Part of 2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg – Senedd Cymru am 2:50 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch, Weinidog. Weinidog, fe ddywedoch chi y bore yma yn y pwyllgor addysg fod arian ar gael yng nghyllideb Llywodraeth Cymru i sefydlu addysg cyfrwng Cymraeg newydd. Mae hynny i'w groesawu'n fawr. Mae gweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghyngor Sir Powys wedi gwneud dewis gwleidyddol i beidio â sefydlu darpariaeth gynradd Gymraeg yn Nolau. Weinidog, penderfyniadau cul fel hyn, wedi'u seilio ar y diffyg siaradwyr Cymraeg mewn ardal, yw'r rheswm pam nad yw'r iaith yn cael ei datblygu ymhellach yn sir Faesyfed. Felly, Weinidog, hoffwn glywed gennych chi beth y gallwch chi ei wneud fel Gweinidog y Gymraeg i sicrhau bod cynghorau fel Powys yn datblygu'r iaith yn sir Faesyfed ac nad ydynt yn gwneud penderfyniadau cul, a'u bod yn edrych tuag at y dyfodol mewn perthynas â datblygu'r iaith mewn llefydd gwledig fel sir Faesyfed?