– Senedd Cymru am 3:56 pm ar 17 Ionawr 2023.
Eitem 5 y prynhawn yma yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi ar flaenoriaethau economaidd a chysylltiadau Llywodraeth y DU. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad—Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n dod i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma ar ôl bod, yn gynharach heddiw, yng nghyfarfod cyntaf eleni o'r grŵp rhyngweinidogol ar gyfer busnes a diwydiant. Hwn oedd y cyfarfod cyntaf o'i fath ers gwanwyn y llynedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i drefniadau gweithio mewn partneriaeth briodol gyda Llywodraeth y DU a chenhedloedd datganoledig eraill, ac rydym yn gwneud hynny er budd Cymru ac economi ehangach y DU. Rwy'n ofalus obeithiol, ar ôl cael trafodaethau am reoleidd-dra a phwysigrwydd yr IMG heddiw, bod Llywodraeth newydd y DU yn dangos arwyddion o ymgysylltu mwy ystyrlon ynghylch ein blaenoriaethau economaidd ar y cyd. Dyna awgrymodd Prif Weinidog newydd y DU ei fod eisiau pan wnaeth gyfarfod â phenaethiaid y Llywodraethau datganoledig ym mis Tachwedd y llynedd. Bydd y prawf, wrth gwrs, yn y camau a fydd yn cael eu cymryd.
Mae'n hanfodol ein bod yn gweithio ar y cyd, mewn trefniadau partneriaeth adeiladol iawn, i lywio drwy'r heriau economaidd difrifol yr ydym ni'n eu hwynebu. Mae'r DU yn dechrau 2023 ar drothwy dirwasgiad. Mae pobl a busnesau ledled y DU dan bwysau mawr yn sgil yr argyfwng costau byw, gyda disgwyl i chwyddiant aros mewn ffigurau dwbl dros hanner cyntaf eleni. Mae'r cyfuniad gwenwynig o Brexit, diffyg buddsoddiad cyhoeddus a phreifat, a chyllideb fach drychinebus Llywodraeth y DU ar ddechrau'r hydref wedi niweidio economi'r DU yn ddifrifol. Roedd hyn wedi arwain yn uniongyrchol at ddisgwyliad eang y byddai safonau byw yn gostwng, ac yn gostwng i lefel hanesyddol o isel, ar draws pob rhan o'r DU. Mae cynhyrchiant wedi bod yn ddisymud ers dros ddegawd ac mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i
'roi diwedd ar yr anghydraddoldeb daearyddol sy'n nodwedd mor drawiadol o'r DU' yn dal heb ei gyflawni. Bydd y gefnogaeth barhaus, ond llai, ar gyfer costau ynni uchel gafodd eu cyhoeddi'r wythnos diwethaf, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd i fusnesau ar ôl mis Mawrth. Fodd bynnag, nid yw'r cynllun newydd yn amddiffyn rhag anwadalwch prisiau ynni nac yn cyd-fynd â'r lefel uwch o gefnogaeth gymharol a gynigir mewn gwledydd Ewropeaidd eraill.
Yng Nghymru, cydweithredu a phartneriaeth yw conglfeini ein dull o weithredu yn y Llywodraeth. Mae gan Gymru Lywodraeth sefydlog, aeddfed a rhwydwaith o bartneriaid cymdeithasol sy'n ein helpu ni i wneud y penderfyniadau cywir. Nid yw hynny'n golygu bod pob penderfyniad, wrth gwrs, yn hawdd. Gyda'n gilydd, rydym wedi datblygu fframwaith hirsefydlog ar gyfer twf economaidd cynhwysol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol, a danategir gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 sy'n arloesol; strategaeth economaidd sydd wedi cael ei hailystyried, ei hadnewyddu ac sydd â phwyslais newydd, wrth i ni adfer ac ail-greu ein heconomi yn sgil y pandemig; a chenhadaeth sydd ag ymrwymiad clir i werth cymdeithasol, wedi'i gwreiddio'n gadarn mewn economi wyrddach, gyda llesiant, urddas, a thegwch yn ganolog iddi.
Mae ein cynllun hirdymor yn parhau i fod ynghylch cyflawni dyfodol economaidd ffyniannus, gwyrdd i Gymru a buddsoddi yn sgiliau'r dyfodol. Mae ein gweledigaeth ar gyfer economi Cymru yn amlwg yn cyd-fynd ag arweinwyr meddwl annibynnol, fel y Resolution Foundation, a'u cynigion ar gyfer ailgychwyn Prydain drwy ddychwelyd at dwf cynhwysol. Ond, bu angen ar y DU gyfan i Lywodraeth y DU ddatblygu cyfeiriad economaidd cyfrifol, cydlynol ar gyfer adfer a thwf ers peth amser—cynllun clir a grëwyd mewn partneriaeth ac a sefydlwyd yng nghryfderau economaidd pob cenedl. Hebddo, a gyda'r rhagolygon economaidd yn dirywio, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU weithio gyda ni i sicrhau bod buddsoddiad cyhoeddus pwrpasol i fynd i'r afael â'r argyfyngau presennol a darparu economi fwy cynhyrchiol.
Mae ein Llywodraeth yng Nghymru yn glir, gyda'n gilydd, bod y DU yn undeb balch a chydblethedig o genhedloedd sy'n gallu bod yn fwy na chyfanswm ein rhannau. Heb ymgysylltu strwythuredig priodol rhwng holl wledydd y DU dros y flwyddyn ddiwethaf, bu gwagle clir sydd wedi arwain at ddulliau economaidd digyswllt ac anghyson mewn gwahanol sectorau, wedi'u harwain gan wahanol adrannau'r DU. Mae rhai dulliau wedi bod yn fwy adeiladol. Gyda'n gilydd, rydym wedi gwneud cynnydd da ar borthladdoedd rhydd, fe wnaethom gyd-gynllunio'r prosbectws, gan gynnwys ymrwymiadau i waith teg, ac rydym yn cyd-asesu'r ceisiadau. Bydd gweinidogion o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyda'i gilydd yn dewis y cais llwyddiannus. Mae'r dull o ymdrin â pharthau buddsoddi bellach wedi symud i lwybr mwy adeiladol. Mae Llywodraeth bresennol y DU wedi dewis peidio â bwrw ymlaen â'r polisi blaenorol a gyhoeddwyd yn yr hydref, gan fod y dystiolaeth o'r manteision posibl o'r dull blaenorol hwnnw o fisoedd yn ôl ymhell o fod yn glir, ac rydym yn cytuno bod angen ailfeddwl a chael dull â mwy o ganolbwynt, gan weithio gyda ni, nid o'n hamgylch. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth bresennol y DU bellach yn cymryd yr angen i ymgysylltu ynghylch polisi ffiniau o ddifrif. Mae'n rhaid i hynny barhau os ydym i gael yr ateb iawn ar gyfer Cymru a Phrydain.
Er hynny, mae angen sylw brys ar rai dulliau. Ni all Llywodraeth y DU ohirio gweithredu mwyach wrth geisio sicrhau dyfodol hirdymor dur. Rhaid iddynt gyflawni buddsoddiad sy'n cyd-fynd â'n hymrwymiad yng Nghymru i ddyfodol economaidd gwyrdd. Ganddyn nhw mae llawer o'r pwerau sy'n ymwneud â datgarboneiddio dur y DU, a'r adnoddau sydd eu hangen i helpu i drawsnewid ein diwydiannau ynni-ddwys. Rhaid i Lywodraeth y DU roi eglurder ynglŷn â mesurau y bydd yn eu defnyddio i ariannu effeithlonrwydd ynni, a'r technolegau sy'n sicrhau dyfodol carbon isel. Rydym wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i sicrhau bod prisiau ynni diwydiannol yn cyfateb â chystadleuwyr yn Ewrop a sicrhau chwarae teg i gynhyrchwyr dur y DU.
