Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:46 pm ar 17 Ionawr 2023.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yr wythnos diwethaf, yn anffodus, dewisodd Wizz Air adael Maes Awyr Caerdydd. Hyd yma, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi neu sicrhau bod £225 miliwn ar gael i'r maes awyr—bron i £0.25 biliwn. Chi yw perchnogion y maes awyr, er eich bod chi wedi sefydlu cwmni hyd braich i weithredu'r maes awyr. A ydych chi'n credu bod £225 miliwn yn arian a wariwyd yn dda?