Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 10 Ionawr 2023.
Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn mae Ken Skates wedi ei ddweud. Mae hon wedi bod yn ddadl sydd wedi polareiddio tu hwnt. Y swyddogaeth briodol i wleidyddion etholedig, rwy'n credu, yw annog deialog, yn hytrach na cheisio dwysáu gwrthdaro. Cefais fy synnu gan ymateb Llywodraeth y DU. Maen nhw'n bygwth defnyddio grym sydd erioed wedi cael ei ddefnyddio yn holl hanes datganoli. Mae'n ymddangos eu bod yn dweud na fyddan nhw'n derbyn tystysgrif cydnabod rhywedd a gafwyd yn yr Alban a hwythau eisoes yn cydnabod tystysgrifau o'r fath sydd i'w cael yng Ngwlad Belg, Denmarc, Gwlad yr Iâ, Lwcsembwrg, Malta, Norwy, Seland Newydd, a'r Swistir. Mae nifer o'r gwledydd hynny'n defnyddio'r un broses hunanddatgan sydd i'w defnyddio yn yr Alban. Pan fo gennym system sy'n cydnabod tystysgrifau o rannau eraill o'r byd, mae'n ymddangos yn od iawn yn wir nad yw Llywodraeth y DU yn barod i gydnabod tystysgrif sydd wedi ei chreu mewn rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Dywedaf hyn er mwyn bod yn gwbl glir, Llywydd: os oes unrhyw un yn cael tystysgrif cydnabod rhywedd yn yr Alban ac yna'n dod i Gymru, bydd y dystysgrif honno yn cael ei chydnabod yma ar gyfer yr holl ddibenion y byddech yn disgwyl iddi gael ei chydnabod ar eu cyfer.