1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 10 Ionawr 2023.
1. Pa gefnogaeth mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i sefydliadau'r trydydd sector i'w helpu drwy'r argyfwng costau byw? OQ58917
Wel, Llywydd, blwyddyn newydd dda i chi a phawb hefyd.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru yn darparu cymorth hanfodol i eraill yn yr argyfwng costau byw ac mae'n effeithio'n uniongyrchol arnyn nhw hefyd. Rydym wedi cynyddu cyllid i'r sector ar gyfer y ddau beth hyn, gan amlaf ochr yn ochr â'n partneriaid awdurdod lleol.
Diolch, Llywydd. Ac a gaf i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, Prif Weinidog, ac Aelodau eraill hefyd? Yn ddiweddar, cysylltodd elusen â mi gyda phryderon ynghylch yr effaith mae'r argyfwng costau byw yn ei gael ar ei staff. Fe wnaethon nhw dynnu sylw at y ffaith bod eu staff yn fedrus iawn wrth gwrs ac maen nhw'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i bobl o bob rhan o Gymru. Mae llawer o'r sefydliadau hyn hefyd yn darparu cyflogaeth i bobl a oedd yn agored i niwed, gan roi cyfle iddyn nhw gymryd rhan lawn yn eu cymuned. Fodd bynnag, nododd yr elusen nad ydyn nhw'n gallu darparu cymorth ariannol ychwanegol i'w gweithwyr i'w helpu drwy'r cyfnod anodd hwn. Er gwaethaf y cynnydd yng nghyllid Llywodraeth Cymru, fel y cyfeirioch chi, Prif Weinidog, maen nhw wedi defnyddio'r arian i ehangu gwasanaethau yn hytrach nag i helpu i wella cyflogau ac amodau staff. Mae yna bryderon wedyn, am lesiant staff a'u teuluoedd, yn ogystal â chyfraddau cadw staff, ar adeg pan fo'r galw am wasanaethau'r trydydd sector yn cynyddu'n barhaus. Prif Weinidog, rwy'n sylweddoli bod galwadau niferus ar adnoddau Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd, ond tybed pa drafodaethau yr ydych wedi eu cael gyda'ch cyd-Aelodau ac eraill ynghylch sicrhau bod byrddau cynllunio yn ystyried eu swyddogaeth yn llawn o ran gwella amodau i staff y trydydd sector wrth gomisiynu gwasanaethau. Diolch.
Llywydd, rwy'n cydnabod y ddilema y mae Peter Fox yn cyfeirio ato. Rwyf i'n dymuno, fel y gwnaeth ef, dalu teyrnged i'r gwaith gwych y mae mudiadau gwirfoddol a'r trydydd sector yn ei wneud yma yng Nghymru. Ac nid yw'n syndod clywed bod llawer o'r sefydliadau hynny, pan oedd rhywfaint o gyllid ychwanegol ar gael, eisiau rhoi hwnnw i ehangu'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu, o ystyried arwyddocâd y camau hynny mewn cymunedau lleol.
A dylai gweithio yn y trydydd sector gael ei wobrwyo'n iawn; ni ddylai pobl deimlo, oherwydd eu bod yn gweithio yn y sector hwnnw na ddylen nhw gael taliadau digonol eu hunain. Byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod yn codi'r pwynt y mae'r Aelod wedi'i wneud yn y gwahanol fforymau sydd gennym. Rwy'n falch o ddweud, Llywydd, bod pwyllgor y Cabinet ar gostau byw a oedd yn cwrdd bob wythnos yn nhymor yr hydref wedi cael cynrychiolaeth o'r trydydd sector ar y pwyllgor hwnnw—Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y Grŵp Gweithredu ar Dlodi Plant, Cyngor ar Bopeth. Clywsom ganddyn nhw i gyd dros y cyfnod hwnnw. Felly, mae gan y trydydd sector lais yng nghanol Llywodraeth Cymru. Ond mae'r pwysau ar y sector yn sicr yn real. Bydd cyhoeddiad ddoe gan Lywodraeth y DU am y gostyngiad yn y gefnogaeth i'r trydydd sector mewn costau ynni yn golygu y bydd mwy o ddilema yn wynebu'r sector, ac ni all Llywodraeth Cymru fod yr ateb i bob dilema y mae pob rhan o gymdeithas Cymru yn ei wynebu.
Prif Weinidog, mae gan undebau credyd ran hanfodol i'w chwarae wrth gefnogi pobl yn ein cymunedau, rhan sydd wrth gwrs yn fwy allweddol yn ystod yr argyfwng costau byw. Yng nghyfarfod olaf y grŵp trawsbleidiol ar fentrau cydweithredol a chydfuddiannol, cawsom gyflwyniad ynglŷn â sut mae undebau credyd wedi dod at ei gilydd i ddatblygu eu cynllun Moneyworks Wales, gyda'r nod o helpu cyflogwyr i helpu eu staff. Rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn gwneud llawer i gefnogi undebau credyd, fel yr amlygwyd dim ond yr wythnos diwethaf, ond sut mae'n gallu sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o'r fenter hon a'u hannog nhw i gymryd rhan?
Diolch i Vikki Howells am hynna, Llywydd. Roedd yn dda iawn yr wythnos diwethaf cael cyfle yno, gyda thri chyd-Weinidog arall, i dynnu sylw at waith undeb credyd Caerdydd a'r Fro. Roedd cyd-Aelodau eraill, fe wn i, allan ar yr un diwrnod yn tynnu sylw at y gwasanaethau y mae undebau credyd bellach yn gallu eu darparu, ac rydym yn gwybod, pryd bynnag y bydd undebau credyd yn y newyddion, neu'n cael cyhoeddusrwydd ychwanegol, yna mae mwy o aelodau'n dod ymlaen i ymuno. Rhoddodd Llywodraeth Cymru gefnogaeth i'r sector yn y cyfnod cyn y Nadolig i wneud yn siŵr bod ei wasanaethau yn cael eu hysbysebu cystal â phosib. Ac mae canlyniadau cynnar yr ymgyrch honno'n awgrymu y cafwyd 7,000 o aelodau ychwanegol ar gyfer y mudiad undeb credyd yn y cyfnod cyn y Nadolig. O edrych o gwmpas, Llywydd, gwelaf dri Aelod arall a oedd yn aelodau o'r undeb credyd cyflogwyr cyntaf erioed yng Nghymru, pan sefydlodd Cyngor Sir De Morgannwg undeb credyd a oedd yn gweithio trwy ddidyniad o'r gyflogres. A dyna'r union system y mae Vikki Howells yn cyfeirio ati—mae'r ymgyrch Moneyworks Wales yn ymgyrch i annog cyflogwyr ledled Cymru i gynnig cyfleusterau didyniad o'r gyflogres i'w gweithwyr, fel y gallant ymuno ag undebau credyd yn y ffordd honno. Rwy'n falch o ddweud, fel un o 13 prosiect gwahanol undeb credyd, y bydd Llywodraeth Cymru'n ariannu Moneyworks o fis Ebrill eleni fel y gallant fynd ymlaen i annog cymaint o gyflogwyr â phosibl, mewn cymaint o gymunedau â phosibl, i sicrhau bod y ffordd honno o ddod yn aelod o undeb credyd ar gael i bobl sy'n gweithio iddyn nhw.