Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. O ran cau'r ysgol benodol mae'r Aelod yn sôn amdani, gwnaethpwyd y penderfyniad hwnnw yn gynharach y flwyddyn ddiwethaf. Mae'r penderfyniad wedi'i ohirio o ran ei gymryd mewn i effaith ar gyfer eleni, fel bod cyfle'n cael ei gymryd i edrych a oedd cynllun amgen ar gyfer sicrhau sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yn yr ardal. Mae'r adolygiad hwnnw wedi digwydd, fel rwy'n deall, ac, yn ei gyfarfod mwyaf diweddar, mae'r cyngor wedi penderfynu parhau gyda'r penderfyniad gwreiddiol. Does gen i fel Gweinidog ddim cyfle pellach i fod yn rhan o'r broses honno. Chefais i ddim unrhyw gwynion wrth y cyhoedd o fewn y ffenestr oedd gennyf i fel Gweinidog i allu ymwneud â'r penderfyniad, felly dyw hynny bellach ddim yn opsiwn.
Fel mae'r Aelod yn dweud, mae'n bwysig, wrth edrych ar ddarpariaeth ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd, fod cynghorau yn mynd i'r afael gyda dosbarthiad daearyddol darpariaeth. Mae hynny'n elfen bwysig iawn. Rŷn ni wedi sôn eisoes yn y Siambr nad dim ond rhifau sy'n bwysig, ond mae'r dosbarthiad a lleoliad y ddarpariaeth yn rhannau elfennol o sicrhau ffyniant yr iaith. Rwyf wedi cwrdd â'r cyngor ym Mhowys i sôn am eu cynlluniau strategol nhw. Maen nhw wedi sôn eisoes am gynlluniau, efallai, i edrych eto ar rai o'r pethau oedd gyda nhw i'w dweud o ran darpariaeth uwchradd. Felly, mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn trafod hynny gyda nhw ar hyn o bryd.