Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 11 Ionawr 2023.
Diolch i Russell George am gyflwyno'r ddadl yma y prynhawn yma. Rŵan, ar y cychwn fan yma, dwi am bwysleisio ein bod ni ar y meinciau yma a, gwn, y meinciau draw hefyd yn gyfeillion i'r ambiwlans awyr. Mi ydyn ni'n dod at y mater yma fel critical friends, a'r rheswm am hynny ydy oherwydd bod yr elusen gwych yma a'r gwasanaeth rhagorol y mae'n ei ddarparu mor ofnadwy o bwysig i Ddwyfor Meirionnydd a chymunedau eraill y gogledd a'r canolbarth. Dwi wedi cynnal cyfarfodydd cyhoeddus ym Mhorthmadog, Tywyn a Phwllheli, ac mae'r cannoedd o bobl sydd wedi mynychu'r cyfarfodydd yna a sôn am eu straeon personol a'u profiadau nhw yn dyst i werth amhrisiadwy'r gwasanaeth yma.
Gadewch inni beidio ag anghofio i'r ambiwlans awyr ddod i ogledd Cymru yn dilyn ymgyrch gan Nia Evans o Ddolgellau yn dilyn damwain car erchyll a gafodd hi a'i hannwyl ddyweddi ar y pryd, Kieron Wilkes, ger Harlech nôl yn 2002. Tristwch yr hanes hwnnw, wrth gwrs, ydy i Mr Wilkes golli ei fywyd, ond achubwyd bywyd Nia ar ôl i ambiwlans awyr yr heddlu ei chymryd hi i Ysbyty Gwynedd. Fe ddeisebodd Nia yn llwyddiannus i gael canolfan ambiwlans awyr yn y gogledd. Felly, ystyriwch ardal Harlech, neu Langrannog neu Langynog; maen nhw'n ardaloedd diarffordd, gwledig, ac ymhell o bob gwasanaeth craidd. Ers hynny, mae'r elusen wedi profi i fod yn un o'r rhai mwyaf poblogaidd yn y gogledd a'r canolbarth, efo'n cymunedau gwledig yn codi cannoedd o filoedd o bunnoedd, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, ar gyfer yr eluen, oherwydd eu bod nhw'n gweld gwerth yn y gwasanaeth.
Fe ges i'r fraint o fynd i Ddinas Dinlle i siarad â'r meddygon a'r gweithlu yno flwyddyn diwethaf ac mae'r holl beth yn gwbl anhygoel. Godidowgrwydd safle Dinas Dinlle ydy ei fod nepell o Ysbyty Gwynedd, sydd felly'n golygu bod gweithlu meddygol yr ambiwlans awyr yn medru gwella eu sgiliau meddygol yn yr ysbyty hefyd, sydd wrth gwrs yn cyfoethogi pawb.
Ond er mai ambiwlans awyr ydy'r enw, mae o'n llawer iawn mwy na hynny, mewn gwirionedd. Nid gwasanaeth cludo ydy'r ambiwlans awyr, ond yn hytrach ysbyty bach yn yr awyr neu ar bedair olwyn ydy o, efo pobl dawnus ac ymroddedig yn medru cyrraedd y llefydd mwyaf diarffordd er mwyn achub bywydau yn y fan a'r lle. Oherwyd mae mwy i'r ambiwlans awyr na hofrennydd.
Yr elfen bwysicaf, wrth gwrs, ydy'r meddygon sydd yn rhan o'r tîm, ond mae'r rapid response vehicles, yr RRVs, yn elfen greiddiol. I'r rhai hynny ohonoch chi sydd yn adnabod Dwyfor a Meirionnydd, mi fyddwch chi'n gwybod, er gwaethaf prydferthwch hynod yr etholaeth, mae'r môr, y llynnoedd a'r afonydd yn ein lapio ni'n aml mewn trwch o niwl a nydden. Pan fod hyn yn digwydd, gall hofrennydd ddim glanio, ac mi ydyn ni'n ddibynnol ar y cerbydau brys sydd yn rhan o wasanaeth yr elusen. Rŵan, pe canolir y gwasanaeth yn Rhuddlan, pa mor sydyn ydych chi'n meddwl y gall cerbyd ffordd RRV gyrraedd oddi yno i rywle fel Anelog ym mhen draw Llŷn, neu i Lanymawddwy? Mi fydd o'n oriau arnyn nhw'n cyrraedd. Bydd yn amhosibl iddyn nhw gyrraedd unrhyw un o'r llefydd yma mewn pryd. Felly, er gwaethaf y ffaith bod modelau cyfrifiadurol yn awgrymu y gellir achub mwy o fywydau, y gwir ydy mai ein cymunedau arfordirol a gwledig fydd yn dioddef.
Sydd yn dod â fi at fy mhwynt olaf: dwi am i'r Llywodraeth yma roi sicrwydd inni fod ganddyn nhw ffydd llwyr yn y rhaglen fodelu Optima sydd wedi cael ei defnyddio i gyfiawnhau'r argymhellion. Ffigurau iechyd Cymru, y Llywodraeth, sy'n cael eu mewnbynnu ac EMRTS sydd yn gwneud yr asesiad, felly gall y Llywodraeth ddim golchi eu dwylo o hyn. Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r ffigurau'n canolbwyntio ar niferoedd y digwyddiadau y gellir eu cyrraedd, fel y soniodd Russ ynghynt, ond heb ystyried ai dyma'r digwyddiadau mwyaf angenrheidiol i'w cyrraedd, gan fod rhaglen Optima wedi'i llunio ar gyfer ambiwlansys mewn amgylchiadau mwy cyffredin, nid ei llunio ar gyfer anghenion ambiwlans awyr ar draws ardal wledig eang.
I gloi, felly, mae'r gwasanaeth yma wedi profi'i hun i fod yn gwbl hanfodol i'n cymunedau ni, ac mae'r argymhellion sy'n cael eu cynnig yn awgrymu y bydd yn ein cymunedau gwledig ar eu colled. Dwi a'r bobl dwi'n eu cynrychioli yn chwilio am sicrwydd na fyddwn ni'n colli unrhyw lefel o wasanaeth yma, ac nad ymarfer mewn cyrraedd targedau ar draul lles ac iechyd pobl yn fy etholaeth i ydy hyn. Diolch yn fawr iawn.