr trais yn rhoi gwybod am eu profiadau, ni waeth beth fo'u statws mewnfudo, ni waeth beth fo'u gallu, ar y pwynt hwnnw, i gael mynediad at arian cyhoeddus. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Gweinidog, sy'n amlwg yn angerddol iawn dros sicrhau bod y pwnc hwn yn cael sylw priodol hyd eithaf ein gallu. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau eraill yn gweld bod yr adroddiad hwn o fudd.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.