Mae'r clwstwr lled-ddargludyddion yng Nghymru yn gyfrannwr hanfodol a phwysig arall i'n heconomi heddiw ac yn y dyfodol. Mae'r amser a gymerwyd gan Lywodraeth y DU i ddod i'w phenderfyniad i ddiddymu cais Nexperia i gaffael Newport Wafer Fab, ar sail diogelwch cenedlaethol, wedi achosi ansicrwydd mawr i'r busnes a'i weithlu. Mae'n rhaid i Lywodraeth y DU nodi sefyllfa glir i'r sector a chyhoeddi ei strategaeth led-ddargludyddion hirddisgwyliedig iawn.
Mae dewis Llywodraeth y DU wrth ddylunio'r gronfa ffyniant gyffredin wedi diystyru datganoli ac 20 mlynedd o brofiad yn sicrhau cyllid yr UE. Mae Cymru'n parhau i golli dros £1 biliwn wrth i addewidion maniffesto gael eu torri ynghylch cyllido a fydd yn disodli cronfeydd yr EU. Yn y cyfamser, mae awdurdodau lleol yn dal i aros am benderfyniadau ar geisiadau ar gyfer ail rownd y gronfa ffyniant bro, er iddyn nhw gyflwyno ceisiadau ar ddechrau mis Awst y llynedd. Mae dull gweithredu Llywodraeth y DU wedi gosod llywodraeth leol mewn sefyllfa echrydus. Mae sectorau eraill, fel addysg uwch, addysg bellach a'r trydydd sector, wedi'u neilltuo, wrth i arian gael ei ail gyfeirio oddi wrth ardaloedd tlotaf ein gwlad ar yr amser gwaethaf posibl. Byddai hyn i gyd wedi ei osgoi pe na bai Llywodraeth y DU wedi torri ei addewid maniffesto a pharchu 20 mlynedd o ddatganoli. Yna gallem fod wedi rheoli cyllid a fyddai'n disodli cronfeydd yr UE yn llawn drwy ein fframwaith ar gyfer buddsoddiad rhanbarthol. Ar draws y datblygiadau hyn, ac eraill, megis gwynt arnofiol ar y môr neu ddal, defnyddio a storio carbon, mae ymrwymiad parhaus ac adeiladol i ddeialog gan Lywodraeth y DU yn hollbwysig. Mae rhai o'n prosiectau seilwaith strategol allweddol sydd wedi eu cynllunio ym mhob cwr o Gymru yn ddibynnol ar gymorth Llywodraeth y DU. Mae'r ganolfan ymchwil technoleg uwch, y Labordy Niwclear Cenedlaethol; prosiect ARTHUR; a'r Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd i gyd yn dangos cryfderau gweithgynhyrchu gwerth uchel yng Nghymru.
Ar ôl y dirywiad mewn cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn gynharach yn y flwyddyn, rydym wedi gweld rhai gwelliannau yn ddiweddar. Ond mae tystiolaeth gadarn eto i ddod i'r amlwg o rythm rheolaidd, dibynadwy o ymgysylltu a pharch at ddatganoli ar draws pob maes polisi. Bydd gwahaniaethau clir bob amser rhwng blaenoriaethau ac amcanion ein priod Lywodraethau, oherwydd eu bod wedi'u gwreiddio mewn gwahanol werthoedd, ac nid oes unrhyw enghraifft yn fwy amlwg na'r ddeddfwriaeth wrth-streicio a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ar ôl gwneud ymrwymiad clir yn y gorffennol i amddiffyn a gwella hawliau cyflogaeth a gadwyd wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd.
Nid ydym yn credu mai'r ymateb cywir yw i Lywodraeth y DU gyflwyno deddfau newydd fydd yn cael effaith uniongyrchol ar y gweithlu mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Credwn mai'r ymateb cywir yw gweithio gyda chyflogwyr ac undebau llafur mewn partneriaeth gymdeithasol i ddatrys anghydfodau ar y cyd. Ond os gallwn ymgysylltu'n adeiladol ynghylch porthladdoedd rhydd, parthau buddsoddi o bosibl, a ffiniau, nid oes rheswm pam na ddylem allu cyflawni prosiectau o arwyddocâd strategol ar y cyd. Er gwaethaf ein gwahaniaethau, dylem fod â chyd-ddiddordeb mewn gwneud dewisiadau i wella'r rhagolygon economaidd i Gymru yn yr hyn a fydd yn flwyddyn heriol iawn i ddod.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Nawr, rwy'n cytuno â'r Gweinidog fod y DU yn dechrau 2023 ar sail anodd iawn, ac mae angen pwyslais gwirioneddol ganddo ar bolisïau economaidd Llywodraeth Cymru. Roeddwn i wedi gobeithio y byddem ni'n clywed mwy gan y Llywodraeth ynglŷn â rhai o'r mentrau penodol sydd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer mynd i'r afael â rhai o'r heriau y mae busnesau yng Nghymru yn eu hwynebu, ond mae diffyg manylion yn hyn o beth yn y datganiad heddiw. Serch hynny, rwy'n falch o weld bod y datganiad heddiw yn cyfeirio at sicrhau dyfodol economaidd ffyniannus, gwyrdd i Gymru, gan fuddsoddi yn sgiliau'r dyfodol. Mae'r Gweinidog yn gwybod fy mod i wedi bod yn galw am gynllun gweithredu sgiliau sero net newydd ers amser maith bellach, er mwyn sicrhau bod gennym y bobl a'r sgiliau cywir ar gael i elwa ar swyddi gwyrdd yn y dyfodol. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog ddweud mwy wrthym am sut mae'r Llywodraeth yn meithrin gwell dealltwriaeth a sylfaen dystiolaeth o anghenion sgiliau yn y dyfodol i gefnogi'r newid i sero net, a hefyd dweud wrthym sut mae'n annog ymwybyddiaeth ymhlith cyflogwyr i gefnogi ailsgilio ac uwchsgilio eu gweithlu.
Mae'r datganiad heddiw yn cyfeirio at y gefnogaeth barhaus i gostau ynni uchel a gyhoeddodd Llywodraeth y DU yr wythnos diwethaf, ac rwy'n credu bod lle yma i Lywodraeth Cymru weithredu i gefnogi busnesau hefyd. Er enghraifft, rydym yn gwybod bod Banc Datblygu Cymru yn datblygu cynllun a fydd yn caniatáu i fusnesau fenthyca er mwyn ariannu buddsoddiad cyfalaf sy'n cyflawni o ran datgarboneiddio. Felly, efallai fod hyblygrwydd yma i'r cynllun hwn gynnwys busnesau sydd angen cymorth acíwt gyda chostau ynni, fel y gall arian gyrraedd busnesau cyn gynted â phosib. Felly, efallai y gallai roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ei drafodaethau gyda'r banc datblygu ar y gefnogaeth y gallan nhw ei chynnig i fusnesau Cymreig, a dweud wrthym ni pryd fydd cynllun newydd y benthyciad busnes gwyrdd yn debygol o ddod yn weithredol.
