Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:47 pm ar 17 Ionawr 2023.
Llywydd, rwyf i wedi credu erioed bod maes awyr rhanbarthol yn rhan hanfodol o seilwaith economaidd unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig sy'n ceisio cefnogi'r amodau modern y mae'n rhaid i'r economi weithredu oddi ynddyn nhw. Nid oedd y sector preifat yn gallu gwneud hynny. Roedd hi'n iawn i bwrs y wlad gamu i'r adwy. Mae'n fuddsoddiad yn nyfodol economi Cymru, ac yn un yr oedd y Llywodraeth hon yn falch o'i wneud.