Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:24 pm ar 10 Ionawr 2023.
Wel, dwi'n clywed beth mae'r Aelod yn ei ddweud, wrth gwrs. Yr unig bwynt sydd gyda fi i’w ddweud yw’r unig bwynt rydw i wedi’i wneud pan dwi wedi ymateb i’r awgrym yn ôl yn y flwyddyn ddiwethaf. I ailystyried popeth yn y gogledd, i roi y gogledd i mewn i gyfnod o amser pan fydd ansicrwydd am bopeth sydd y tu ôl i’r gwasanaeth iechyd—dydw i ddim yn meddwl bod hynny’n mynd i helpu unrhyw berson sy’n gyrru ambiwlans neu unrhyw berson sy’n aros am driniaeth yn y gogledd.