Dirprwy Lywydd, mae datganiad y Gweinidog yn canolbwyntio'n helaeth ar gysylltiadau rhynglywodraethol, ac rwyf am ailadrodd, pan fo Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd, mae Cymru'n elwa. Yn wir, rwyf eisiau atgoffa'r Gweinidog fod pobl Cymru'n cael eu gwasanaethu gan y ddwy Lywodraeth, ac mae er budd y ddwy ein bod yn cydweithio. Wrth gwrs, mae'n iawn i ddweud bod y DU yn undeb balch o genhedloedd sy'n gallu bod yn fwy na chyfanswm eu rhannau, ac mae'r bartneriaeth gyda Llywodraeth y DU ar feysydd fel porthladdoedd rhydd, fel bargeinion dinesig, a dyfodol polisi ffiniau, wedi dangos, pan fydd Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd, bod Cymru'n elwa.
Mae yna bryderon gwirioneddol, wrth gwrs, ynghylch cyllido sy'n disodli cronfeydd yr EU, ac rwy'n rhannu rhai o'r pryderon hynny, fel y mae'r Gweinidog yn gwybod yn iawn. Ond nid wyf yn gweld sut mae datganiad y Gweinidog heddiw yn dweud wrthym ni mewn unrhyw ffordd sut mae'n mynd i greu perthynas fwy adeiladol gyda San Steffan, sy'n hanfodol i economi Cymru. Nawr, mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu buddsoddi mewn meysydd fel ymchwil ac arloesedd, sydd â photensial enfawr i drawsnewid economi Cymru a'n rhoi ni ar flaen y gad yn natblygiadau technolegol. Ond rydym ni'n dal i aros am strategaeth arloesedd gan Lywodraeth Cymru, er gwaethaf galwadau cyson o'r sector. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog gymryd y cyfle i ddweud wrthym pryd y byddwn yn gweld strategaeth arloesi gan y Llywodraeth hon.
Nawr, mae'r Gweinidog yn gwneud pwynt teg ynghylch dyfodol hirdymor dur. Mae'n ddiwydiant sylfaenol sy'n asgwrn cefn i'n sector gweithgynhyrchu ac mae angen eglurder arnom ynghylch sut y bydd dyfodol cynaliadwy yn cael ei sicrhau. Felly, efallai y gallai'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynghylch y trafodaethau diweddaraf y mae wedi'u cael gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant fel y gallwn ddeall yn well lefel yr ymgysylltu ar y mater hwn.
Mae datganiad y Gweinidog yn amlygu gwynt arnofiol ar y môr fel maes lle mae angen cryfhau deialog, ac mae gennyf i ddiddordeb mewn gwybod mwy am ei farn o gofio, yn y trafodaethau yr ydw i'n parhau i'w cael gyda datblygwyr, maen nhw'n ei gwneud hi'n glir mai Llywodraeth Cymru a sicrhau adnoddau i Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n arafu datblygiadau yma yng Nghymru, yn enwedig o ran caniatâd cynllunio. Felly, efallai y gallai fanteisio ar y cyfle i esbonio beth yn union y mae'n ei olygu yn ei ddatganiad mewn cysylltiad â gwynt arnofiol ar y môr, gan y bydd rhanddeiliaid yn y Senedd yn ddiweddarach heddiw a'r wythnos nesaf a byddant yn awyddus i ddeall ei farn yn well.
Wrth gloi, Dirprwy Lywydd, roeddwn i wedi gobeithio y byddem yn clywed mwy gan y Gweinidog heddiw am flaenoriaethau economaidd y Llywodraeth hon, yn enwedig yng ngoleuni'r adroddiad gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, a oedd yn dadlau nad oes digon o gydlyniant a chysondeb, ers datganoli, ac nad yw'r uchelgeisiau wedi cael eu gwireddu oherwydd gweithredu aneffeithiol. Roedd yr adroddiad hwnnw, mewn gwirionedd, wedi'i gyd-ysgrifennu gan gyn Weinidog Llywodraeth Cymru, ac felly, gallai'r datganiad heddiw, ac yn fy marn i, dylai'r datganiad heddiw fod wedi manteisio ar y cyfle i ddweud mwy wrth yr Aelodau am sut y bydd yn cefnogi entrepreneuriaeth ac arloesi, datblygu ffrwd sgiliau cadarn a dod â diwydiant a'r byd academaidd ynghyd er lles economi Cymru. Mae aelodau eisoes yn gwybod bod cysylltiadau rhynglywodraethol cryfach o fudd i economi Cymru, ac er bod y Gweinidog yn iawn i ddweud bod angen eglurder gan Lywodraeth y DU mewn rhai meysydd, mae angen i ni weld mwy o eglurder gan Lywodraeth Cymru mewn sawl maes hefyd.
Diolch am y cwestiynau. Fel gŵyr yr Aelod, rydym yn datblygu ein cynllun sgiliau sero net. Mae rhai datganiadau i'w gwneud gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ac eraill yn ddiweddarach yn y gwanwyn, ond mae gennyf i ddiddordeb yn y ffordd y gallwn ni gau'r cylch. Mewn gwirionedd, rwyf wedi cael sgyrsiau ychwanegol yn ystod yr wythnos diwethaf am ymateb amrywiaeth o randdeiliaid, darparwyr caffael sgiliau, addysg bellach ac eraill, ond hefyd busnesau—ac ymwybyddiaeth busnes—eu hunain, ac mae'n amrywio mewn gwahanol sectorau. Mae her yma o ran codi ymwybyddiaeth o'r daith i sero net, a'r ffaith y bydd angen i fusnesau ym mhob sector newid rhai o'r ffyrdd y maen nhw'n bwriadu gweithio. Dyna pam y bydd angen nid yn unig dull gweithredu ynghylch beth yw'r polisi, ond codi ymwybyddiaeth, a sut yr ydym yn arfogi pobl a fydd yn dod i fyd gwaith am y tro cyntaf, neu sydd yn agos at ddechrau eu gyrfa, yn ogystal â'r rhai ohonom sydd wedi bod yn y gwaith am gyfnod hirach, a sut rydych chi'n arfogi ac yn ailarfogi'r genhedlaeth bresennol o bobl sydd eisoes mewn gwaith. Ac fe welwch hynny wrth i ni fwrw ymlaen â'r cynllun sgiliau sero net, ond hefyd y gwaith y byddwn wedyn yn ei wneud yn fanylach mewn gwahanol sectorau. Felly, bydd gennyf i fwy i'w ddweud yn y misoedd nesaf, pan fyddwn ni'n lansio'r cynllun mewn gwirionedd, a byddwch chi'n gweld rhywfaint o'r ymgysylltu hwnnw. Ac rwy'n siŵr, gan wisgo eich het arall, nid yn llefarydd y Ceidwadwyr ond yn Gadeirydd y pwyllgor, bydd gennych ddiddordeb mewn rhai o'r ymgysylltiadau. Ac rwy'n edrych ymlaen at y dystiolaeth a'r archwiliad rwy'n siŵr y bydd y pwyllgor yn ei roi.
