Part of the debate – Senedd Cymru am 6:24 pm ar 10 Ionawr 2023.
Yn bendant, Huw. Ie, diolch yn fawr am hynny. Roedd y digwyddiad y bûm i'n siarad ynddo ychydig cyn i mi fynd, lle roedd gen i annwyd o hyd—mae rhai pethau gyda ni bob amser—roedd yn wych, ac fe wnes i gyfarfod â'r RSPB tra'r oeddwn i yno, ac eistedd yn yr union gadeiriau yr oedd y darn ohono ar y noson honno, i drafod gyda nhw bartneriaeth ar draws Prydain Fawr gyfan ar gyfer rhai o'r cynefinoedd sydd eu hangen arnom, sy'n bwysig iawn, iawn. Ac fe aethon ni â'r llyfr o leisiau gyda ni, ac fe wnaethon ni ei gyflwyno i bobl ifanc Quebec, oedd yn wych hefyd. A dweud y gwir, roedd hi’n Flwyddyn Cymru yng Nghanada tra o'n i yno, ac ro'n i yno yn yr wythnos gloi, felly fe wnaethon ni ambell brosiect wirioneddol wych fel rhan o Cymru yng Nghanada oedd â thema amgylcheddol, ond hefyd thema celf a diwylliant, ac fe wnaethom ni ddefnyddio llyfr y lleisiau ar gyfer hynny, felly rydyn ni wedi pasio hynny ymlaen iddyn nhw'n barod ac fe gawson ni lawer o luniau ac yn y blaen i basio ymlaen.
Ond, o ran yr her fwyaf, mae'n eithaf syml beth yw'r her fwyaf, a'r cyllid yw hynny. Felly, mae'r swm o arian rydyn ni ei angen i ni allu buddsoddi yn hyn i gyd i wneud yr hyn yr ydym ni wir eisiau ei wneud yn enfawr, a does gen i ddim. Felly, yr her fawr—ac roedd diwrnod cyfan wedi ei neilltuo ar gyfer hyn, ac aethon ni i gyd i lawer o wahanol weithdai ac ati, roedd yn bethau diddorol iawn—ond yr her fawr i ni, a chodais hyn ar y prif lwyfan hefyd, yw cael y cyllid i mewn i Gymru heb y gwyrddgalchu. Ac mae hynny'n bryder ledled y byd. Felly, sut ydyn ni'n llunio cynllun masnachu, os mynnwch chi, ble gall pobl fuddsoddi eu harian yng Nghymru mewn ffordd gynaliadwy, sy’n sicrhau’r buddsoddiad rydyn ni ei angen ac ei eisiau ar gyfer ein tirfeddianwyr, ein rheolwyr tir, ein bywyd gwyllt ac yn y blaen, ac nad yw'n sicrhau’r buddsoddiad rydyn ni'n amlwg iawn eisiau ei osgoi ar gyfer rhywogaethau anfrodorol nac i bobl sy'n meddiannu tir, neu beth bynnag? Sut mae taro deuddeg? Nid ydym ni ar ein pennau ein hunain wrth frwydro gyda hyn, ac roedd yn wych gweithio gyda'r cenhedloedd eraill ar yr hyn y maen nhw wedi'i wneud hyd yn hyn, ac yn y blaen. Siaradais ar un platfform lle roedd Banc y Byd ac un o'r cymunedau busnes mawr fel siaradwyr hefyd, a chawsom sesiwn holi ac ateb rhyngom ar sut y gallai hyn weithio. Oherwydd gallwch weld bod y banciau mawr bellach yn ymddiddori yn hyn fel cynnyrch buddsoddi hyfyw, mewn ffordd nad oedden nhw 10 mlynedd yn ôl. Maen nhw'n cyrraedd y nod.
Y mater mawr arall yw'r alwad i uno. Mae sero net, er ei holl ddiffygion, wedi dod yn alwad i uno fawr dros yr hinsawdd. Un o'r pwyntiau trist am COP15 oedd na wnaethom ni gytuno ar y peth natur gadarnhaol. Ond, rwy'n credu ein bod ni'n dal i'w wthio, ac roedd yr uwchgynhadleddau is-genedlaethol yn cytuno arno, felly gallwn ni ei wthio o hyd, ond mae angen yr alwad honno i uno, on'd oes e, i fynd gydag ef, fel bod pobl yn deall beth maen nhw'n ceisio ei wneud a gallan nhw ei ddeall o'r brandio yn unig, os mynnwch chi. Ac yna mae angen i ni wireddu hynny ar lawr gwlad.
Felly, yr her fawr, heb amheuaeth, yw trafod y maes ariannu hwnnw, a byddaf yn cyfarfod â Gweinidogion y DU a'r Alban yn fuan iawn i drafod sut rydyn ni'n mynd i geisio gwneud hynny yn y DU a sut rydyn ni'n mynd i annog pobl i beidio â chefnogi’r gwyrddgalchu hynny rydyn ni'n ei weld. A hefyd sut rydyn ni'n mynd i annog cwmnïau sy'n ceisio gwneud y peth iawn i wneud peth hyd yn oed gwell. Felly, i wneud hynny, mae angen i ni fod wedi gwneud yr adolygiad y bûm i'n siarad amdano ac mae angen i ni wybod beth rydyn ni ei eisiau ym mhob rhan o Gymru, fel y gallwn ni ddweud, 'Wel, mewn gwirionedd, rydyn ni'n gwybod ein bod ni eisiau hyn, felly ewch ati i ariannu hynny gyda'ch cynllun. Peidiwch â dod i mewn a gwneud rhywbeth y gallech chi feddwl sy'n iawn, ond mewn gwirionedd rydyn ni'n gwybod nad dyma’r hyn rydyn ni ei eisiau.' Felly, mae hynny'n her ddifrifol, nid yn unig i Gymru ond i'r byd. Ac rwy'n credu bod COP15 wedi gwneud cam gwirioneddol ymlaen yn y system gyllid fyd-eang honno i ganiatáu i hynny ddigwydd. Ond, mae ffordd bell i fynd.