Ysbyty Cymunedol Gogledd Sir Ddinbych

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru ar 17 Ionawr 2023.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddarparu ysbyty cymunedol gogledd sir Ddinbych? OQ58958

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:04, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae Llywodraethau Cymru olynol wedi cefnogi uchelgais y bwrdd iechyd lleol i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer ysbyty cymunedol yng ngogledd sir Ddinbych. Mae costau cynyddol a chyllidebau cyfalaf sy'n lleihau yn golygu bod yn rhaid ystyried y cynllun yng nghyd-destun buddsoddiadau iechyd a gofal cymdeithasol ar draws y gogledd yn gyfan gwbl.

Photo of Darren Millar Darren Millar Conservative

(Cyfieithwyd)

Diolch am yr ymateb yna, Prif Weinidog. Hoffwn fod y cyntaf i gydnabod y ffaith bod Llywodraeth Cymru, yn wir, wedi cefnogi'r prosiect hwn yn hanesyddol, a hoffwn weld y prosiect hwn yn cael ei gyflawni.

Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gydag arweinydd Cyngor Sir Ddinbych ac, fel y byddwch yn gwybod, un o'u blaenoriaethau allweddol yw cyflawni'r prosiect hwn, nid yn unig oherwydd yr effaith y bydd yn ei chael ar ysbyty Glan Clwyd cyfagos, a'r cymunedau y bydd yn eu gwasanaethu rhwng Abergele a Phrestatyn, ond hefyd oherwydd yr effaith adfywio enfawr y gall y prosiect hwn ei chael yn nhref y Rhyl, sydd, eto, wedi bod yn bwyslais i Lywodraeth Cymru yn y gorffennol. Rwy'n sylweddoli bod arian yn dynn. Rwy'n cydnabod yn llawn bod costau'r prosiect wedi cynyddu. Ond, o ystyried pwysigrwydd y prosiect hwn, o ystyried y pwysau sy'n bodoli ar hyn o bryd y mae'r GIG yn ei wynebu, yn enwedig yn y gogledd ac yng Nglan Clwyd, a gaf i erfyn ar Lywodraeth Cymru ac arnoch chi'n bersonol i ymyrryd, i gymryd golwg arall ar y prosiect hwn, oherwydd rwy'n credu ei fod yn bwysig, i bobl gogledd sir Ddinbych a thu hwnt, ei fod yn cael ei gyflawni? 

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:06, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, diolch i Darren Millar am y ffordd y gofynnodd y cwestiwn yna ac am ei gydnabyddiaeth o'r cyd-destun y mae'n rhaid gwneud penderfyniadau ynglŷn â'r cynllun ynddo. Rwy'n awyddus i'w sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ymwneud yn uniongyrchol â hyn i gyd. Cyfarfu'r Gweinidog iechyd ei hun gyda'r bwrdd iechyd a'r awdurdod lleol yn y cyfnod cyn y Nadolig. Cytunodd y cyfarfod hwnnw bod angen cyflawni dau ddarn o waith. Mae angen i'r bwrdd iechyd gynnal ymarfer blaenoriaethu. Ceir cynlluniau ar draws y gogledd i gyd, ac yn union fel y mae'r Aelod y prynhawn yma, yn cyd-fynd yn llwyr â'i gyfrifoldebau, wedi siarad dros ei gymuned a'i etholaeth, felly hefyd yr ydyn ni'n cael llythyrau a sylwadau tebyg ar ran llawer o gynlluniau eraill ar draws y gogledd i gyd. Felly, mae'n rhaid i'r bwrdd benderfynu beth yw ei flaenoriaethau ei hun. Ac yn ail, yn y cyfarfod hwnnw, cytunwyd hefyd y dylid rhoi'r cynllun cyfan gerbron y bwrdd partneriaeth rhanbarthol, iddyn nhw ei drafod hefyd. 