O ran benthyciadau busnes gwyrdd Banc Datblygu Cymru, ni fydd yn rhaid i chi aros llawer hirach; rwy'n credu bod Luke Fletcher wedi gofyn hyn hefyd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd y lansiad hwnnw'n digwydd i nodi sut y bydd y banc datblygu yn gallu cefnogi busnesau i leihau costau i arbed y llinell waelod, ac i wneud hynny yn barhaus, i ddatgarboneiddio eu cynhyrchiant, a bydd y swyddogaeth gyngor yn rhan o'r cynllun hwnnw hefyd. Felly, dim llawer hirach i aros. Ond, mae hynny'n dangos ein bod ni'n defnyddio'r pwerau a'r gallu sydd gennym i wneud gwahaniaeth ymarferol.
Ac o ran cysylltiadau rhynglywodraethol, mae gofyn i Lywodraeth y DU fod yn bartner parod mewn sgwrs. Y cyfarfod a gefais heddiw gyda Gweinidog yn yr Adran Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU, Gweinidog Llywodraeth yr Alban a gwas sifil o Ogledd Iwerddon oedd yr un cyntaf mewn naw neu 10 mis. Nid oherwydd i ni benderfynu peidio â chael y cyfarfodydd; dewis Llywodraeth y DU am amryw o resymau oedd atal y rhain rhag digwydd. Rydym bob amser wedi bod yn barod i ymgysylltu'n adeiladol. Felly hefyd yn y cyfarfod a gefais yn gynharach yr wythnos hon gyda Michael Gove ar amryw o faterion eraill. Rydym ni'n gwybod na fyddwn ni wastad yn cytuno, ond byddai'n llawer gwell gennym ni gael sgwrs ac i wneud hynny mewn cyfnod digon cynnar i wneud gwahaniaeth. Yr hyn yr ydym ni wedi'i ganfod ar wahanol adegau yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf yw eu bod wedi ymgysylltu â ni ar adeg pan gawn wybod beth yw'r penderfyniad, neu pan fyddant yn mynnu ein bod yn cytuno â pholisi a safbwynt yr ydym yn gwybod na fyddwn yn dod o hyd i gytundeb arnyn nhw. Dyna pam y tynnais sylw yn fy natganiad at feysydd lle bu cytundeb yn bosibl, fel y ffaith ein bod wedi cyfaddawdu ac wedi cytuno ar safbwynt ynghylch porthladdoedd rhydd, i gyferbynnu hynny â'r dull a gymerwyd ar ffyniant cyffredin a'r gronfa ffyniant gyffredin, er enghraifft.
O ran strategaeth arloesi, rwy'n credu fy mod i wedi bod mor glir ag y gallaf i fod: mae'n ymrwymiad yn y cytundeb cydweithredu. Rydym yn disgwyl lansio honno cyn diwedd mis Chwefror, felly, eto, dim llawer hirach i aros. O ran dur, rwy'n croesawu'r hyn yr oedd gan yr Aelodau i'w ddweud sef bod angen eglurder ynghylch dyfodol y sector. Gall hynny ond digwydd pan fo gan Lywodraeth y DU fap ffordd priodol ynglŷn â ffurf buddsoddi ar y cyd a'r math o flaenoriaethau y mae eisiau eu gosod. Ac mae hynny'n bwysig iawn ar draws y sector cyfan, nid yn unig i'r sector dur ei hun, ond yna yr hyn sy'n mynd i ddigwydd ym maes caffael mewn ystod o feysydd eraill lle gallem ac y dylem ni fod yn cael effaith gadarnhaol o weld mwy o ddur sy'n cael ei gynhyrchu ym Mhrydain yn cael ei ddefnyddio mewn ystod o gynhyrchion. Byddai hynny hefyd, yn fy marn i, angen dull gwahanol o fuddsoddi mewn seilwaith hefyd.
Ac o ran gwynt arnofiol ar y môr, eto, maes lle gellid ac y dylid defnyddio dur, rydym wedi bod yn glir iawn yn ein sgyrsiau gydag Ystad y Goron. Rwyf i a Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, wedi cwrdd ag Ystad y Goron sawl gwaith, ac rydym ni wedi bod yn glir am yr hyn yr ydym eisiau ei weld gyda ffrwd o rowndiau prydlesu yn y dyfodol, felly nid rhywbeth pryd y ceir cyfle am gyfnod o fisoedd a chyfnod byrrach o flynyddoedd, ond rownd o brydlesu mwy hirdymor, er mwyn i chi allu cael buddsoddiad mwy hirdymor. A byddai hynny, yn fy marn i, yn sail i fuddsoddiad sylweddol yn seilwaith porthladdoedd y gogledd a'r de, er mwyn manteisio'n llawn ar gyfleoedd.
A hefyd rydym wedi bod yn glir iawn gydag Ystad y Goron ein bod eisiau gweld mantais gadarnhaol a gofyniad yn y rownd brydlesu nesaf am gadwyn gyflenwi leol, ac y byddai'n rhaid i geisiadau wedyn gyflawni yn ymarferol. Byddai angen dull contractio i wneud yn siŵr nad yw cais yn ymddangos yn un gwych ar bapur ac yna bod rhywbeth hollol wahanol yn digwydd mewn gwirionedd dros y blynyddoedd nesaf. Ac fe fyddwn i'n credu y byddai'r Aelod ac eraill yn gefnogol i hynny, oherwydd dylai sicrhau ein bod yn cynhyrchu mwy o werth economaidd yn y cadwyni cyflenwi hynny fod yn nod gyffredin ar draws y Siambr.
Ac yn olaf, ar eich pwynt, fe wnaethoch chi sôn am sgiliau ar y diwedd; mae'n un o'r meysydd yr ydym ni wedi buddsoddi ynddo yn gyson. Mae gennym hanes da o ran buddsoddi mewn sgiliau a phrentisiaethau drwy oes datganoli. Mae'n un o'r ysgogiadau sydd gennym i wneud gwahaniaeth. Mae hefyd yn un o'r ysgogiadau lle mae'n anoddach gwneud mwy oherwydd diffyg setliad priodol ynghylch cronfeydd ar ôl ymadael â'r UE. Mae'r £1 biliwn yna rydym ni'n mynd i'w golli yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran sut rydym ni'n cefnogi'r economi, sut rydym ni'n arfogi pobl â sgiliau ar gyfer heddiw, ac ar gyfer yfory, a byddwn i wir yn croesawu gweld y Ceidwadwyr Cymreig yn ymuno â lleisiau o bob rhan o'r Siambr a'r gymdeithas yn ehangach a sectorau eraill i alw ar Lywodraeth y DU i ailedrych ar yr hyn mae wedi ei wneud, ailedrych ar ei addewidion o'r maniffesto a dorrwyd, a rhoi i Gymru yr hyn a addawodd, cyllido llawn sy'n disodli cronfeydd strwythurol yr UE, a byddai hynny'n gwneud gwahaniaeth i'n dyfodol economaidd.
Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw.
Rwyf am ddechrau drwy gytuno â'r Llywodraeth: mae'n warthus y byddai'n well gan Lywodraeth y DU ymosod ar hawliau gweithwyr nag ymdrin yn effeithiol â'r caledi economaidd y mae'r gweithwyr hynny yn ei wynebu.
