Part of the debate – Senedd Cymru am 4:32 pm ar 10 Ionawr 2023.
Dirprwy Lywydd, wrth i ni ddechrau'r flwyddyn newydd, rydym yn cydnabod bod y pwysau costau byw yn parhau i fod yn ddi-baid. Mae gormod o bobl yn poeni'n enbyd am gadw'n gynnes a bod â digon o fwyd i'w fwyta, ac i lawer o bobl, mae'r heriau'n fwy llwm.
Mae'r argyfwng costau byw wedi taflu goleuni llym ar allu gwahanol grwpiau i ymdopi â phrisiau sy'n codi'n gyflym. Yn ddiweddar, dywedodd y Resolution Foundation fod y bwlch incwm gwario sylfaenol rhwng y boblogaeth anabl a rhai nad ydynt yn anabl yn y DU yn 44 y cant. Maen nhw hefyd yn dweud bod cyfraddau ansicrwydd bwyd yn llawer uwch ymhlith teuluoedd sydd â thri neu fwy o blant, teuluoedd un rhiant, ac ymhlith rhai grwpiau ethnig nad ydynt yn wyn. Rwy'n dymuno rhoi sicrwydd i bobl ledled Cymru mai costau byw yw ein blaenoriaeth o hyd. Rydym yn cynnig cefnogaeth drwy ein cynllun cymorth tanwydd, drwy ein rhaglen Cartrefi Clyd a'n cynllun Nyth, trwy dalebau tanwydd Sefydliad y Banc Tanwydd a'r gronfa wres, ac, wrth gwrs, drwy'r rhwydwaith o fwy na 300 o ganolfannau clyd, sydd wedi eu sefydlu mewn cymunedau ledled Cymru gyda chymorth gan Lywodraeth Cymru.
Mae canolfannau clyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth yn dibynnu ar eu lleoliad a'u cyfleusterau. Mae hyn yn cynnwys man cynnes syml gyda lluniaeth, bwyd mwy sylweddol, gweithgareddau, mynediad am ddim i gyfrifiaduron a Wi-Fi a phwyntiau gwefru ar gyfer ffonau a thabledi. Mae nifer hefyd yn cynnig cyfle i gyfarfod â chynghorwyr ariannol a lles. Cyn y Nadolig, ymwelais â nifer o ganolfannau clyd i weld o lygad y ffynnon y gwaith gwerthfawr y mae'r canolfannau hyn yn ei wneud yn ein cymunedau ac i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw hwn.
Mae ein cynllun cymorth tanwydd eisoes wedi sicrhau bod bron i 290,000 o aelwydydd wedi derbyn y taliad o £200 eleni, a byddwn yn annog yr aelwydydd cymwys hynny i sicrhau eu bod yn gwneud cais am y cymorth hanfodol hwn y gaeaf hwn. Rydym yn parhau i ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen i helpu pobl i gynyddu eu hincwm i'r eithaf a chael mynediad i'r buddion y mae ganddyn nhw hawl iddyn nhw trwy ein cronfa gynghori sengl a'n hymgyrchoedd 'Yma i helpu' a 'Hawliwch yr hyn sy'n ddyledus i chi'. Rydym yn gweithio gyda llywodraeth leol er mwyn cysoni a symleiddio mynediad at ein buddion yng Nghymru.
Rwy'n falch bod cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn cynnwys £18.8 miliwn yn ychwanegol i barhau â'r gefnogaeth i'r gronfa cymorth dewisol yn 2023-24, yn ogystal â chyllid ychwanegol i dalu'r cyflog byw gwirioneddol i weithwyr gofal cymdeithasol a chymorth ychwanegol i gynllun treialu incwm sylfaenol i bobl ifanc sy'n gadael gofal. Mae hyn er gwaethaf y ffaith bod ein cyllideb werth hyd at £1 biliwn yn llai y flwyddyn nesaf.
Byddwn yn parhau i ddarparu cymorth i aelwydydd drwy ein cefnogaeth i gyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys mentrau fel ein cynnig gofal plant, ein cynllun lleihau treth gyngor, prydau ysgol am ddim a mynediad i PDG, grant hanfodion yr ysgol a chymorth gyda chostau iechyd. Mae'r holl raglenni hyn yn gadael arian ym mhocedi pobl. Y flwyddyn ariannol hon, byddwn yn gwario £1.6 biliwn ar gynlluniau sy'n rhoi cymorth uniongyrchol i bobl gyda chostau byw ac sy'n rhoi arian yn ôl ym mhocedi pobl.
