Part of the debate – Senedd Cymru am 6:05 pm ar 10 Ionawr 2023.
Diolch yn fawr, Janet. Roedd yn anhygoel bod yn COP15, mae'n rhaid i mi ddweud. Rydych chi wir yn dod nôl yn teimlo'n efengylaidd am yr angen i symud ar y pethau yma. Un o'r pethau rwy'n dymuno'n fawr i gael ei rannu gyda'r holl Aelodau yma yn y Senedd yw, wrth fynedfa COP15, roedd yr hyn a alwyd yn 'ystafell ymgolli llwyr', lle roeddech chi’n mynd i mewn ac yn gwylio’r ffilm fwyaf anhygoel gan National Geographic ac amryw o wneuthurwyr ffilmiau natur eraill o bob cwr o'r byd. Roedd yn anhygoel achos roeddech chi'n teimlo fel eich bod chi yn y môr neu yn y glaswelltiroedd, y ffordd roedd wedi'i wneud. Ac yna, yn arswydus, dechreuodd ddweud wrthych chi'r holl bethau oedd wedi diflannu o'r ffilmiau yr oeddech chi'n edrych arnyn nhw. Roedd yn ddychrynllyd. Ac yna dechreuodd roi'r niferoedd o rywogaethau oedd wedi diflannu fesul blwyddyn o amgylch y wal. Rwy'n mynd yn oer hyd yn oed yn meddwl am y peth nawr. Felly, roeddech chi’n dechrau gyda'r blaned wych hon yr ydym ni’n byw arni ac yna'r dinistr a ddilynodd. Ac yna, yn olaf, daeth i ben gyda sbotolau yn dod i lawr o nenfwd pob gwlad ac yna llinell amser o'r golled bioamrywiaeth i bob gwlad. Roedd yn erchyll, ac fe allech chi weld pobl yn cael eu heffeithio yn amlwg ganddo. Rwy'n dymuno'n fawr y gallem ni gael hwnnw allan i gymaint o bobl â phosib. Fe wnaeth i mi sylweddoli y difrod rydyn ni eisoes wedi'i wneud a'r angen brys i wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, yr ateb byr yw, 'Byddwn, byddwn ni'n rheoleiddio'. Byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod y nodau 30x30 mewn cyfraith yng Nghymru a'u bod yn dal ein traed at y tân. Ac nid yw'n ddigon i ni ddweud y byddwn ni’n sicrhau bod 30 y cant o'r tir, yr afonydd a'r moroedd wedi'u gwarchod, oherwydd rydym ni eisoes wedi gwneud hynny; mae gennym ni'r parciau cenedlaethol ac yn y blaen. Mae'n llawer pwysicach dweud beth yn union y byddwn ni’n ei wneud y tu mewn i'r ardaloedd gwarchodedig hynny, yr hyn y byddwn ni’n ei wneud ar ffiniau'r ardaloedd gwarchodedig, a'r hyn y byddwn ni’n ei wneud yn dilyn yr adolygiad bioamrywiaeth yr ydym ni eisoes wedi'i gael, i wneud yn siŵr y gall natur, o leiaf, roi'r gorau i waethygu, ond mewn gwirionedd ein huchelgais wrth gwrs yw ei wyrdroi a dechrau gwella.