Os caf i ddechrau gydag un elfen o'r caledi, sef ynni, dywedodd y Gweinidog nad yw cynllun presennol y DU, er ei fod yn darparu cymorth, rhywfaint o gymorth, yn gwneud dim i ddiogelu rhag anwadalwch prisiau ynni. Nid wyf yn credu y byddwn yn gallu diogelu rhag anwadalwch prisiau yn llawn, ac mewn ffordd nad yw'n sybsideiddio cyfranddalwyr yn y sector preifat, oni bai ein bod yn gwladoli'r sector ynni. Gobeithio y byddai'n cytuno â'r egwyddor honno.
Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi penderfynu lleihau'r gefnogaeth i fusnesau bach drwy'r cynllun rhyddhad ar filiau ynni yn sylweddol, sy'n gadael busnesau bach yng Nghymru yn wynebu costau ynni uchel ofnadwy. Rydym wedi clywed eisoes bod un o bob pedwar busnes yn ystyried cau neu werthu os nad oes cynllun rhyddhad ar filiau ynni newydd yn cymryd ei le. Mae'r cyhoeddiad gan y Llywodraeth ar y cynllun benthyciadau busnes gwyrdd i'w groesawu'n fawr ac mae'n rhywbeth yr wyf i fy hun, Plaid Cymru, a grwpiau rhanddeiliaid arwyddocaol fel Ffederasiwn y Busnesau Bach ac UKHospitality wedi bod yn galw amdano, ond, hefyd, mae'r Ffederasiwn wedi bod yn galw am weithredu cynllun talebau 'cymorth i wyrddu' gan Lywodraeth y DU, wedi'i fodelu ar y cynllun 'Cymorth i Dyfu: Cynllun Digidol', er mwyn helpu busnesau i ddatgarboneiddio. O ystyried cyfarfodydd rhyngweinidogol diweddar y Gweinidog, a fyddai'n codi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a'u hannog i weithredu cynllun o'r fath i redeg ochr yn ochr â chynllun benthyg yma yng Nghymru?
Ac wrth gwrs rwy'n gwybod bod y Gweinidog eisoes yn codi'r materion sy'n ymwneud â dur. Mae Plaid Cymru yn ei gefnogi wrth alw ar Lywodraeth y DU i gamu i'r adwy a darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen ar gyfer datgarboneiddio'r sector. Rydym ni'n gwybod bod dur yn hanfodol i ddatgarboneiddio'r economi; mae angen dur arnom i adeiladu mathau adnewyddadwy o gynhyrchu ynni, fel gwynt ar y môr y soniodd y Gweinidog amdano. Dyna pam mae'n hanfodol y ceir cyllid i gefnogi datgarboneiddio dur. Mae ceisio datgarboneiddio, wrth gwrs, yn cael ei wneud yn anoddach gan y ffaith bod gwneuthurwyr dur y DU yn talu 30 y cant yn fwy am eu trydan na'u cymheiriaid yn yr Almaen, a hyd at 70 y cant yn fwy na'u cymheiriaid yn Ffrainc. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi datganiad manylach i'r Siambr mewn cysylltiad â'i drafodaethau gyda Llywodraeth y DU o ran y sector dur.
Nawr, rydym ni wedi clywed sôn am borthladdoedd rhydd yn natganiad y Gweinidog heddiw, yn ogystal ag yng nghwestiynau'r Prif Weinidog. Rwyf wedi bod yn glir ynghylch fy sefyllfa o ran porthladdoedd rhydd; nid wyf yn credu mai nhw yw'r ateb i'n problemau ni. Roedd Cyngres yr Undebau Llafur nôl yn 2020 yn dweud nad oes tystiolaeth bod porthladdoedd rhydd yn creu swyddi nac yn ysgogi twf. Gallwn fynd ymlaen, ond mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhagweld y bydd manteision treth mewn porthladdoedd rhydd yn Lloegr yn costio £50 miliwn y flwyddyn. A yw'r Llywodraeth wedi gwneud asesiad o'r goblygiadau yma yng Nghymru?
Tybed a allai'r Gweinidog hefyd roi eglurder ynghylch y rhan y mae'n ei chwarae yn y penderfyniad ar ba borthladd rhydd fydd yn cael ei ddatblygu yng Nghymru, yn ogystal â pha ran fydd gan y Senedd wrth graffu ar y penderfyniad. Rwy'n gwybod ei fod yn benderfyniad ar y cyd rhyngddo ef ac un o gyd-Weinidogion Llywodraeth y DU, ond, os bydd anghytuno, a fydd ganddo'r gair olaf? Ond hefyd a fydd Aelodau yn y Siambr hon yn cael pleidlais ar y penderfyniad, neu bleidlais ynghylch a ydym eisiau porthladdoedd rhydd o gwbl hyd yn oed?
O ran y pwynt sylweddol cyntaf y gofynnodd amdano, fe fyddwn yn ddiolchgar pe bai'n ysgrifennu ataf ynghylch manylion y cynllun y mae'n ei awgrymu, yn hytrach na cheisio rhoi ateb tri gair yn y Siambr heddiw.
O ran yr heriau o lai o gefnogaeth ynghylch prisiau ynni, mae'n werth atgoffa pobl, pan fydd Llywodraeth y DU yn siarad am gwsmeriaid annomestig, nad ydyn nhw'n siarad am wasanaethau cyhoeddus. Felly, nid yw gwasanaethau cyhoeddus yn gwsmeriaid domestig, ond maen nhw wedi'u heithrio o'r cymorth, a bydd hynny'n her wirioneddol mewn termau cyllidebol ar gyfer y gwasanaethau hynny a her gyllidebol y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hi hefyd.
O ran ymatebion grwpiau busnes, mae'n ddiddorol eu bod wedi bod yn gymysg. Yn ddealladwy, busnesau bach sy'n poeni fwyaf am dynnu'r gefnogaeth yn ôl. Mae amrywiaeth o fusnesau ynni-ddwys o feintiau bach, canolig a mwy, ac rwy'n credu y gwelwn ni heriau go iawn gyda'r lefel llai o gefnogaeth sydd ar gael. Mae'n dal i fod yn wir, yn fy sgyrsiau gyda busnesau a phartneriaid undebau llafur, bod costau ynni a chwyddiant yn dal i fod ar frig pryderon pobl wrth redeg busnesau, yna llafur a sgiliau, ac mae hynny'n cyffwrdd â rhai o'r pwyntiau am fuddsoddi yn y dyfodol, am gael pobl i fynd i swyddi mewn gwirionedd lle mae cyfleoedd i dyfu'r busnesau hynny, ac yna mae gennym her ein telerau masnachu o hyd gyda'n partneriaid Ewropeaidd. Ar hynny, roedd rhywfaint o gynnydd gweddol gadarnhaol mewn sgyrsiau ynghylch protocol Gogledd Iwerddon ar rannu data. Rwy'n gobeithio y bydd synnwyr cyffredin parhaus yn ein trefniadau, ac na fyddwn yn dychwelyd at y dulliau blaenorol o gyfathrebu a oedd yn ymddangos fel pe baen nhw wedi'u cynllunio i waethygu amodau yn hytrach na'r tebygolrwydd o fasnach lwyddiannus gyda phartneriaid.
Rwy'n parchu'r Aelod am barhau i siarad am borthladdoedd rhydd a gwneud ei safbwynt yn glir. Serch hynny, fe fyddwn yn ei atgoffa nad yw'r sefyllfa yr ydym wedi ei chyrraedd yn un sy'n gwbl ddieithr i Blaid Cymru. Yn yr ornest am yr arweinyddiaeth flaenorol, roedd y person sydd ar hyn o bryd yn swydd arweinydd Plaid Cymru, bryd hynny, yn sôn am fod â mwy nag un porthladd rhydd ac am fod â phorthladd rhydd fel safbwynt polisi o ran hynny.
