Bil Diwygio Cydnabod Rhywedd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Ken Skates Ken Skates Labour 2:10, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno y dylid cynnal sgyrsiau ar faterion sensitif fel cydnabod rhywedd gyda pharch a thosturi? Nid yw'n helpu o gwbl pan fydd grwpiau dienw a rhyfelwyr bysellfwrdd anoddefgar yn ymfflamychu trafodaeth gydag anwireddau ac iaith anoddefgar. Prif Weinidog, byddwn â diddordeb mawr yn eich barn am ymateb uniongyrchol Llywodraeth y DU gan fygwth rhwystro'r gyfraith rhag cael Cydsyniad Brenhinol.