7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:22 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Huw Irranca-Davies Huw Irranca-Davies Labour 6:22, 10 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

A gaf i ddechrau nid yn unig drwy groesawu'r datganiad, ond gan wirioneddol groesawu'r arweinyddiaeth rydych chi, Gweinidog, a Llywodraeth Cymru wedi'i ddangos yn hyn? Roedd yn wych eich bod chi allan yna, eich bod chi nid yn unig allan yna, ond yn cymryd rhan weithredol yn y trafodaethau hynny, o safbwynt rhyngwladol, ond hefyd safbwynt domestig, ac yn dangos rhai o'r pethau fel prosiect mawnogydd Cymru, lle gallwn ni ddangos rhai enghreifftiau o ble gallwn ni arwain y ffordd hefyd.

Mae gennym ni gyfle go iawn yma. Rwyf wedi fy swyno gan angerdd y Gweinidog, fel arfer. Fe siaradodd mewn digwyddiad yn y Senedd cyn iddi fynd i COP15. Roedd hi'n amlwg iawn yno, ac roeddech chi ymhell dros y briff, ond rydych chi wedi dod yn ôl, fel rydych chi wedi'i ddweud, yn teimlo'n efengylaidd am hyn, yn chwilio am lywodraethu amgylcheddol nawr gyda grym, sy'n dda i'w glywed, a thargedau ystyrlon ar gefn COP15 yn ddomestig. Rydych chi'n gwybod bod y sefydliadau anllywodraethol wedi croesawu'n fras nid yn unig eich ymwneud yno, ond hefyd beth gafodd ei drafod a'r hyn y cytunwyd arno yno, ond nawr maen nhw'n edrych i weld sut mae hyn yn mynd i gael ei drosi i gyd-destun Cymreig. Felly, Gweinidog, a gaf i ofyn i chi, ble ydych chi'n gweld yr heriau mwyaf nawr wrth fwrw ymlaen â'r brys sydd ei angen, gyda'r uchelgais sydd ei angen, a sut ydych chi'n gwneud hynny mewn partneriaeth go iawn gyda thirfeddianwyr a ffermwyr, ond hefyd cyrff anllywodraethol, cyrff statudol ac yn y blaen? 

Ac wrth i mi eistedd i lawr, a gaf i sôn am fae Lyme—parth dim cymryd ar gyfer pysgodfeydd? Roedd yn un o'r penderfyniadau mwyaf amhoblogaidd ar y pryd erioed i'r Gweinidog a'i cymerodd, Jonathan. Nawr mae'r pysgotwyr i gyd yn edrych arno ac yn dweud, 'Dyna lwyddiant oedd hwnnw.'