Nawr, mae beth yw porthladd rhydd a'r hyn nad yw porthladd rhydd yn gallu bod yn wahanol, oherwydd roedd gennym borthladdoedd rhydd yn y DU cyn hyn pan oeddem yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, yna cafodd y Ceidwadwyr wared arnyn nhw ar ôl cyfnod gwahanol. Nid yw'r hyn sy'n cael ei gynnig nawr yr un fath â'r hyn a gynigiwyd yn wreiddiol pan gyd-awdurwyd neu noddwyd papur polisi gan Rishi Sunak. Mae'r prosbectws sydd gennym ni yn glir ynghylch cynnwys gwaith teg, ac mae'n rhaid gwneud hynny'n glir fel rhan o'r—[Anghlywadwy.]—a chynaliadwyedd, pethau efallai na fyddech chi wedi disgwyl eu gweld pe bai wedi cael ei wneud gan y Ceidwadwyr ar eu pennau eu hunain yn Llywodraeth y DU, gan geisio ysgrifennu cais y prosbectws hwnnw. Felly, mae wedi bod yn broses o rannu a chyfaddawdu rhwng y ddwy Lywodraeth. Felly, rydyn ni wedi dod i sefyllfa lle mae rhywbeth nid yn unig y gallwn ni fyw gydag ef, ond i weld y cyfleoedd, oherwydd, fel y dywedais i wrth ymateb i gwestiynau gan Paul Davies, mae yna gyfleoedd i fuddsoddi mewn porthladdoedd mewn gwahanol rannau o Gymru. Edrychaf ymlaen at gael y cyngor proffesiynol nid yn unig gan fy swyddogion, ond mewnbwn gan swyddogion Llywodraeth y DU yn ogystal ynghylch natur pob un o'r ceisiadau sydd wedi eu cyflwyno, a byddaf wedyn yn gwneud penderfyniad ar y cyd â Gweinidog y DU. Felly, nid yw'n ymwneud â rhywun â feto dros y llall, mae'n golygu y bydd angen i ni ddod o hyd i le i gytuno, fel arall ni allwn wneud penderfyniad.
Y craffu ar gyfer hynny, rwy'n disgwyl y byddwn ni—. Fel rydych chi wedi gweld yr wythnos diwethaf, fe fydd datganiad, fe fydd yna gyhoeddiad, ac rwy'n disgwyl y bydd Aelodau eisiau fy holi yn y Siambr hon, ac o bosib yn y pwyllgor yr ydych chi'n aelod ohono, ynghylch beth sy'n rhan o bob un o'r dewisiadau hynny a sut yr ydym ni wedi cyrraedd sefyllfa benodol. Felly, rwy'n llwyr ddisgwyl y bydd craffu agored a chyhoeddus ar unrhyw ddewis sy'n cael ei wneud. Rwy'n gobeithio bod hynny'n ddefnyddiol, sef nodi'r dewisiadau yr ydym yn eu gwneud a'r ffaith ein bod yn gwneud rhywbeth i geisio cynnal cyfleoedd i dyfu economi Cymru ac i beidio â dadleoli gweithgaredd, rhywbeth y gwn i oedd un o bryderon yr Aelod.
Rydym bron â defnyddio'r amser a neilltuwyd i gyd ac mae gennyf i bum Aelod yn dymuno siarad o hyd. Felly, a wnaiff pob Aelod fod yn fyr ac a wnaiff y Gweinidog fod yn gryno yn ei ymatebion?
Fe geisiaf i.
Huw Irranca-Davies.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gweinidog, wrth groesawu'r datganiad heddiw a'i bwyslais clir iawn ar werth cymdeithasol a phartneriaeth gymdeithasol yn yr economi, a gaf i ofyn a fydd Gweinidogion y Llywodraeth yn parhau i weithio gyda'r rhai ohonom—ac rwy'n tynnu sylw'r Siambr at fy aelodaeth o'r Blaid Gydweithredol a fy ngwaith yn cadeirio grŵp Cydweithredol y Senedd—yr Aelodau hynny sydd eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn adeiladu ar ei gwaith sydd eisoes yn drawiadol ar dyfu sector perchnogaeth gan y gweithwyr yr economi? Diolchwn i'r Dirprwy Weinidog am ymgysylltu â ni ynghylch y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), ac rydym yn gofyn sut y gallai'r ddeddfwriaeth nodedig hon gyfeirio'n gliriach at berchnogaeth gan y gweithwyr, ond gofynnwn hefyd i'r Gweinidog a fydd yn parhau i weithio gyda ni ar ffyrdd ychwanegol y gallwn dyfu perchnogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru gyda mesurau nad ydynt yn ddeddfwriaethol, wrth gwrs, ond hefyd y posibilrwydd o ddeddfwriaeth sy'n torri tir newydd yma yng Nghymru pe bai aelod o'r meinciau cefn, efallai un o nifer o aelodau meinciau cefn y Blaid Gydweithredol yma yn y Siambr hon, yn gallu cyflwyno cynnig cryf a difrifol yn ystod tymor y Senedd hon. A fyddai'n cytuno i weithio gyda ni ar hynny?
Efallai y dylwn i nodi mewn ymateb fy mod hefyd yn aelod o'r Blaid Gydweithredol. Fodd bynnag, wrth ateb y pwyntiau gan yr Aelod, rwy'n credu ei bod yn deg dweud hyn: mae perchnogaeth gan y gweithwyr yn mwynhau statws pwysig yn Llywodraeth Cymru, gyda rhaglen glir ar gyfer ymrwymiad y llywodraeth wrth gysylltu ein cynnydd â'i thwf. Credwn y bydd twf busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn cyfrannu at economi Cymru gryfach, decach, oherwydd bod ganddyn nhw ddatblygiad cynaliadwy wedi'i gynnwys yn eu DNA. Er gwaethaf y twf cyflym yn nifer y busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rwy'n cydnabod yr angen parhaus i ddathlu'r rhan y maen nhw'n ei chwarae. Bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yn cyfrannu at lesiant trwy wella gwasanaethau cyhoeddus drwy weithio mewn partneriaeth gymdeithasol, caffael cyhoeddus sy'n gyfrifol yn gymdeithasol a hyrwyddo gwaith teg. Byddwn nawr yn archwilio ffyrdd y gallai'r canllawiau ynghylch y Bil gyfeirio'n ddefnyddiol at fusnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr.