Felly, Janet, byddwn ni'n gweithio'n agos iawn gyda chi ac eraill ar draws y Senedd i sicrhau bod y targedau uchelgeisiol rydym ni’n eu gosod yn fanwl. Rwy'n gwybod eich bod chi eisiau'r 30x30 wedi’i warchod, ond rwy'n gwybod nad ydych chi'n gwybod mwy na mi o ran beth yn union mae hynny'n ei olygu ym mhob rhan ohono. Felly, byddwn yn gweithio i sicrhau, ym mhob rhan o'n tirweddau dynodedig, ein bod ni wedi gwneud adolygiad o hynny erbyn 2030, ac yna ein bod ni wedi deall, o'r adolygiad hwnnw, beth sydd angen ei wneud yn yr ardal honno er mwyn mynd ymlaen. Mae'n uchelgeisiol gwneud adolygiad o bob ardal erbyn 2030, ond dyna un o'r targedau rwy'n benderfynol o'u gweld, fel bod yr adolygiad hwnnw'n ystyrlon ac mae'n dal ein traed i'r tân—pob un ohonom, nid y Llywodraeth yn unig—i wneud hyn. Felly, rwy'n benderfynol o wneud hynny. Rydyn ni'n gweithio gyda llywodraethau ledled y byd—mae llawer i'w rannu. Bydd yn rhaid i ni gael mwy o sesiynau na'r un sesiwn hon yn unig i ddweud wrthych chi am yr hyn rydyn ni'n gallu ei rannu. Mae llawer o ddysgu o gwmpas y byd, ond rwyf hefyd yn falch iawn o ddweud bod llawer o ddysgu gennym ni. Rydyn ni'n eithaf blaengar yn rhai o'r pethau rydyn ni'n eu gwneud. Roeddwn i’n fodlon iawn ac yn falch o gyflwyno'r rhaglen adfer mawnogydd, a oedd yn uchel ei pharch ledled y byd. Ond yn fwy na hynny—gallen ni wneud mwy gyda'n mawndiroedd ein hunain; gallem ni ledaenu hynny’n fwy.
Dydw i ddim yn mynd i fynd i'r afael â'r materion bwyd oherwydd maen nhw ym mhortffolio Lesley, ond fe glywson ni i gyd beth ddywedoch chi, Janet. Mae angen i chi eu codi nhw, a does gen i ddim amser beth bynnag. Ond o ran y ddau beth arall y gwnaethoch chi eu codi, ar yr amgylchedd morol, yn sicr byddwn ni’n gwarchod hwnnw, yn sicr byddwn ni’n adnewyddu ein hagwedd at yr amddiffyniad gofodol. Ond, eto fyth, rydyn ni eisiau gwybod beth mae hynny'n ei olygu. Beth yw parth cadwraeth forol? Beth yn union sy'n cael ei warchod ynddo? Beth allwch chi ac na allwch ei wneud ynddo? Wyddoch chi, a yw'n golygu wedi'i warchod yn llwyr, a yw'n golygu ei fod wedi'i warchod yn rhannol—beth mae'n ei olygu? Ac rwyf eisiau cyrraedd y pwynt lle, pe bawn i'n dweud wrthoch chi 'parth cadwraeth morol' neu 'dirwedd ddynodedig', ac mai chi oedd Mr a Mrs Jones o Preseli, y byddech chi'n gallu dweud wrthyf fi beth yn y byd yr oedd yn ei olygu. Oherwydd, ar hyn o bryd, allwn ni ddim o gwbl. Felly, fe wnawn ni gyrraedd y fan honno. Byddwn ni’n cyrraedd y pwynt lle rydyn ni'n gwybod beth mae pob un o'r rheiny'n ei olygu. Byddwn ni wedi gwneud hynny ochr yn ochr â'n cymunedau ein hunain, fel bod ein pysgotwyr gwerin a'n ffermwyr a phawb arall yn deall beth rydyn ni'n ei wneud a pham, a pham mae'n bwysig iddyn nhw i’r un graddau ag y mae i unrhyw un o'r gweddill ohonom. A byddwn ni'n gwneud hynny'n gyflym, fel ein bod ni, pan fyddwn ni’n cyflwyno’r Bil i’r Senedd hon, â'r dargedau yn eu lle a’r corff llywodraethu amgylcheddol hwnnw, gyda grym, i ddal ein traed at y tân. Ac rwy'n benderfynol o'i wneud. Byddwn ni'n dysgu o'r hyn sydd wedi'i wneud yn barod, ac, fe ddyweda i wrthych chi, roedd hi mor dda mynd yno, oherwydd fe wnaeth i mi fod hyd yn oed yn fwy penderfynol o'i wneud.