Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr iawn i chi. Yn gyntaf i gyd, rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig i ni gydnabod nid yn unig yr hyn a wnaethom ni, ond yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Ac rydych chi'n hollol iawn, dim ond er mwyn rhoi rhai syniadau i chi o'n camau nesaf ni, fe fyddwn ni'n sicrhau ein bod ni'n ceisio ehangu nifer yr oriau y mae'r canolfannau gofal sylfaenol brys hynny ar agor, felly fe all hynny ddargyfeirio mwy o bobl o'r oriau sy'n arferol yn y cyswllt hwn. Yn sicr, yr hyn yr oeddwn i'n ei glywed gan bobl mewn adrannau damweiniau ac achosion brys wythnos diwethaf yw mai'r amser anodd, mewn gwirionedd, yw pan fydd popeth arall ar gau. Felly, fe fyddai agor y canolfannau gofal sylfaenol hynny am oriau hwy yn beth pwysig. Yr un peth o ran canolfannau gofal mewn argyfwng ar yr un diwrnod. Felly, dyna rywbeth arall yr ydym ni'n gweithio arno.
Mae gennym ni 100 o weithwyr ambiwlans newydd ar ddod yr wythnos hon a'r wythnos nesaf. Felly, fe fydd hynny'n gwneud gwahaniaeth mawr. Ac, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n bwrw ymlaen â cheisio creu mwy o'r gwelyau cymunedol hynny ar ben y 500 a gawsom ni eisoes. Nid pethau rhwydd mohonyn nhw, oherwydd mae'n rhaid i chi barhau i ddod o hyd i bobl. Staffio yw'r her fawr, yn enwedig o ran gofal, a dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i sicrhau ein bod ni'n cadw i fyny â'r cyflog byw gwirioneddol fel prif flaenoriaeth yn ein cyllideb ni o ran iechyd a gofal cymdeithasol.
Gweithredu diwydiannol. Gadewch i ni fod yn eglur: fe fydd gweithredu diwydiannol yn arwain at bwysau ar y GIG. Dyna bwrpas unrhyw streic, gwneud yn siŵr bod pobl yn teimlo ychydig o densiwn ac yn lleisio barn. Felly, nid wyf i o'r farn y dylwn i ymddiheuro am hynny—rwy'n credu y bydden nhw braidd yn anfodlon pe bydden nhw'n teimlo nad oedden nhw'n cael unrhyw effaith. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn mai un o'r materion y byddwn ni'n eu trafod, rwy'n gobeithio, gyda'r undebau yn ddiweddarach yr wythnos hon yw'r drafodaeth ynghylch y corff adolygu cyflogau, annibyniaeth y corff adolygu cyflogau, a'r hyn y gallwn ni ei wneud i fagu mwy o ffydd yn hwnnw. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn yn hyn o beth, oherwydd os byddwn ni'n gwyro oddi wrth hynny, yna fe fyddwch chi'n gweld cyflogau rhanbarthol ac efallai na fyddai hynny'n gweithio allan yn y ffordd y byddai rhai pobl yn dymuno yng Nghymru. Ond rwy'n cydnabod, rwy'n credu bod rhai materion y mae angen i ni edrych arnyn nhw o ran y corff adolygu cyflogau: o ystyried cyfradd bresennol chwyddiant, er enghraifft. Felly, fe welsom ni chwyddiant yn saethu i fyny ar ôl rhyfel Wcráin, a ni ddigwyddodd hynny tan tua mis Chwefror. Ystyriwyd sefyllfa gyfredol y GIG o ran cyflogau a chwyddiant, ym mis Mawrth/Ebrill, a thua 6 y cant oedd hi bryd hynny. Wel, nawr, wrth gwrs, rydym ni'n gwybod bod chwyddiant wedi codi ymhell dros 10 y cant, ac felly rwy'n credu bod problemau i'w cael pryd y mae angen i ni weld beth arall y gellir ei wneud o ran y corff adolygu cyflogau.
O ran gwelyau, cyfleusterau cam-i-lawr, mae arnaf ofn fy mod i o'r un farn â'r Prif Weinidog: nid oes unrhyw ddiben creu gwelyau os nad oes gennych chi ddigon o staff i fod wrth erchwyn y gwelyau. Un o'r heriau gwirioneddol a welsom ni wrth ddarparu'r 500 o welyau ychwanegol hyn yw, cyn gynted ag y byddwn ni'n penodi pobl, mae rhai ohonyn nhw'n gadael. Felly, rydym ni'n colli pobl cyn iddyn nhw gyrraedd y swydd mewn gwirionedd. Honno yw'r her. Felly, dyma pam rwy'n ei chael hi'n hynod ddiddorol, ddoe neu heddiw yn unig, bod Llywodraeth y DU yn credu eu bod nhw am adfer y sefyllfa hon ar gyfer y gaeaf. Ni fydd hynny'n digwydd, oherwydd rydym ni wedi gweld hynny'n heriol tu hwnt, o ran cyflawni'r 500 o welyau ychwanegol hynny, hyd yn oed.