Er nad y Bil partneriaeth gymdeithasol a chaffael cyhoeddus yw'r cerbyd cywir i ddeddfu ar berchnogaeth gan y gweithwyr, byddaf, wrth gwrs, yn gweithio'n gadarnhaol gyda chynnig deddfwriaethol AS cryf yn y dyfodol ynghylch perchnogaeth gan y gweithwyr. Er na allaf warantu y byddai deddfwriaeth yn dilyn, mae ein hymrwymiad i'r agenda polisi yn golygu y byddem yn sicr yn gweithio gyda chynnig o'r fath. Fel yn achos ein dull economi sylfaenol, a llawer o agendâu uchelgeisiol eraill yn ein rhaglen lywodraethu, credwn y bydd cynnydd yn cael ei wneud heb ddeddfwriaeth, a dyna pam nad wyf yn gweld bod cynnig yn angenrheidiol ar gyfer gweithredu. Rwy'n ddiolchgar am y trafodaethau yr ydw i a'r Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol wedi eu cael gyda Huw Irranca-Davies hyd yn hyn. Byddwn nawr yn manteisio ar y cyfle i ymgysylltu ynghylch sut y gallai'r canllawiau statudol ac anstatudol ar gaffael a gwaith teg helpu i hyrwyddo egwyddorion perchnogaeth gan y gweithwyr o fewn y fframwaith a ddarperir gan y Bil ac yn ein polisi ehangach.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, yn arbennig y cyfeiriadau at y ganolfan ymchwil technoleg uwch ac at y diwydiant dur? Ond un elfen allweddol o economïau'r dyfodol, yng Nghymru ac ar draws y byd, fydd seilwaith digidol a chysylltedd digidol. Llywydd, rwyf yn datgan buddiant fel aelod di-dâl o gonsortiwm y prosiect, consortiwm prosiect 5G, dan arweiniad Prifysgol Bangor. Mae'r Gweinidog yn gwybod nad ydw i'n dymuno gweld y gogledd yn unig yn cael ei gysylltu, ond rwyf eisiau gweld y gogledd yn creu ac yn cynhyrchu'r genhedlaeth nesaf o'r technolegau hyn. Gyda hynny mewn golwg, a gaf i ofyn i'r Gweinidog pa sgyrsiau y mae wedi'u cael gyda chyd-Weinidogion Llywodraeth y DU ynghylch buddsoddi mewn seilwaith digidol ac ymchwil a datblygu'r mathau hyn o dechnolegau?
Cewch. Yn gyntaf, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau gyda chyd-Weinidogion yn Yr Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn Llywodraeth y DU. Rwy'n disgwyl cael cyfarfod gweinidogion o fewn yr wythnosau nesaf ar yr union bwnc sef ar y potensial i fuddsoddi ymhellach i wneud hynny. Felly rwy'n falch o safbwynt y gogledd ond rwy'n credu ym mhob un o'n fframweithiau economaidd rhanbarthol, cydnabyddir cysylltedd digidol nid yn unig fel rhan allweddol o'r economi heddiw, ond rhan fwy fyth o'r ffordd y bydd yr economi'n gweithio yn y dyfodol. Yn bendant, mae hwn yn rhan o'r agenda sydd gennyf i, ac erbyn hyn, wrth gwrs, mae gennyf arweinyddiaeth gweinidogion ar gyfer y strategaeth ddigidol i Lywodraeth Cymru.
Gweinidog, rwy'n credu bod y rhyfel yn Wcráin wedi dangos yn glir pa mor ansefydlog ac anrhagweladwy yw'r byd yr ydym yn byw ynddo ac mae llawer o wledydd bellach yn gweithio'n galed iawn i gynnal a chefnogi eu diwydiannau allweddol, eu diwydiannau strategol. Roeddwn yn falch iawn eich bod wedi cyfeirio at y diwydiant dur ac yn wir y diwydiant lled-ddargludyddion yn eich datganiad, oherwydd rwy'n credu eu bod yn ddiwydiannau strategol sydd wir angen cefnogaeth. Yn lleol i mi, Gweinidog, fel y gwyddoch chi, mae enghreifftiau o ganlyniadau diffyg strategaeth Llywodraeth y DU sef popeth sydd ei angen i gefnogi a meithrin datblygiad. Felly, gyda Liberty Steel, rydym yn gweld y cyhoeddiad diweddar fel darlun o'r anawsterau yn y diwydiant dur, a gyda Nexperia, gwelwn ganlyniad Llywodraeth y DU yn gwneud penderfyniad ac yna cerdded i ffwrdd o'r penderfyniad hwnnw, yn hytrach na nodi dewis arall hyfyw a fyddai'n darparu'r un math o ddatblygiad a chefnogaeth i swyddi y byddai'r caffaeliad gan Nexperia wedi'i gyflawni. Felly, o ran y ddwy enghraifft hynny, Gweinidog, tybed a wnewch chi ddweud rhywbeth am yr hyn mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o ran y sefyllfaoedd presennol hynny.
Diolch. Fe geisiaf ymdrin â'r materion mor ddi-oed ag y gallaf, gan gofio'r hyn a ddywedodd y Dirprwy Lywydd. O ran Liberty Steel, rwyf wedi cael sgwrs gyda Community am y sefyllfa bresennol. Byddwn ni wrth gwrs yn cefnogi gweithwyr sy'n wynebu amser ansicr, ond hefyd yn ceisio deall beth mae'r saib a gyhoeddwyd gan y cwmni mewn gwirionedd yn ei olygu. Nid yw'n hollol glir eto beth yw hynny. Yr hyn sy'n amlwg, serch hynny, yw bod dyfodol i'r sector dur. Mae dyfodol i ddatgarboneiddio'r ffordd mae dur yn cael ei gynhyrchu. Mae hynny'n gofyn am fuddsoddiad gan y diwydiant ei hun, ond hefyd mae angen i'r Llywodraeth benderfynu sut mae'n mynd i wneud hynny. Mae angen i ni benderfynu a ydym ni'n gyfforddus yn cynhyrchu hydrogen ar gyfer dur fel rhywbeth sy'n mynd i gael ei ddatblygu yn yr Iseldiroedd yn Ewrop, nid yma yn y DU, ac rwy'n credu bod angen i Lywodraeth y DU fod yn glir iawn: a yw'n gweld y sector dur fel gallu sofran ar gyfer economi fodern, fel rwy'n credu ein bod ni yma yng Nghymru? Ac os yw'n gwneud hynny, mae angen iddi weithredu yn y ffordd honno i sicrhau bod dewisiadau buddsoddi yn cael eu gwneud mewn gwirionedd, gan gynnwys pethau ynghylch cynhyrchu sgrap a chadw mwy o'r metel sgrap hwnnw yma yn y DU.
O ran Nexperia, rwyf wedi cael nifer o sgyrsiau uniongyrchol ynghylch hyn, gyda'r gweithlu ac yn wir gyda Llywodraeth y DU, ac mewn gwirionedd yr hyn yr ydym yn chwilio amdano yw dealltwriaeth o'r strategaeth tymor hwy sydd ei hangen ar gyfer Nexperia a'r sector ehangach ei hun. Felly, rhywbryd, fel y soniais yn fy natganiad, byddai croeso mawr gan bawb i gyhoeddiad ynghylch y strategaeth honno, a'r dewisiadau buddsoddi y dylid eu gwneud, ond mae hwn yn bendant yn faes twf i Gymru.
Un o'r prosiectau seilwaith strategol allweddol sy'n dibynnu ar gymorth Llywodraeth y DU yw gwneud cynnydd ar argymhellion y comisiwn Burns i gryfhau'r rheilffyrdd rhwng y dwyrain a'r gorllewin, rhwng Casnewydd a Chaerdydd a thu hwnt, sef asgwrn cefn metro'r de-ddwyrain. Rwy'n gwerthfawrogi nad yw trafnidiaeth yn eich portffolio, ond rwyf eto i weld unrhyw gynnydd o gwbl ar fater mor strategol bwysig, sy'n hanfodol ar gyfer denu busnesau newydd i'r de-ddwyrain. Ydych chi'n gallu rhoi gwybod am unrhyw newid trywydd gan Lywodraeth ddiweddaraf y DU, unrhyw lygedyn o obaith o fuddsoddiad y Llywodraeth yn yr hyn y mae hi'n gyfrifol amdano, am seilwaith y llinell reilffordd o'r dwyrain i'r gorllewin, y mae Llywodraeth y DU yn llwyr gyfrifol amdano? Oherwydd hebddo, ni allaf weld sut y byddwn yn gallu cynyddu datblygu economaidd yn ogystal â thrafnidiaeth integredig.