Yr wythnos diwethaf, ymwelodd Gweinidogion Llywodraeth Cymru ag undebau credyd ledled Cymru i hyrwyddo'r gefnogaeth hanfodol y maen nhw'n ei chynnig i'r rhai sy'n cael trafferth gyda'u harian. Ac rydym yn parhau i fuddsoddi mewn undebau credyd i sicrhau eu bod yn gallu darparu mynediad i gredyd teg a fforddiadwy. Mae is-bwyllgor costau byw'r Cabinet yn rhoi cyfeiriad strategol i'n hymateb, gan sicrhau dull cydgysylltiedig ar draws portffolios a dod â phobl â phrofiadau bywyd, arbenigwyr, darparwyr gwasanaethau a sefydliadau ynghyd sy'n cefnogi pobl sy'n cael trafferth gyda chostau cynyddol.
Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi aelwydydd yr effeithir arnynt gan yr argyfwng di-baid hwn, ond mae'r ysgogiadau allweddol ar gyfer mynd i'r afael â thlodi, pwerau dros y systemau treth a lles, yn nwylo Llywodraeth y DU. Rydym wedi galw ar Lywodraeth y DU i sefydlu nifer o gamau ymarferol a fydd yn cael effaith uniongyrchol a chadarnhaol i'r rhai yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng. Ym mis Ebrill, bydd Llywodraeth y DU yn lleihau lefel y cymorth sydd ar gael trwy ei gwarant am bris ynni domestig. Yn y cyfamser, clywodd busnesau, elusennau a sefydliadau'r sector cyhoeddus ddoe y bydd y gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw yn cael ei leihau'n sylweddol, gan wasgu eu cyllidebau ymhellach ac effeithio ar wasanaethau yr ydym i gyd yn dibynnu arnynt. Rydym wedi galw ar Weinidogion y DU i godi'r taliad disgresiwn at gostau tai a lwfansau tai lleol. A'r disgwyl pum wythnos mympwyol am daliadau credyd cynhwysol yw achos sylfaenol caledi ariannol difrifol a gofid i lawer o bobl. Mae pobl sy'n aros yn cael eu gorfodi i droi at gefnogaeth o'r gronfa cymorth dewisol i'w cael nhw drwy'r caledi hwn. Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i edrych eto ar hyn, yn enwedig ar yr adeg hon o'r argyfwng costau byw.
Ar 21 a 29 Tachwedd a 7 Rhagfyr, cwrddais â chynrychiolwyr o nifer o gyflenwyr ynni i drafod y materion sy'n ymwneud â mesuryddion rhagdalu a'r argyfwng costau byw. Rwy'n pryderu'n fawr, wrth i fwy o gartrefi ddisgyn ar ei hôl hi gyda thalu eu biliau trydan a nwy, y gallen nhw gael eu harwain yn annheg at fesuryddion rhagdalu. Dylid ystyried symud deiliaid tai i system fesuryddion rhagdalu fel dewis olaf. Dylai cwmnïau ynni amsugno cost taliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid rhagdalu sy'n wynebu risg arbennig o gael eu datgysylltu o ganlyniad i gost gynyddol tanwydd. Ni ddylai hyn fod yn gost i'r Llywodraeth ymgymryd â hi; mae Llywodraeth Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU ac Ofgem i gyflwyno tariff cymdeithasol er mwyn gwarchod yr aelwydydd mwyaf agored i niwed ac i gael gwared ar daliadau sefydlog ar gyfer cwsmeriaid ar fesuryddion rhagdalu. Rwy'n dal i bryderu nad yw nifer pryderus o uchel o ddeiliaid tai ar fesurydd rhagdalu traddodiadol wedi defnyddio eu talebau oherwydd bod gan y rhain ddyddiad dod i ben o 90 diwrnod. Mae'n bwysig bod y cartrefi hyn yn casglu eu talebau Llywodraeth y DU ac yn eu defnyddio.
Dirprwy Lywydd, rydym wedi bod yn glir y byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi pobl trwy'r argyfwng costau byw hwn. Ni all Llywodraeth Cymru ddatrys y broblem hon ar ei phen ei hun, dim ond trwy ymdrech ac uchelgais gydgysylltiedig y gallwn fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn a phenderfynyddion ehangach tlodi. Ond, hoffwn ddiolch i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ledled Cymru am eu cefnogaeth barhaus i fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw hwn. Ac yn olaf, wrth i ni ddechrau'r flwyddyn newydd hon, rwy'n annog pobl i sicrhau eu bod yn cael gafael ar y cymorth a'r gefnogaeth sydd ar gael iddyn nhw ac y mae hawl ganddyn nhw iddyn nhw.