Part of the debate – Senedd Cymru am 3:18 pm ar 10 Ionawr 2023.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad llawn y prynhawn yma. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni, ar bob ochr i'r Siambr a beth bynnag fo ein gwahaniaethau gwleidyddol ni, yn ddiolchgar iawn i bawb sy'n gweithio yn yr amgylchiadau presennol ledled y gwasanaeth iechyd gwladol ac mewn llywodraeth leol wrth ddarparu gofal cymdeithasol hefyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod y pwysau enfawr sydd ar y gwasanaeth iechyd cenedlaethol. Fe fuom ni'n trafod yn gynharach, yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog, effaith cyni ar y gwasanaeth iechyd gwladol a gallu'r gwasanaeth i ymateb, o ystyried materion olynol yn ymwneud â chyllid yn ystod y degawd diwethaf. Ond roeddech chi'n dweud hefyd, wrth ateb Rhun ap Iorwerth, rwy'n credu, bod y gwasanaeth ei hun wedi gorfod newid i adlewyrchu newidiadau yn y gymdeithas a newidiadau o ran anghenion. Fe fyddai hi'n dda gennyf i wybod, ym mhenllanw'r argyfwng gaeaf hwn, pe gallech nodi'r materion yr ydych chi'n ymdrin â nhw heddiw sy'n faterion hirdymor hir ac nid y materion byrdymor yr ydym ni'n eu gweld yn y penawdau, a sut rydych chi'n credu y dylem ni fod yn mynd i'r afael â'r materion strwythurol sylfaenol hynny yn y gwasanaeth iechyd cenedlaethol wrth iddo nesáu at ei ben-blwydd yn saith deg oed.