Mae'r Aelod yn iawn i dynnu sylw at y ffaith bod hwn yn gyfrifoldeb a gedwir yn ôl ac rydym yn chwilio am gynnydd go iawn, nid geiriau caredig yn unig yn y maes hwn. Mae'r Aelod hefyd yn iawn fod y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd yn arwain yn y maes hwn. Rwy'n siŵr y byddai'n hapus i siarad â'r Aelod yn uniongyrchol, ond ni ddylai buddsoddi yn y maes hwn fod yn dda i'r economi ac i drafnidiaeth yn unig; mewn gwirionedd, pe byddem yn gwneud pethau'n iawn, byddai hefyd yn rhan o greu dyfodol i'r sector dur, a sut y gellid ac y dylid rhedeg y caffaeliad hwnnw. Mae'n rhan o'r her ynghylch gwelliannau seilwaith y rheilffyrdd ym mhob man yn y DU, ac rwyf eisiau gweld y seilwaith hwnnw'n gwella, a'i wella gyda dur o Brydain gan gefnogi mwy o swyddi ym Mhrydain.
Ac yn olaf, Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar, Dirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, er rhaid i mi ddweud fy mod yn gweld ei ymddiriedaeth yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig braidd yn druenus, ac o bosib yn anaddas. Rydym wedi cael dadl yn gynharach heddiw adeg y cwestiynau ynghylch y ffordd y mae'r drefn gymhorthdal yn cael ei rheoli, ac mae wedi dyfynnu ei hun y brad a fu ynghylch cyllid yr UE. Felly, ni allaf weld unrhyw reswm dros yr optimistiaeth yna, ond rydym ni i gyd yn edmygu optimist, ac fel cefnogwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd, rwy'n eithaf cyfarwydd â hyn fy hun.
Ond gadewch i mi ddweud hyn wrth y Gweinidog: rwy'n meddwl weithiau ein bod ni mewn perygl o foddi ein hunain mewn proses, a cholli golwg ar ein hamcanion, a cholli golwg ar ein diben. Mae dau brawf yr wyf am eu gosod i'r Gweinidog ynghylch y datganiad hwn a'r gwaith sy'n deillio ohono. Y cyntaf yw cynhyrchiant. Sonnir am gynhyrchiant bron fel sylw wrth fynd heibio yn y datganiad hwn, ond dyma'r argyfwng mwyaf sy'n wynebu economi Cymru, a byddaf eisiau gweld buddsoddi i wella cynhyrchiant.
Yr ail brawf yw sut mae'n effeithio ar y bobl yr wyf i'n eu cynrychioli ym Mlaenau Gwent. Yn rhy aml, mae ardal Blaenau Gwent yn cael ei thrin fel y cyrion gan Lywodraeth Cymru, ac nid ydym yn gweld y buddsoddiad sydd ei angen arnom i sbarduno twf economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd. Ond wrth gwrs, nid yw Llywodraeth y DU hyd yn oed yn gwybod ble mae Blaenau Gwent, a'r hyn rydym ni'n ei weld o bosib yw Blaenau Gwent yn dod yn gyrion ar y cyrion. Felly, rwyf eisiau sicrwydd y bydd y Llywodraeth a'r Gweinidog yn gosod amcanion clir fel y gall pobl Blaenau Gwent weld canlyniadau'r gwaith hwn, oherwydd prawf o'r effaith ar y bobl yr ydym yn eu cynrychioli yw'r prawf mwyaf oll.
Rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt cwbl deg, fel cynrychiolydd Blaenau Gwent, ynglŷn â beth fydd yr effaith i'w etholaeth, i'r gymuned y mae wedi ei fagu ynddi a bellach yn ei chynrychioli. I fod yn deg, y tu allan i'r Siambr, Dirprwy Lywydd, mae'r Aelod yn gwneud pwyntiau weddol debyg, weithiau ychydig yn fwy lliwgar, ond mae'n rhan o'i swyddogaeth. Felly, mae'n rhan o'r prawf, sef, 'A fydd yn gwneud gwahaniaeth?', nid yn unig ar gyfer prosiectau unigol—gallwn bwyntio at y gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda Thales, er enghraifft, ond nid dim ond ym Mlaenau y mae hwnnw wedi ei sefydlu—ond pa wahaniaeth y bydd yn ei wneud yn fwy eang. Felly, y gwaith y mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog addysg wedi'i weld yno ynghylch ystafelloedd dosbarth 5G, a'r gallu sydd ganddo i gael effaith llawer ehangach a dyfnach.
O ran eich pwynt am gynhyrchiant, rydych chi'n iawn, wrth gwrs. Rhai o'r heriau sy'n ymwneud â buddsoddi mewn sgiliau, un o'r prif bwyntiau, yw mabwysiadu gwahanol welliannau i brosesau, a'r gwahaniaeth y gall hynny ei wneud mewn ystod gyfan o sectorau; y gwelliant mewn sgiliau arwain a rheoli—her allweddol yn economi Cymru; ond hefyd mabwysiadu nid yn unig atebion technoleg newydd a blaengar, pan fo, mewn gwirionedd, llawer o'r mabwysiadu yn ymwneud â phethau sydd eisoes yn aeddfed. Fe wnaeth y pandemig, er enghraifft, orfodi llawer o fusnesau i fynd i'r byd ar-lein lle nad oedden nhw wedi bod. Wel, mewn gwirionedd, mae cyfle yno wrth weithredu mewn ffordd wahanol. Hefyd, mae angen sicrhau eich bod chi'n ddiogel ar-lein hefyd. Mae hefyd yn ymwneud â deall ffyrdd syml sy'n cael eu mabwysiadu ac yn aeddfedu mewn sectorau eraill i sicrhau eich bod yn gwthio mwy o fusnes a mwy o draffig tuag atoch.
Er hynny, rwy'n credu, yn ogystal â'r holl heriau hynny pryd yr ydym yn eu deall—ni fyddwn yn darlunio fy agwedd adeiladol tuag at y berthynas â Llywodraeth y DU yn y ffordd y byddai'r Aelod yn ei wneud—ond mae meysydd lle gwelwn wahanol rannau o Lywodraeth y DU yn ymddwyn yn wahanol. Mae rhai lle mae'n fwy anodd ymdrin â nhw nag eraill, ac fel y soniais yn y datganiad, y ganolfan dechnoleg uwch, er enghraifft, y dylid lleoli honno yn etholaeth Jack Sargeant. Mewn gwirionedd, mae hynny'n enghraifft dda o ble y gallwn weithio gyda'n gilydd, ac rydym eisiau mwy o hynny a llai o'r brad llwyr sydd wedi digwydd ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n rhywbeth y byddwn yn parhau i'w drafod nes i'r sefyllfa gael ei datrys. Efallai y bydd hynny angen newid yn Llywodraeth y DU.
Diolch i'r Gweinidog.