Nawr, ysgrifennodd uwch swyddogion y Gweinidog ddoe at y bwrdd iechyd eto, ac at yr awdurdod lleol, yn gofyn iddyn nhw am yr wybodaeth ddiweddaraf am y ddau ddarn o waith hynny. Oherwydd, er mwyn i'r Gweinidog allu ystyried yr achos busnes eto, gall hynny ddigwydd dim ond pan fydd gennym ni'r ddau ddarn pwysig iawn hynny o wybodaeth gyd-destunol. Ond hoffwn roi sicrwydd i Darren Millar, Llywydd, bod y Gweinidog wedi chwarae rhan uniongyrchol, yn parhau i chwarae rhan uniongyrchol, a chyn gynted ag y byddwn ni'n cael yr atebion hynny, bydd yn gallu ystyried y sefyllfa gyfan unwaith eto.

Photo of Carolyn Thomas Carolyn Thomas Labour 2:08, 17 Ionawr 2023

(Cyfieithwyd)

Rwyf innau hefyd wedi bod yn cyfarfod ag arweinydd sir Ddinbych a swyddogion a chefais fy synnu nawr gan y gost—oherwydd pwysau chwyddiant, gallai fod yn adeiladu ag arian cyfalaf gwerth £82 miliwn. Rwy'n deall bod cyllid cyfalaf wedi cael ei dorri 11 y cant dros y blynyddoedd nesaf, a bod terfyn benthyca Cymru wedi cael ei gyfyngu gan Lywodraeth y DU hefyd. Mae angen i ni wneud rhywbeth, fel y mae Darren Millar wedi ei ddweud, a gwn fod arweinydd sir Ddinbych yn bryderus iawn hefyd. Rwy'n deall ei fod yn fater cymhleth. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei fod hefyd yn fater gofal cymdeithasol, yn ogystal â mater GIG, ac y dylen ni edrych ar ddiddymu cap benthyg Llywodraeth y DU, fel y gallwn ni wneud mwy o waith fel hyn, gan fod ei wir angen yng Nghymru ar gyfer prosiectau cyfalaf fel hwn? Diolch.

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour

(Cyfieithwyd)

Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn gwneud rhai pwyntiau pwysig, ac oherwydd y pwyntiau hynny'n union, bydd hwn yn ysbyty cymunedol lle bydd gofal cymdeithasol yn rhan bwysig iawn o'r cyd-destun y mae'n gweithio ynddo, a gofynnwyd i'r bwrdd partneriaeth rhanbarthol ystyried y prosiect. Felly, rwy'n cytuno gyda'r pwynt a wnaeth hi yn y fan yna. 

O ran y pwyntiau terfyn benthyg, byddwn wedi gobeithio y byddai hyn yn rhywbeth a allai fod yn achos cyffredin i ni ar draws y Siambr yma. Yn 2016, daethom i gytundeb gyda Llywodraeth y DU o ran sut y bydden ni'n ymgymryd â'n cyfrifoldebau cyllidol. Roedd yn nodi terfyn benthyg Llywodraeth Cymru, gweithrediad cronfa wrth gefn Cymru. Nid yw'r ffigurau hynny erioed wedi cael eu diweddaru. Mae ein cyllideb 40 y cant yn fwy o ran arian parod nag yr oedd yn 2016, ond rydym ni'n ei rheoli gyda'r un terfynau a oedd yn iawn ar gyfer 2016. Pe baen nhw'n cael eu huwchraddio'n syml yn unol â chwyddiant, pe na bai eu gwerth go iawn yn newid, ond eu gwir werth yn cael ei gynnal, yna byddai hynny'n rhoi rhywfaint o hyblygrwydd ychwanegol i ni ynghylch terfynau benthyg a sut rydyn ni'n rheoli arian Llywodraeth Cymru mewn ffordd synhwyrol. Rwy'n credu mai dyna'r cwbl rydyn ni'n ei awgrymu. Dyma'r hyn a awgrymodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllidol yn ei adroddiad ar weithrediad y fframwaith cyllidol. Rwy'n eithaf sicr, ar y rhestr faith iawn o bethau y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU feddwl amdanyn nhw, ei bod hi'n debyg nad yw hyn yn agos at ei frig, ond mae'n beth synhwyrol y gallen nhw ei wneud a fyddai'n gwneud gwahaniaeth o ran defnydd synhwyrol o arian cyhoeddus.