Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Adam Price Adam Price Plaid Cymru 1:51, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. O ran cyflog y GIG, Prif Weinidog, rydym wedi amcangyfrif, yn seiliedig ar ffigurau yr ydych chi wedi'u rhannu â ni, y gallech fforddio o leiaf 3 y cant o ddyfarniad cyflog ychwanegol yn y flwyddyn ariannol hon. Nawr, rwy'n deall bod y Gweinidog iechyd wedi dweud nad yw'n cydnabod y ffigurau hynny, felly a allwn ni gymryd yn ganiataol y bydd y dyfarniad cyflog yr ydych chi'n bwriadu ei gynnig yn llai na'r ffigur hwnnw? Fe ddywedoch chi fis yn ôl nad oedd arian ychwanegol ar gael yn y flwyddyn ariannol hon, a nawr rydych chi wedi dod o hyd iddo. Rydych chi nawr yn dweud na fydd arian ychwanegol y flwyddyn nesaf, felly dim ond taliad untro y gall hwn fod. Ond pam na allwch chi ddefnyddio'r un broses yr ydych chi wedi'i defnyddio ar gyfer y gyllideb eleni ar gyfer y gyllideb y flwyddyn nesaf? A hyd yn oed os nad yw hynny'n ddigonol, ydych chi'n derbyn bod gennych chi bwerau codi trethi a allai gynhyrchu refeniw ychwanegol? Felly, nid yw'n iawn i ddweud bod eich gallu i droi taliad untro yn godiad cyflog rheolaidd yn cael ei benderfynu'n llwyr gan San Steffan; mae'n ddewis gwleidyddol.