Ond fe geir pethau eraill y gallwn ni eu gwneud, ac un o'r pethau, rwy'n credu, y gallwn ni ddysgu oddi wrthyn nhw yw'r modelau sy'n digwydd ynglŷn ag ysbyty yn y cartref. Felly, mae hi'n wych gweld bod hynny'n digwydd eisoes yng Nghaerdydd: monitro 60 o bobl yn eu cartrefi a fyddai mewn ysbyty fel arall, a gwneud yn siŵr bod popeth ar gael iddyn nhw ac, os oes problem, rydych chi'n gallu anfon rhywun allan atyn nhw. Fe fydd rhaid i ni gofleidio technoleg newydd. Fe fydd rhaid i ni wneud pethau yn wahanol wrth i ni fynd yn boblogaeth sy'n heneiddio gydag anghenion mwy cymhleth.
Rydym ni'n cyflogi mwy o staff nag a gyflogwyd erioed o'r blaen yn y GIG. Erbyn hyn rydym ni'n cyflogi 105,000 o bobl yn y GIG yng Nghymru. Rydym ni'n cyflogi mwy o nyrsys nag erioed o'r blaen, ac felly rydym ni'n recriwtio mwy nag yr ydym yn eu colli. Rwyf i o'r farn ei bod hi'n bwysig iawn i bobl gydnabod: ein bod ni mewn gwirionedd yn recriwtio mwy na'r hyn yr ydym yn eu colli, ond nid yw hynny'n ddigonol. Rydym ni'n gwybod nad yw hynny'n ddigonol, ac rydym ni'n gwybod bod angen i ni wneud mwy, a dyna pam rydym ni wedi gweld cynnydd aruthrol yn nifer y bobl yr ydym ni'n eu hyfforddi gydag Addysg a Gwella Iechyd Cymru ac eraill. A dyna pam rydym ni wedi rhoi swm ychwanegol i AaGIC yn y gyllideb: £265 miliwn i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr iechyd.
O ran y nodau brechu, rwy'n falch iawn. Roedd gennym ni nod o gyrraedd 75 y cant o ran COVID a rhai dros 65 oed. Rydym ni wedi cyrraedd 80 y cant. O ran ffliw, rydym ni ar 74.6 y cant, felly rydym ni bron â chyrraedd, ac rydym ni'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n cyrraedd 75 y cant yn ystod y dyddiau nesaf. Mae hi'n siomedig gweld cyn lleied o weithwyr y GIG a gweithwyr gofal sydd wedi manteisio ar y cyfle hwn, ac o ran y brechlyn ffliw yn arbennig felly. Mae hwnnw'n rhywbeth yr wyf i wedi holi droeon yn ei gylch er mwyn i'r byrddau iechyd hybu hyn yn wirioneddol gyda'u haelodau nhw. Mae hi'n siomedig eithriadol fod hynny'n wir, ac unwaith eto fe fyddem ni'n dal ati i'w holi nhw ynglŷn â manteisio ar y cyfle hwn.
Roeddech chi'n sôn am atal. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni i gyd yn deall bod gennym ni i gyd ran i'w chwarae o ran atal. Fe all pawb ohonom ni wneud yr hyn a allwn ni i gadw'n heini, a bwyta'n iach, ymarfer corff, a rhoi'r gorau i ysmygu. Mae'r holl bethau hyn yn bethau sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'n gallu ni i ddarparu'r hyn a allwn ni yn y GIG i'r dyfodol. Rydym ni i gyd yn gwybod am argyfwng gordewdra, ac mae hyn yn rhywbeth y mae gwir angen i ni fynd i'r afael ag ef, oherwydd mewn gwirionedd fe fydd yn trosi i ofal cymhleth sy'n angenrheidiol mewn pethau fel diabetes math 2.
Y peth arall, rwy'n credu, dim ond i fod yn eglur, yw fy mod i wedi gosod canllawiau eglur iawn o ran yr hyn yr wyf i'n ei ddisgwyl gan y GIG y flwyddyn nesaf, a blaenoriaethau hefyd. Fe fyddan nhw'n flaenoriaethau llawer mwy penodol ar gyfer gwneud yn siŵr ein bod yn canolbwyntio ein sylw ni ar y pethau pwysicaf i bobl Cymru, yn fy marn i. Un o'r pethau a wnaethom ni'n eglur iawn yn ein hadroddiad ac yn ein strategaeth ni, 'Cymru Iachach', yw bod angen i ni weld mwy o ofal yn y gymuned mewn gwirionedd. Mae angen i ni fod â rhagor o gymorth ar gael y tu allan i'n hysbytai ni ac yn ein cymunedau ni. Pan ydym ni'n sôn am ryddhau cleifion o ysbytai, er enghraifft, mae llawer o'r asesiadau hynny ar hyn o bryd yn cael eu gwneud mewn ysbytai. Mae'r dystiolaeth glinigol yn awgrymu y dylech chi fod yn gwneud hyn yng nghartrefi pobl. Felly, mae'r newid hwnnw'n rhywbeth y byddwn ni'n rhoi pwyslais mawr arno gyda'r GIG o ran datblygu eu strategaethau nhw i'r dyfodol.