7. Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Bioamrywiaeth

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:10 pm ar 10 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Delyth Jewell Delyth Jewell Plaid Cymru 6:10, 10 Ionawr 2023

Diolch, Gweinidog. Ro'n i'n mynd i ddweud bod e'n hyfryd eich clywed chi'n swnio mor evangelical am hyn, ond nid jest 'hyfryd', mae e'n rili pwerus, dwi'n meddwl. Blwyddyn newydd, gobaith newydd, dwi'n gobeithio. Dwi wir yn golygu hynny. Dwi'n meddwl bod lot o bethau rili i'w croesawu fan hyn. Yn sicr, mae hynny mewn cyferbyniad eithaf stark gyda pha mor argyfyngus ydy'r sefyllfa. Nawr, dŷn ni angen gobaith—wrth gwrs dŷn ni angen gobaith—ac mae hynny'n arbennig o wir oherwydd pa mor eithriadol o wael ydy'r sefyllfa, fel dŷch chi wedi bod yn gosod mas yn barod. Mae bioamrywiaeth yn dirywio'n gyflymach nawr nag ar unrhyw adeg yn hanes dynol. Dŷn ni'n sôn am yr ystadegau gwahanol yma yn aml, ond dwi'n meddwl bod hynny'n rhywbeth mor—. Mae e'n codi ofn mewn cymaint o ffyrdd. Mae'r niferoedd cyfartalog o rywogaethau brodorol yn y rhan fwyaf o gynefinoedd mawr ar y tir wedi gostwng o leiaf 20 y cant ers dechrau’r ugeinfed ganrif; mae 41,000 o anifeiliaid, yn fyd-eang, dan fygythiad o ddiflannu; mae un o bob chwe rhywogaeth yn wynebu peidio bodoli yng Nghymru; dŷn ni'n clywed yn aml yn y Siambr hefyd fod ecosystemau naturiol wedi gostwng 47 y cant ar gyfartaledd, o'i gymharu gydag amcangyfrifon cynt; a dŷn ni hefyd wedi clywed bod tua 75 y cant o wyneb y tir wedi newid yn sylweddol—mae dros 85 y cant o wlyptiroedd wedi eu colli hyd yn hyn.

Mae nifer o'r pethau roeddwn i eisiau eu codi yn benodol wedi cael eu codi'n barod gan Janet. Dwi ddim eisiau ailadrodd pwyntiau, ond dwi wedi cymryd i mewn, yn sicr, y pethau mae'r ddwy ohonoch chi wedi bod yn eu dweud. Dwi wir yn croesawu'r ffaith eich bod chi wedi mynd i COP15 a dwi'n croesawu’r ffaith, gyda hyn, gyda'r deep-dive ar fioamrywiaeth sy'n cael ei gynnal—. Mae hi'n braf gweld bod Llywodraeth Cymru, o'r diwedd efallai—. Dwi'n meddwl ein bod ni ar yr un tudalen. Yn sicr, mae eich brwdfrydedd ar hyn yn rhywbeth sydd mor dda i'w glywed eto.

Dŷch chi eich hunan wedi dweud taw gweithredu ydy'r peth allweddol yn hyn i gyd. Allwch chi ddweud mwy, er mwyn cael y maen i'r wal, dros gynnwys y ddeddfwriaeth—dŷch chi wedi addo am dargedau natur, am lywodraethu—o ran unrhyw amserlen? Oes yna unrhyw beth penodol y byddech chi’n gallu ei ddweud wrthym ni ar hyn o bryd?

Roedd beth roeddech chi'n dweud am Québec, am y sub-national government, y gwaith hynny, yn rhywbeth rili cyffrous, dwi'n meddwl. Pa bartneriaid ydych chi'n meddwl fydd fwyaf pwysig i ni yn y lle cyntaf ac wrth i'r gwaith yma fynd yn ei flaen? Mae hynny'n rhywbeth, dwi'n meddwl—. Byddai hynny'n gallu bod yn drawsnewidiol mewn cymaint o ffyrdd.

Dwi'n cytuno gyda beth oeddech chi'n dweud, yn sicr, am ba mor bwysig ydy gwarantu cynefinoedd cymunedau fel y Wampis. Mae hynny'n rhywbeth, yn sicr, y buaswn i yn cytuno gydag e.

Ac yn olaf—dwi ddim yn siŵr beth ydy 'immersive' yn Gymraeg—o ran y ffilm immersvie roeddech chi’n ei thrafod a pha mor syfrdanol oedd gweld a phrofi o'ch cwmpas chi ba mor ffantastig o beth ydy'r byd sydd o'n cwmpas a'r blaned ac wedyn gweld y dirywiad a gweld cymaint y mae hynny o dan fygythiad, oes yna unrhyw ffordd y bydden ni'n gallu ceisio gweld os oes yna ffordd o gael profiad immersive fel yna, yn enwedig ar gyfer plant mewn ysgolion yng Nghymru—rhywbeth tebyg? Dwi'n dweud 'plant', ond dwi'n gwybod bod yn rhaid i ni fod yn gweithredu cyn bod y plant yn tyfu yn fwy. Oes yna ryw ffyrdd, ydyn ni'n gwybod, neu oes yna unrhyw lywodraethau eraill yn y byd yn ceisio efelychu'r profiad yna mewn unrhyw ffordd ar gyfer pobl yn y gymuned hefyd rywffordd?