Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:25, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Mae yna bethau pwysig sydd angen eu gwneud yn y gogledd. Nid ydw i'n anghytuno â hynny. Nid ydw i'n anghytuno y gallai hynny olygu bod mwy o gyfrifoldebau'n cael eu cyflawni ar y gwahanol lefelau bro yn y gogledd. Ond y syniad mai ad-drefnu llwyr yw'r hyn sydd ei angen ar wasanaethau iechyd yn y gogledd, ac y byddai hynny'n arwain at ddatrys y problemau yr amlinellodd yr Aelod yn ei gwestiwn atodol—. Rwy'n credu bod hynny'n sicr o wneud pethau'n anoddach, yn hytrach na datrys y problemau hynny, ac nid yw'n llwybr y byddwn i'n cychwyn arno.